BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 9 Mai, 2005, 06:03 GMT 07:03 UK
Fflam Olympaidd yn Llanelli
Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys a Phrif Weithredwr Sir Gār yn tanio'r ffagl
Cafodd y fflam ei gynnau yn Llanelli
Cafodd fflam ymgais Prydain i lwyfannu Gemau Olympaidd Arbennig 2012 ei chynnau yn Llanelli ddydd Sul.

Mae'r ffagl Olympaidd yn teithio drwy Brydain ar hyn o bryd.

Llanelli ydy'r unig le yng Nghymru y bydd y fflam, Fflam Gobaith, yn ymweld ā hi.

Cyrhaeddodd y ffagl Lanelli yn nwylo diogel Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Gār.

Cafodd groeso yr un mor gynnes ā'r gwres yr oedd y fflam yn ei rhyddhau.

Mae'n addas bod y fflam yn ymweld ā Sir Gār gan mai o'r sir yma y mae'r nifer mwya o athletwyr sy'n rhan o dīm Cymru nag unrhyw sir arall drwy Brydain gyfan.

"Pleser dweud bod 92 o Sir Gār yn cynrychioli Cymru yn Glasgow eleni," meddai'r Cynghorydd Clive Scourfield o adran hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin.

"Mae hyn yn fraint fawr i'r sir ac yn anrhydedd i'r rhai sy'n cymryd rhan.

"Ac mae'n adlewyrchu yr hyn y mae'r cyngor yn ei wneud i hyfforddi a rhoi cyfle i'r bobl ifanc."





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^