Tony Blair a Peter Hain yn ne Cymru wythnos cyn yr etholiad
|
Mae penderfyniad Tony Blair i roi cyfrifoldeb am Ogledd Iwerddon yn ogystal â Chymru i Peter Hain wedi cael ei feirniadu gan Blaid Cymru.
Wrth i'r Prif Weinidog ad-drefnu ei gabinet derbyniodd AS Castell-nedd gyfrifoldeb i fod yn Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon yn ogystal â'i gyfrifoldebau yng Nghymru.
Dywedodd Plaid Cymru bod hyn yn "annheg mewn egwyddor ac yn ymarferol" i bobl Cymru a Gogledd Iwerddon.
Ond dywedodd Mr Hain y byddai'n gweithio i "sicrhau'r gorau" i Gymru.
Mae Mr Hain, 54 oed, yn olynu Paul Murphy, AS Torfaen, fel Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon sy'n gadael y Cabinet.
Nid dyma'r tro cyntaf iddo olynu Mr Murphy, gan iddo ei ddilyn i swydd Ysgrifennydd Cymru yn 2002.
Dyma'r ail waith i Mr Hain gyfuno dyletswyddau gan ei fod wedi bod yn Ysgrifennydd Cymru ac Arweinydd Tŷ'r Cyffredin.
Fel Arweinydd y Tŷ roedd Mr Hain yn gyfrifol am lunio cynlluniau'r llywodraeth am ddeddfau newydd fydd yn cael eu datgelu yn Araith y Frenhines yn ddiweddarach yn y mis.
Annhegwch
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar gyfansoddiad, Helen Mary Jones, bod swydd newydd Mr Hain yn "newyddion drwg am gynrychiolaeth go iawn i Gymru yng Nghabinet y Deyrnas Unedig."
"Yn y llywodraeth flaenorol roedd Mr Hain yn Ysgrifennydd Cymru rhan amser
"Rwan mae ganddon ni'r cyfuniad annheg.
"Mae'n annheg mewn egwyddor ac yn ymarferol i bobl Cymru ac i drigolion Gogledd Iwerddon."
Oherwydd canlyniadau'r etholiad yng ngogledd Iwerddon mae Ms Jones yn credu y bydd Mr Hain yn y dalaith yn aml iawn.
Fel Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon fe fydd Mr Hain yn gyfrifol am adfer datganoli yno.
Cafodd Cynulliad Stormont ei atal ym mis Hydref 2002 sy'n golygu mai gan Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon y mae llawer o bwerau'r dalaith am y gwasanaethau yno.
Dywedodd Mr Hain bod hi'n "anrhydedd" i barhau i gynrychioli Cymru yn y Cabinet.
"Mae'n gyfnod allweddol i wneud y gwaith ac fe fyddaf yn parhau i wasanaethu Cymru gyfan a sicrhau bod llais pobl Cymru yn cael ei glywed yn Llundain ac yng Nghaerdydd."