BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 6 Mai, 2005, 20:00 GMT 21:00 UK
Swydd Gogledd Iwerddon i Hain
Peter Hain
Bydd Peter Hain yn olynnu Paul Murphy yng Ngogledd Iwerddon

Mae AS Castell-nedd wedi cael ei benodi yn Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon ac fe fydd yn parhau fel Ysgrifennydd Cymru.

Yn dilyn canlyniadau'r etholiad mae'r Prif Weinidog wedi bod yn ad-drefnu ei gabinet.

Penodwyd Peter Hain i'r gwaith nos Wener gan Tony Blair. Cyn yr etholiad roedd Mr Hain yn Ysgrifennydd Cymru ac Arweinydd Tŷ'r Cyffredin ac unwaith eto fe fydd yn cyfuno dau ddyletswydd.

Mae'n olynu Paul Murphy, AS Torfaen, fel Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon sy'n gadael y Cabinet.

Nid dyma'r tro cyntaf iddo olynu Mr Murphy, gan iddo ei ddilyn i swydd Ysgrifennydd Cymru yn 2002.

Fel Arweinydd y Tŷ roedd Mr Hain yn gyfrifol am lunio cynlluniau'r llywodraeth am ddeddfau newydd fydd yn cael eu datgelu yn Araith y Frenhines yn ddiweddarach yn y mis.

Fel Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon fe fydd Mr Hain yn gyfrifol am adfer datganoli yno.

Cyfuno dyletswyddau

Cafodd Cynulliad Stormont ei atal ym mis Hydref 2002 sy'n golygu mai gan Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon y mae llawer o bwerau'r dalaith am y gwasanaethau yno.

Ym mis Mehefin 2003 ychwanegodd at ei ddyletswyddau yng Nghymru rl Arweinydd y Tŷ.

Cafodd ei ethol fel aelod yng Nghastell-nedd yn is-etholiad 1991.

Dywedodd Mr Hain bod hi'n "anrhydedd" i barhau i gynrychioli Cymru yn y Cabinet.

"Mae'n gyfnod allweddol i wneud y gwaith ac fe fyddaf yn parhau i wasanaethu Cymru gyfan a sicrhau bod llais pobl Cymru yn cael ei glywed yn Llundain ac yng Nghaerdydd."

  • Ymhlith rhai o'r newidiadau i'r Cabinet y mae David Blunkett yn dychwelyd fel Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau.

    Mae John Prescott, Gordon Brown a Jack Straw yn cadw eu swyddi fel Dirprwy Brif Weinidog, Canghellor ac Ysgrifennydd Tramor.

    Y Dr John Reid fydd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Newydd wrth I Geoff Hoon symud i fod yn Arweinydd Tŷ'r Cyffredin.

    A bydd Alistiar Darling yn Ysgrifennydd Trafnidiaeth ac Ysgrifennydd Yr Alban.





  • Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^