Dyma'r trydydd tro i Tony Blair a'i deulu gyrraedd Downing Street
|
Wrth ennill buddugoliaeth hanesyddol a dychwelyd i Downing Street am drydydd tymor dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi "gwrando a dysgu" ar yr hyn mae'r cyhoedd eisiau.
Er bod y Blaid Lafur wedi ennill buddugoliaeth yn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau fe gollodd y blaid seddi i'r pleidiau eraill a dim ond mwyafrif o 66 sydd ganddyn nhw bellach.
Yn Lloegr, fel yng Nghymru, llwyddodd un o gyn-aelodau'r Blaid Lafur, George Galloway, i guro'r ymgeisydd Llafur a dychwelyd i San Steffan fel aelod annibynnol.
Er bod y Blaid Geidwadol wedi ennill tir, cyhoeddodd eu harweinydd, Michael Howard, ddydd Gwener na all arwain y blaid i etholiad arall a'i fod yn ildio'r awenau pan y bydd y blaid wedi penderfynu sut i fynd ati i ethol ei olynydd.
Tony Blair ydi'r arweinydd Llafur cyntaf i arwain ei blaid i drydydd tymor ond mae'r dyfalu rwan am ba mor hir y bydd wrth y llyw.
Er ennill tir penderfynu ildio'r awenau wnaeth Michael Howard
|
Bu Irac yn bwnc llosg yn ystod yr ymgyrch ac yn sicr felly yn etholaeth Bethnal Green & Bow roedd ar frig yr agenda wrth i Blaid Mr Galloway, Respect, gipio sedd Llafur saff.
Yn ei araith ar ôl y canlyniad ymosododd ar Mr Blair gan bod maniffesto Repect yn erbyn y rhyfel yn Irac ac yn apelio tuag at y gymuned Moslemaidd.
Roedd y rhyfel yn Irac ar yr agenda hefyd yn etholaeth Mr Blair, Sedgefield.
Ennill mwy o seddi
Un o'r ymgeiswyr yno oedd Reg Keys, tad i Tom Keys o Lanuwchllyn a gafodd ei ladd yn y rhyfel.
Daeth Mr Keys yn bedwerydd yn yr etholaeth gyda 4,252 pleidlais ac fe alwodd ar Mr Blair i ymddiheuro i deuluoedd y milwyr gafodd eu lladd.
Dywedodd Charles Kennedy mai gwleidyddiaeth tair plaid fydd o hyn ymlaen
|
Wrth i fwyafrif Llafur ostwng drwy'r wlad fe wnaeth y Ceidwadwyr ennill mwy o seddi.
Ond penderfynodd Mr Howard na fydd yn gallu ymladd etholiad arall fel arweinydd ac y byddai'n ildio i rywun ifanc.
Dywedodd Mr Howard bod canlyniad ac ymgyrch ei blaid wedi dangos bod hi'n gallu "dal ei phen yn uchel".
Ond drwy Loegr llwyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol i ennill tir ac ennill aelodau wrth i'w harweinydd Charles Kennedy ddweud mai "gwleidyddiaeth tair plaid" fydd yn San Steffan bellach.
Wrth gael 62 aelod yn Nhŷ'r Cyffredin dyma'r nifer mwya i'r blaid ers y 1920au.
Ychwanegodd Mr Kennedy mai dyma fydd plaid genedlaethol y dyfodol.