Cipiodd Jenny Willott sedd Canol Caerdydd oddi ar Jon Owen Jones
|
Mae'r bocsys pleidleisio wedi gwagio; y canlyniadau wedi cael eu cyhoeddi gyda'r ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau pacio ar gyfer y daith i San Steffan.
Ar sawl aelwyd ar hyd a lled Cymru, mi fydd mwy na un ymgeisydd yn ail afael ar eu perthynas gyda theulu. Golyga pwysau etholiad fod gwleidydda wedi mynd yn alwedigaeth llawn amser am dros fis a hynny'n caniatáu fawr ddim amser hefo anwyliaid
Mi fydd cyfle i rai fu'n aelodau seneddol ond a gollodd eu seddi, i dreulio mwy o amser gyda'u teuluoedd.
Dyna fydd yn digwydd yn achos Jon Owen Jones gollodd Canol Caerdydd; Gareth Thomas gollodd Gorllewin Clwyd a chyda Simon Thomas a Huw Edwards gollodd yng Ngheredigion a Mynwy.
 |
CANLYNIAD CYMRU 2005
Llafur: 29 sedd (-5); 42.7% (-5.9%)
Democratiaid Rhyddfrydol : 4 sedd (+2); 18.5% (+4.6%)
Ceidwadwyr: 3 sedd (+3); 21.4% (+0.4%)
Plaid Cymru: 3 sedd (-1); 12.6% (-1.7%)
Annibynnol: 1 sedd (+1)
Nifer wnaeth bleidleisio: 62.4% (+1.8%)
|
Nodyn mwyaf trawiadol etholiad 2005 oedd amrywiaeth y canlyniadau. Wrth i Tony Blair ysgubo i Downing Street ar don o fwyafrif Llafur anferthol yn 1997, dechreuwyd ar gyfnod o wleidyddiaeth digon clir: Llafur oedd yn teyrnasu; y Ceidwadwyr heb unrhyw seddau Seneddol; Plaid Cymru'n glud yn eu cadarnleoedd felly y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Canolbarth
Ond mae lle i ddadlau heb fynd i ormodiaeth, fod etholiad 2005 wedi torri sawl mowld gwleidyddol yng Nghymru.
Wrth wylio'r canlyniadau yn torri yn ystod y nos, roedd dyn yn cael y teimlad o fod yn gwylio'r haul yn machlud ar gyfnod o hanes gwleidyddol Prydain.
Mae Tony Blair eisioes wedi dweud na fydd yn arwain ei blaid yn yr etholiad nesaf.
Y cwestiwn sy'n codi o ganlyniadau'r etholiad yma a chwestiwn fydd angen ei ateb yn ystod y senedd nesaf yw: pa mor ddiogel yw gwaddol Blair-eth.
Ceredigion
Nid yn ystyr o bolisïau, wedi'r cwbl Gordon Brown fel Canghellor drefnodd fod cyllid digonol ar gael i dalu am bolisïau dadleuol Tony Blair.
Beth fydd angen ei ateb yw pa mor ddiogel fydd ideoleg Blair-aeth wedi i Tony Blair fynd?
Llwyddodd Mark Williams i gipio Ceredigion oddi ar Simon Thomas a Phlaid Cymru
|
Bu Plaid Cymru yn uchel iawn eu cloch ac fel iâr ar ben tomen, cyn ac yn ystod ymgyrch 2005 gan gymeryd yn ganiataol eu bod nhw am lwyddo i ddisodli'r Aelod Llafur yn Ynys Môn. Doedd dim sôn o gwbwl am y posibilrwydd mae aelod seneddol y blaid yng Ngheredigion, Simon Thomas, fyddai'n colli ei le.
Ond dyna ddigwyddodd. Mae Eirug Wyn ar eu ffordd adre i'r Waunfawr a Simon Thomas yn chwilio am swydd newydd. Llwyddodd Elfyn Llwyd i gadw Meirionydd Nant Conwy ac Adam Price i gynyddu ei fwyafrif yn sylweddol.
Mae methiant Plaid Cymru yn gwrthgyferbynnu gyda pherfformiad plaid yr SNP yn yr Alban: llwyddodd Plaid Alex Salmon i gynyddu nifer eu seddau nhw.
Mae canlyniad Plaid Cymru yn codi cwestiynau sylfaenol ynglŷn â sut blaid yw Plaid Cymru yn y bon.
Faint o ffyddloniaid y Blaid sydd mewn gwirionedd ac yn eu calon yn gyfforddus o glywed eu bod nhw'n perthyn i Blaid sosialaidd?
Be am ddyfodol yr arweinyddiaeth drwy bwyllgor?
Be am holl strategaeth o gael ei galw'n Blaid Cymru The Party of Wales.
Democratiaid Rhyddfrydol
Mae canlyniadau 2005 yn dangos nad ydi hi ddim byd o'r fath. Mae na gryn waith meddwl i wneud rhwng rwan ac etholiadau'r Cynulliad yn 2007.
Mae'r Ceidwadwyr yn ôl gyda rhannau o fap Seneddol Cymru yn las am y tro cyntaf ers 1997.
David Davies oedd y cyntaf o dri Ceidwadwr i gael ei ethol
|
Methodd Guto Bebb ac Alun Cairns i gyrraedd San Steffan ond llwyddodd Ceidwadwyr yng Ngorllewin Clwyd; Mynwy a Phreseli Penfro i gipio seddau oddi ar y Blaid Lafur.
Yr her i Geidwadwyr Cymru fydd i bontio'r gagendor rhwng y Blaid yn y Cynulliad Cenedlaethol a'r cynghreiriaid Ceidwadol yn San Steffan ac i roi ar gig ar esgyrn y teitl o fod yn Blaid Geidwadol Gymru.
Plaid Charles Kennedy oedd enillwyr 2005. Does hi ddim yn gamp mor fawr â hynny i ddisodli mwyafrif bregus Jon Owen Jones yng Ngorllewin Caerdydd. Ond mi roedd disodli Simon Thomas yn fuddugoliaeth cwbwl annisgwyl.
Llwyddodd y Blaid dan Lembit Opik i dorri allan o'r cadarnleoedd traddodiadol yn y Canolbarth a'r gororau a dangos fel mae nhw eisoes wedi gwneud yn Lloegr eu bod nhw'n Blaid drefol ac nid yn Blaid wedi ei phriddo yng nghefn gwlad.
Roedd un ffactor annisgwyl yn cael effaith ar y canlyniadau mewn nifer o seddau.
Ymyrraeth ymgeiswyr annibynnol oedd hynny. Mae lled i ddadlau fod ymyrraeth yr ymgeisydd annibynnol Peter Rogers wedi helpu Llafur i gadw Ynys Môn.
Roedd ymgeisyddiaeth y cyn Geidwadwr Jimmy James yn ffactor yng Ngorllewin Clwyd ac yn achos Blaenau Gwent, llwyddodd Peter Law i danseilio mwyafrif enfawr ac i dynnu dagrau o lygaid yr ymgeisydd Llafur, Maggie Jones.
Mae map gwleidyddol Cymru wedi newid cryn dipyn oherwydd etholiad 2005 ac fe all y canlyniadau fod yn rhai pellgyrhaeddol i bob un o'r pleidiau