Roedd mwyafrif Mr Price sef 6,718, yn hwb i Blaid Cymru
|
Roedd y dorf yn gweiddi "Gwynfor, Gwynfor" wedi i Adam Price o Blaid Cymru fwy na dyblu ei fwyafrif yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Talu teyrnged oedd y cefnogwyr i'r diweddar Gwynfor Evans, Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru, fu farw'r mis diwethaf ac a gipiodd sedd Caerfyrddin yn yr is-etholiad hanesyddol yn 1966.
Roedd Mr Price wedi bod yn arwain ymgyrch yn San Steffan i uchelgyhuddo'r Prif Weinidog, Tony Blair, dros ryfel Irac.
Dywedodd Mr Price i'r Blaid Lafur "daflu popeth ato" yn ystod y mis diwethaf.
Roedd ei fwyafrif, sef 6,718, yn hwb i Blaid Cymru a gollodd sedd Ceredigion ac a fethodd ag ennill ei phrif sedd darged, Ynys Môn.
"Fe daflon nhw bopeth aton ni yn ystod yr ymgyrch hon. Fe wnaethon nhw ni yn unig sedd darged ym Mhrydain ac ymosod yn bersonol arna i," meddai Mr Price.
Gostwng
Enillodd y sedd oddi wrth Dr Alan Williams yn 2001 ac mae wedi bod yn un o'r ASau sydd wedi arwain ymgyrch yn honni fod Tony Blair wedi "camarwain" y Senedd dros Ryfel Irac.
Gostyngodd pleidleisiau'r Blaid Lafur yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr o tua 3,000 o'i gymharu ag etholiad 2001, er bod mwy wedi pleidleisio yn yr etholiad y tro hwn sef 72.2%,
Nia Griffith yw Aelod Seneddol newydd Llanelli
|
Llwyddodd Llafur i gadw Llanelli â mwyafrif o 7,234 er bod y cyn Aelod Seneddol Denzil Davies yn ymddeol wedi bron i 30 mlynedd a bod Llafur wedi defnyddio rhestr merched yn unig i ddewis ymgeisydd.
Roedd Plaid Cymru, ddaeth yn agos i gipio'r sedd ddwy flynedd yn ôl yn etholiadau'r cynulliad, yn amlwg yn siomedig.
Dywedodd ymgeisydd y Blaid Lafur, Nia Griffith, ei bod wedi ennill oherwydd "diwylliant sosialaidd a chapel" Llanelli.
Cyfaddefodd fod yr etholwyr wedi lleisio pryder am Irac a phynciau llosg amhoblogaidd eraill wrth iddi ganfasio.
Dywedodd Neil Baker o Blaid Cymru ei fod yn hyderus y byddai'r blaid yn gwneud yn dda yn etholiadau nesaf y cynulliad.
Y neges oddi wrth yr etholwyr, meddai, oedd y byddai pobol yn pleidleisio i Blaid Cymru yn yr etholiadau lleol a chynulliad ond eu bod yn troi at y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau San Steffan.