Jenny Willott: Cipio Canol Caerdydd gyda mwyafrif o bron i 6,000
|
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cipio dwy o'u seddi targed sef Canol Caerdydd oddi wrth y Blaid Lafur a Cheredigion oddi wrth Blaid Cymru.
Yng Ngheredigion trechodd ymgeisydd y blaid, Mark Williams, Simon Thomas o 219 o bleidleisiau.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Lembit Öpik fod hon yn "noson wych".
Cafodd Jenny Willott 17,991 o bleidleisiau yng Nghanol Caerdydd, mwyafrif o bron i 6,000.
Ar noson lwyddiannus i'r Democratiaid Rhyddfrydol drwy Brydain dywedodd Ms Willott: "Mae'r neges y mae'r etholwyr wedi ei rhoi yn un syml.
"Yng Nghaerdydd, ar draws Cymru ac ym Mhrydain gyfan, mae'n amlwg mai'r Democratiaid Rhyddfrydol yw'r Gwir Ddewis Arall.
'Noson wych'
"Mae trigolion Canol Caerdydd wedi anwybyddu'r Torïaid sy'n flinedig ac yn fwyfwy amherthnasol; maen nhw wedi gwrthod y llywodraeth Lafur drahaus ac maen nhw wedi dewis neges gadarnhaol Charles Kennedy a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Roedd y canlyniad yn siom i'r ymgeisydd Llafur, Jon Owen Jones
|
"Bydd yn bleser a braint i gynrychioli a gwasanaethu pobol Canol Caerdydd yn San Steffan," meddai.
"Mae hon yn noson wych i'n plaid ni," meddai Lembit Öpik, arweinydd y blaid yng Nghymru.
"Ar ddechrau'r noson roedd gennym ni ddau AS ac erbyn y diwedd mae gennym ni bedwar, sef cynnydd o 100%."
Canol Caerdydd oedd prif darged y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a'r bedwaredd ar restr targed y blaid drwy Brydain.
Roedd gan Jon Owen Jones o Lafur fwyafrif o lai na 700 yn 2001.
Roedd sylwebwyr wedi rhagweld y gallai pleidlais myfyrwyr fod yn allweddol yng Nghanol Caerdydd lle mae Prifysgol Caerdydd a thri safle Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd.
Gan fod dileu ffioedd dysgu, a gyflwynwyd gan y llywodraeth Lafur, yn un o flaenoriaethau'r Democratiaid Rhyddfrydol roedd y blaid yn hyderus y gallai'r polisi hwn ennill pleidleisiau.