Penderfynodd Peter Law sefyll fel ymgeisydd Annibynnol
|
Mae'r ymgeisydd Annibynnol Peter Law wedi cipio sedd fwya diogel Llafur yng Nghymru, Blaenau Gwent, oddi wrth y blaid.
Trodd hen fwyafrif Llafur o 19,000 yn fwyafrif o 9,121 i Mr Law.
Cafodd Mr Law 20,505 o bleidleisiau sef 58%.
"Dyma'r hyn sy'n digwydd pan nad yw plaid yn gwrando ar y bobol," meddai Mr Law wedi'r canlyniad.
Buddugoliaeth ddramatig yw hon i'r Aelod Cynulliad lleol a adawodd y Blaid Lafur oherwydd y rhestrau merched yn unig a ddefnyddiwyd i ddewis ymgeisydd Llafur yr etholaeth.
Cyn y canlyniad cyfaddefodd gweithwyr Llafur fod Mr Law wedi ennill a daeth y cyfaddefiad cyn i'r ymgeisydd Maggie Jones gyrraedd y cyfri.
Bu Mr Law yn siarad ag aelodau o'r cyfryngau a chwifiodd ei law ar gefnogwyr yng nghanolfan hamdden Glyn Ebwy.
"Efallai fod rhywbeth yma heno y mae angen i Lafur weithredu arno," meddai Mr Law.
"Dylai fod cywilydd ar Peter Hain (Ysgrifennydd Cymru) a Rhodri Morgan (Prif Weinidog y Cynulliad).
"Maen nhw wedi troi sedd naturiol Lafur yn erbyn y blaid ...."
'Ergyd aruthrol'
Cyn y canlyniad dywedodd Eluned Morgan o'r Blaid Lafur y byddai colli Blaenau Gwent yn "ergyd aruthrol".
"Bydd yn siom enfawr i ni fel plaid...mae hon yn sedd hanesyddol i ni, oherwydd Aneurin Bevan a Michael Foot," meddai.
Colli: Maggie Jones, yr ymgeisydd Llafur
|
"Dwi'n teimlo fod pobl y tu mewn i'r Blaid Lafur yn teimlo fod Peter Law wedi'n bradychu ni.
"Fe, mwy na neb arall yn y Blaid Lafur, oedd ddim am weld clymblaid, ond fe sy'n mynd i'n gorfodi ni i ddibynnu ar bleidiau eraill ac mae hynny'n ergyd aruthrol i ni.
"Falle ein bod ni wedi bod yn cymryd y sedd yn ganiataol .. bydd hyn yn gyfle i ni ail-adeiladu'r blaid yn lleol."
Ar ddechrau'r ymgyrch etholiadol cafodd Mr Law wybod fod ganddo dyfiant ar yr ymennydd a chafodd driniaeth.
Wedyn cadarnhaodd y byddai'n brwydro am sedd fwyaf diogel Llafur yng Nghymru wedi'r cyfan.
Yn ystod yr ymgyrch galwodd y cyn Ysgrifennydd Cartref, David Blunkett, ar Mr Law i beidio â sefyll. A dywedodd Mr Law, ei fod wedi ei annog i sefyll fel ymgeisydd Annibynnol gan bleidleiswyr yn ei etholaeth.
Diogel
Roedd gan Lafur fwyafrif o 19,313 yn yr etholiad yn 2001 a 72% o'r bleidlais ym mhumed sedd fwya diogel y blaid ym Mhrydain.
Roedd y frwydr yn un ddiddorol ym Mlaenau Gwent y tro hwn
|
Mae penderfyniad Mr Law wedi newid sefyllfa Llafur yn y cynulliad ac yn golygu fod Llafur, oedd yn dal 30 o'r 60 o seddi yn y cynulliad, yn colli ei mwyafrif.
Arweiniodd y penderfyniad i ddewis Maggie Jones, swyddog undeb Unsain, fel ymgeisydd Llafur at ymddiswyddiad y rhan fwyaf o bwyllgor gwaith y blaid ym Mlaenau Gwent.
Amddiffynnodd Llafur y penderfyniad i ddewis o restr fer o ferched yn unig ar sail eu bod yn ceisio denu mwy o ferched i San Steffan.