Bydd yr ysbyty ym Mlaenau Ffestiniog yn cadw hyd at 12 o welyau
|
Mae Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd wedi cyhoeddi y bydd Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog yn parhau ar agor, ond gyda llai o welyau.
Bydd penderfyniad terfynol ar ddyfodol yr ysbyty yn cael ei gymryd ymhen tair blynedd.
Mae hyn yn gwyrdroi penderfyniad wnaed mis Tachwedd i beidio â chadw'r ysbyty ar agor ar ôl cyfnod o dair blynedd.
Ond mae ymgyrchwyr lleol yn dweud mai parhau fydd y frwydr i sicrhau dyfodol hirdymor i'r ysbyty.
"Mae eisiau iddi fod yn agor am byth, ond yn sicr mae hyn yn well na be oedd ganddyn nhw y tro diwetha," meddai Ifan Glyn Williams sy'n aelod o Bwyllgor Amddiffyn Ysbyty Blaenau.
Bu'r bwrdd yn trafod dyfodol Ysbytai Blaenau Ffestiniog a Thywyn o'r newydd ddydd Gwener wedi i Aelod Seneddol Meirionnydd Nant Conwy, Elfyn Llwyd, herio cyfreithlondeb penderfyniad fis diwetha i leihau'r nifer o welyau yn y ddau safle.
Rali
Ond yr un oedd y penderfyniad ag ym mis Tachwedd, oni bai am argymhelliad i gynnal adolygiad annibynnol i sefyllfa gwasanaethau iechyd yn yr ardal bob blwyddyn ac i wneud penderfyniad terfynol ymhen tair blynedd.
Cynnig gwreiddiol y bwrdd oedd cael gwared ar yr holl welyau preswyl ym Mlaenau Ffestiniog - 17 i gyd - ond cadw gwasanaethau cleifion allanol, mân anafiadau a phelydr-X.
Galwodd y gymuned am uwchraddio'r ysbyty a daeth 1,000 o bobl i brotestio yn erbyn y cynllun mewn rali yn y dre ym mis Medi.
Ym mis Tachwedd penderfynodd y bwrdd i gadw rhwng wyth a 12 o welyau preswyl am gyfnod o dair blynedd nes y byddai gwasanaethau'n cael eu sefydlu yn y gymuned.
Adolygiad
Yn Nhywyn penderfynwyd i leihau'r nifer o welyau o 24 i 14 a'r posibilrwydd o gael dau wely ychwanegol i gleifion clefydau terfynol.
Bu cyfarfod cyhoeddus fel rhan o broses ymgynghori
|
Mae trigolion yr ardal honno hefyd yn ymgyrchu yn erbyn argymhellion i israddio'r ysbyty.
Cafodd Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog ei adeiladu yn 1925 ac yn ôl y bwrdd iechyd lleol nid yw'n addas i ddarparu rhai o'r gwasanaethau y mae'n dymuno cynnig.
Dywedodd Mr Williams ei fod yn croesawu'r penderfyniad i gynnal adolygiad annibynnol o wasanaethau iechyd yr ardal bob 12 mis.
"Ar hyn o bryd mae'r ysbyty'n llawn ond yn anffodus maen nhw'n dod yma i gyfri gwelyau pan does neb yna," meddai.