Mae prinder gweinidogion i gynnal y gwasanaethau yn y capeli
|
Mae yna apêl am fwy o weinidogion sy'n gallu siarad Cymraeg ym Mhatagonia.
Mae'r oedfaon Cymraeg yn dal yn boblogaidd yno ond erbyn hyn mae prinder gweinidogion a gweithwyr Cristnogol i gynnal y gwasanaethau.
Fe ymfudodd Cymry i'r Wladfa yng nghanol y 19eg ganrif a 140 o flynyddoedd yn ddiweddarach mae eu disgynyddion yno o hyd.
Mae 20,000 ohonynt yn arddel eu tras Gymreig ac mae cannoedd yn gallu siarad Cymraeg.
Sbaeneg yw'r iaith frodorol ond mae nifer yn dal i ddewis addoli trwy gyfrwng y Gymraeg a hynny er eu bod filoedd o filltiroedd i ffwrdd o Gymru.
Y Parchedig Eirian Wyn: 'Byddai croeso cynnes ymhlith y bobl'
|
"Mae capeli Cymraeg yn y Wladfa ac mae'n anodd iddyn nhw gael gweinidog, mae pobl wedi mynd dros y blynydde ond ddim yn ddiweddar, mae blwch wedi bod nawr" meddai'r Parchedig Eirian Wyn Lewis o Fynachlog-ddu sy'n gyn Gadeirydd Cymdeithas Cymru-Ariannin.
"Mae gweinidog - bachgen a'i wraig yn dod o'r Wladfa - wedi bod yn gweinidogaethu yno ond mae wedi dod nôl i Gymru nawr."
Carwyn Arthur yw'r gŵr hwnnw ac fe dreuliodd ddwy flynedd allan yn y Wladfa yn gweithio mewn capeli.
"Fe es i allan yn hydref 2003 ac fe ddes i nôl eleni ym mis Medi. Roeddwn i'n teimlo byrdwn i fynd allan yno i weithio gyda'r capeli Cymraeg.
Teimlo baich
"O ran y gwaith wnes i yno roedd yn debyg i'r gwaith fyddai gweinidog yn ei wneud yma.
"Roeddwn i'n pregethu yn y Gymraeg, ymweld â phobl, ceisio cyrraedd pobl na fyddai efallai'n mynd i'r capeli ond yn siarad Cymraeg.
Mae nifer yn dal i ddewis addoli trwy gyfrwng y Gymraeg yn Y Wladfa
|
"Os oes rhywun wir yn teimlo baich i weithio ymhlith Cymry Cymraeg mae cyfle ym Mhatagonia a dylech ystyried Patagonia yn fater gweddi ac arweiniad.
Dywedodd y Parchedig Lewis fod digon i ddenu ymgeiswyr i fanteisio ar y cyfle.
"Fe fyddai'n cyfoethogi eu profiad yn bendant," meddai.
"Byddai mynd yno yn golygu fod croeso cynnes iawn ymhlith y bobl, maen nhw'n disgwyl i rywun fynd yno ac yn awyddus iawn i gael rhywun.
"Mae tŷ, fflat yno, ar gyfer y gweinidog a char sy'n ei alluogi i fynd o amgylch y lle," meddai.