Mae cynlluniau wedi eu cyhoeddi ar gyfer y newid mwya o bwerau o San Steffan i Gymru ers i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei sefydlu yn 1999.
Fe fydd Mesur Llywodraeth Cymru yn rhoi pwerau newydd i lywodraeth y cynulliad ond be yn union mae hyn yn ei olygu yn union ac a fydd gam yn nes ar gyfer corff gyda phwerau llawn i ddeddfu?
Be fydd y cynulliad yn gallu ei wneud na all wneud ar hyn o bryd?
O edrych ar enghraifft gyfoes mae'r cynulliad eisiau sefydlu comisiynydd ar gyfer yr henoed. Fe fydd yn rhaid i'r cynulliad aros ei thro yn San Steffan - mae Mesur ar hyn o bryd yn mynd drwy Dŷ'r Arglwyddi. O dan y system newydd, gall y cynulliad gael cymeradwyaeth o San Steffan i ddeddfu ac yna mynd ymlaen gyda'r dasg.
Ond fydd y cynulliad ddim yn gallu gwneud popeth y mae'n dymuno?
Na. Dim ond gwneud deddfau - neu fesurau'r cynulliad fel y byddan nhw'n cael eu hadnabod - yn y meysydd sydd wedi eu datganoli, fel iechyd, addysg a thwristiaeth. Er enghraifft, does dim modd iddyn nhw greu diwrnod o wyliau cenedlaethol ar Ddydd Gŵyl Dewi na chyfreithloni hela. Fe fydd y materion yma yn dal i gael eu trafod a'u penderfynu yn San Steffan er bod rhai ACau yn barod i herio'r system newydd ar y materion yma.
Sut fydd y system newydd yma yn gweithio?
Fe fydd Prif Weinidog y Cynulliad yn gofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol am yr hawl i ddeddfu mewn maes penodol. Fe fydd yn rhaid i'r ddau dŷ yn San Steffan gytuno, ond fe fydd y mwyafrif o'r gwaith deddfu ac archwilio yn cael ei drosglwyddo o San Steffan i Gaerdydd.
All y cynulliad gael pwerau deddfu llawn fel Senedd Yr Alban?
Mae'r mesur yma yn nodi y byddai'n rhaid i refferendwm gael ei gynnal gyntaf ac mae Llywodraeth Prydain yn dweud nad oes ganddyn nhw gynlluniau i gynnal un. Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol na fydd y cynulliad yn cael yr hun pwerau yn ystod y degawd yma.
Ydi hyn yn newid statws Rhodri Morgan?
Mae Mr Morgan wedi galw ei hun yn Brif Weinidog er yn gyfreithiol fo ydi'r Ysgrifennydd Cyntaf o bwyllgor gweithredol y cynulliad cenedlaethol ac sydd yn gwahaniaethu llywodraeth y cynulliad yn swyddogol gyda'r ACau.
Pam bod Llywodraeth Prydain yn newid y system etholiadol>
Yn yr etholiad diwethaf yn etholaeth Gorllewin Clwyd llwyddodd tri o'r pedwar ymgeisydd gollodd y bleidlais i gyrraedd Bae Caerdydd drwy'r rhestr ranbarthol. Fe aethon nhw i mewn drwy'r drws cefn o dan y drefn gymhleth o gynrychiolaeth gyfrannol.
Mae Llywodraeth Prydain yn dweud bod hyn yn annheg ac yn ddryslyd ac felly fe fydd y newid yn gorfodi ACau i ddewis un ffordd neu'r llall y tro nesaf. Mae'r gwrthbleidiau yn dweud bod hyn fodd o newid y system etholiadol er ei fudd gwleidyddol ei hun gan nad ydi'r drefn bresennol yn ffafrio Llafur gystal â'r gwrthbleidiau. Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi beirniadu'r newid.
A fydd Llywodraeth Prydain yn cael ei ffordd?
Dyma'r pwnc mwya rhanedig o fewn gwleidyddiaeth Llafur Cymru ond mae'r cyfaddawdau sydd wedi eu cynnig yn amheus i ASau. Does gan Llafur ddim mwyafrif yn Nhŷ'r Arglwyddi ac felly mae disgwyl i weinidogion wynebu brwydr i newid y system etholiadol.
Be sy'n digwydd nesa?
Fe fydd y Mesur yn cael ei ddarlleniad cyntaf ddydd Iau yn Nhŷ'r Cyffredin. Fe fydd ASau yn trafod yr egwyddorion cyffredinol yn gynnar yn y flwyddyn newydd ac mae disgwyl i'r mesur ddod yn ddeddf erbyn haf 2006. Fe fydd y cynulliad yn gweithredu'r pwerau newydd ar ôl yr etholiad ym mis Mai 2007.
A fydd gan y Frenhines fwy o rôl i'w chwarae ym mywyd Cymru?
Bydd. Yn y 'sgwennu mân mae'n nodi bod y prif weinidog yn y dyfodol yn cael ei benodi gan y Frenhines ar enwebiad y cynulliad yn hytrach na fel y mae prif weinidog Yr Alban yn cael ei ddewis. Pwy bynnag sy'n ennill etholiad 2007 efallai y bydd rhaid gwneud ymweliad â Phalas Buckingham cyn rheoli ym Mae Caerdydd.