BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 8 Rhagfyr 2005, 12:38 GMT
Mesur i gynyddu pwerau'r cynulliad
Adeilad siambr newydd y cynulliad

Fe wnaeth Llywodraeth Prydain ddatgelu cynlluniau manwl ar gyfer y symudiad mwyaf o ran pŵer o San Steffan i Gymru ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol chwe blynedd yn ôl.

Mae'r cynulliad i gael mwy o lais yn y ffordd y mae deddfau newydd yn cael eu creu yn y mesur newydd, Mesur Llywodraeth Cymru.

Dywed Ysgrifennydd Cymru y bydd cyhoeddi'r mesur yn dod â phŵer yn nes at y bobl.

Mae'r mesur newydd yn rhoi pwerau i Lywodraeth y Cynulliad i lunio deddfau mewn meysydd fel iechyd ac addysg ond byddai rhaid i San Steffan roi sêl bendith i'r ddeddfwriaeth ymhob achos.

Golyga hyn na fydd rhaid i'r cynulliad gystadlu gydag adrannau'r llywodraeth am le yn Araith y Frenhines yn San Steffan a bydd y broses o wneud penderfyniadau, mewn egwyddor, yn llawer cynt.

Mae'r mesur hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer trosglwyddo pwerau deddfu llawn i Fae Caerdydd, ond dim ond wedi refferendwm.

Dywed Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, y bydd y mesur "yn agor y ffordd ar gyfer pwerau deddfu llawn yn y dyfodol".

Dadleuol

"Mae hwn yn ddiwrnod pwysig iawn i Gymru," meddai.

"Dwi wir yn disgwyl y bydd y mesur hwn yn ateb y cwestiwn cyfansoddiadol yng Nghymru am genhedlaeth."

Dywedodd Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ei fod yn disgwyl i'r mesur fod yn fodd o geisio newid y system etholiadol er budd gwleidyddol i Lafur na fyddai'n gweithio.

"Mae'n mynd i arwain at anghydfod rhwng San Steffan a'r cynulliad," meddai.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru yn y cynulliad nad oedd yn disgwyl i'r mesur roi senedd lawn i Gymru.

"Mae'n mynd i fod yn fesur gwan sy'n ildio i ofynion ASau Llafur Cymru sydd am gadw eu swyddi yn San Steffan yn hytrach nag er budd pobl Cymru."

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn y cynulliad hefyd wedi disgrifio'r mesur fel un "gwan".

"Yn hytrach na chreu senedd gadarn i Gymru gyda phwerau llawn mae'n cynnig rhywbeth llai na'r haeddiant," meddai Mike German.

Bydd y mesur hefyd yn gwahaniaethu Llywodraeth y Cynulliad oddi wrth Aelodau'r Cynulliad yn gyfreithiol am y tro cyntaf ac felly yn yr un modd ag y mae Llywodraeth Prydain yn wahanol i Dŷ'r Cyffredin bydd Llywodraeth Cymru yn wahanol i'r cynulliad.

Mae rhai elfennau'n debygol o brofi'n fwy dadleuol nac eraill fel y cynlluniau i atal ymgeiswyr sydd wedi eu trechu yn etholiadau'r cynulliad rhag cael eu hethol o dan system y rhestrau rhanbarthol, rhywbeth sydd wedi ei feirniadu gan Mr Hain.

Ond bydd y gwrthbleidiau yn defnyddio'r rhan hwn o'r mesur i honni fod Llafur yn ceisio newid y system etholiadol er ei fudd gwleidyddol ei hun.

Bydd beirniaid eraill yn dweud nad yw'r mesur yn mynd yn ddigon pell ac fe fyddan nhw'n parhau i bwyso am roi hyd yn oed mwy o bwerau i'r cynulliad.




HEFYD:
C & A: Mesur Llywodraeth Cymru
08 Rhag 05 |  Newyddion
Cipolwg ar Fesur Llywodraeth Cymru
08 Rhag 05 |  Newyddion
Datganoli: Cynllun yn 'sarhad'
27 Meh 05 |  Newyddion
Papur Gwyn: Ymateb
15 Meh 05 |  Newyddion
Ffrae am bwerau cynulliad
25 Ebr 05 |  Newyddion
Llafur: Ymroddiad i fwy o bwerau
09 Ebr 05 |  Newyddion
Galw am fwy o bwerau ac ACau
31 Maw 04 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^