Tîm Cymru gyda Charles a Camilla yn Stadiwm y Mileniwm
|
Roedd 20,000 o gefnogwyr yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Llun i weld Tywysog Cymru a'i wraig, Duges Cernyw, yn cyflwyno tlws pencampwriaeth y chwe gwlad i dîm rygbi Cymru.
Cafodd y tlws ei gyflwyno i'r capteiniaid, Gareth Thomas a Michael Owen, mewn seremoni i ddathlu camp Cymru eleni ddydd Llun yng Nghaerdydd.
Roedd rhai o aelodau'r tîm gipiodd y Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 27 mlynedd yn bresennol, yn ogystal â rhai o artistiaid amlycaf Cymru.
Roedd y cantorion Peter Karrie, Aled Jones a Wyn Evans yn codi'r hwyl yn ystod y dathlu, yn ogystal â Max Boyce.
Dyma oedd digwyddiad swyddogol i Charles a Camilla yng Nghymru ers eu priodas ym mis Ebrill.
Elusen
Fe wnaeth y ddau gyfarfod y chwaraewyr a'r perfformwyr yn ystod y dathliad.
Fe wnaeth y ddau siarad hefyd efo Brent Cockbain ac roedd unrhyw elw o'r dathlu yn mynd i Sefydliad Toby Lloyd Cockbain, ei fab a fu farw'r llynedd, ac Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru.
Dyma oedd ymddangosiad cyntaf y cwpl brenhinol yng Nghymru ers eu priodas
|
"Fe wnaeth o ofyn i mi sut y llwyddais i fynd drwy'r bencampwriaeth heb gael anaf a'r meth yna o bethau," meddai Cockbain ar ôl siarad gyda'r Tywysog.
Llwyddodd tîm Cymru i drechu Iwerddon o 32-20 yn y gêm olaf o'r bencampwriaeth eleni a oedd yn golygu mai dyma'r Gamp Lawn gyntaf ers 1978 i Gymru.
Ar y pryd, dywedodd llefarydd ar ran y Tywysog ei fod yn falch o fuddugoliaeth tîm Cymru a'i fod wedi danfon negeseuon atyn nhw cyn, ac ar ôl, y gêm yn erbyn Iwerddon.
Yn ystod y prynhawn fe gafodd y cefnogwyr gyfle i wylio uchafbwyntiau o'r gemau ar sgrîn fawr yn y stadiwm yn ystod dwy awr a hanner o ddigwyddiad.
Cafwyd adloniant gan gantorion hefyd yn ogystal â chyfweliadau gyda rhai o'r chwaraewyr.
Awyrgylch ond dim gêm
"Mae'n wych i weld cymaint yma ac mae'n grêt cyfarfod y bois i gyd eto ac i hel atgofion am be lwyddon ni i wneud," meddai Gavin Henson.
Yn ystod y prynhawn fe wnaeth Max Boyce berfformio cân newydd i ddathlu'r Gamp Lawn.
Cafodd y tîm gyfle i ail fyw uchafbwyntiau'r bencampwriaeth
|
Er gwaetha'r awyrgylch oedd yn y ddinas, fel ar ddiwrnod gêm ryngwladol, doedd 'na ddim gwrthwynebwyr yn y Stadiwm.
Roedd 'na ystyriaeth wedi bod y byddai'r tîm yn mynd o amgylch y ddinas mewn bws agored.
Ond dywedodd Martyn Williams, gafodd ei enwi fel chwaraewr y bencampwriaeth, bod y digwyddiad yn y stadiwm wedi cael ei groesawu gan y sgwad.
"Dwi'n meddwl y bydda'r bois yn swil i fynd ar y bws, dwi'n meddwl mai dim ond ar gyfer enillwyr Cwpan y Byd y dylai fod."
Dywedodd rheolwr y tîm cenedlaethol, Mike Ruddock, ei bod yn braf gallu diolch i'r cefnogwyr am y gefnogaeth.
"Rydym yn wlad unigryw, wrth ein boddau gyda'n rygbi ac rydym yn falch o'r tîm.
"Er ein bod wedi mwynhau'r bencampwriaeth mae'n braf bod yma i ddiolch i'r cefnogwyr."
Ymunodd Charles a Camilla gyda'r cefnogwyr i ganu Hen Wlad fy Nhadau, cyn gadael y cae ar gyfer arddangosfa tân gwyllt.
Fe wnaeth y digwyddiad godi £50,000 ar gyfer yr elusennau.