Mae'n bosib y bydd pedwar llu Cymru yn uno i greu un
|
Mae tri phif gwnstabl o Gymru wedi cytuno â chynlluniau i uno'r lluoedd.
Bu'r pedwar prif gwnstabl yn mynegi eu barn yn y Senedd am y posibilrwydd o greu un heddlu yng Nghymru.
Dywedodd Richard Brunstrom o Heddlu Gogledd Cymru fod angen mwy o wybodaeth ac ymgynghori cyn iddo benderfynu'n derfynol.
Aelodau'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ddydd Mawrth oedd yn holi'r prif gwnstabliaid a'r awdurdodau am gynlluniau i newid strwythur heddluoedd.
Dadlau y mae'r Ysgrifennydd Cartref Charles Clarke fod rhaid i heddluoedd Cymru a Lloegr gydnabod y bygythiadau newydd, gan gynnwys troseddau rhyngwladol a therfysgaeth.
Rhaid i bob heddlu gyflwyno eu hoff opsiwn ad-drefnu i Lywodraeth Prydain erbyn Rhagfyr 23.
Roedd awdurdodau heddluoedd Dyfed Powys, Gwent, y De a'r Gogledd wedi cyflwyno tri opsiwn i'r Swyddfa Gartref.
Ffafrïo un heddlu
Yr opsiynau oedd cadw'r drefn bresennol (a gwell partneriaeth rhwng Heddlu'r Gogledd a Heddlu Sir Gaer), uno'r lluoedd gan greu dau lu neu uno'r pedwar i greu un llu ar gyfer Cymru gyfan.
Mae Mr Clarke wedi awgrymu ei fod o blaid un llu i Gymru ac y byddai'r "opsiynau eraill yn ... anaddas".
Charles Clarke fydd yn gwneud y penderfyniad olaf
|
Yng Nghymru mae gwleidyddion o bob plaid wedi beirniadu'r amserlen fer ar gyfer trafod yr opsiynau.
Mae Aelodau'r Cynulliad yn cael y cyfle ola ddydd Mawrth i fynegi barn am y cynlluniau.
Mae awdurdodau'r heddlu yng Nghymru wedi beirniadu Mr Clarke ac mae Ian Roberts, Cadeirydd Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru, wedi dweud fod yr Ysgrifennydd Cartref yn "ymddwyn fel bwli".
Roedd undeb Unsain wedi dweud fod posibilrwydd y gallai'r uno arwain at golli 1,600 o swyddi.