Mae'r archif yn cynnwys miloedd o ddogfennau personol a gwleidyddol
|
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi rhyddhau manylion papurau'r diweddar Dr Gwynfor Evans ar y we.
Ymhlith y miloedd o ddogfennau y mae llythyrau am rai o ddigwyddiadau pwysica hanes Cymru yn yr ugeinfed ganrif, gan gynnwys hanes boddi Cwm Celyn.
Dywedodd y llyfrgell taw hwn oedd "un o'r casgliadau gwleidyddol mwyaf sylweddol a chyfoethog" yn ei meddiant.
Mae'r dogfennau wedi eu catalogio'n ddwyieithog ac yn rhan o archif wleidyddol Gymreig y llyfrgell yn Aberystwyth.
Yr archif yw sail y cofiant Gwynfor: Rhag Pob Brad gan newyddiadurwr BBC Cymru Rhys Evans ac a gafodd ei chyhoeddi'n ddiweddar.
Mae'n cynnwys llythyrau ysgrifennwyd at Gwynfor Evans gan wleidyddion o bob plaid ac unigolion blaenllaw eraill pan fu'n cynrychioli Sir Gaerfyrddin yn y Senedd yn y chwedegau a'r saithdegau.
Cyfeirio y mae'r llythyrau at ddigwyddiadau a mudiadau fel:
Bygythiad Dr Evans i ymprydio hyd farwolaeth ym 1980 er mwyn sefydlu S4C;
Y ffrwydriadau adeg yr Arwisgo yng Nghaernarfon yn 1969 ac ymgyrch Tryweryn yn 1957;
Mudiad Heddychwyr Cymru yn yr Ail Ryfel Byd a mudiad Senedd i Gymru yn y pumdegau;
Yr ymgais i sefydlu coleg Cymraeg ei iaith yn y pumdegau;
Is-etholiad enwog Gorffennaf 1966, a phleidlais datganoli 1979.
Mae llythyrau teuluol, papurau am deithiau tramor, nodiadau areithiau, toriadau o'r wasg, cardiau cyfarch, a deunydd printiedig.
'Drych diddorol'
Hwn yw'r tro cyntaf yn hanes y llyfrgell i gatalog gael ei lunio yn ddwyieithog.
Dr John Graham Jones, pennaeth Archif Wleidyddol Gymreig y Llyfrgell, fu'n gyfrifol am restru'r dogfennau sy'n llenwi 147 o flychau archifol.
"Gall ymchwilwyr ddod o hyd i fanylion am lythyrau hanesyddol a dadlennol at Gwynfor Evans," meddai Dr Jones.
Gwynfor Evans gyda'i deulu
|
"Mae llawer iawn o wybodaeth a thystiolaeth am fywyd diwylliannol a llenyddol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol ac Urdd Gobaith Cymru a mudiadau eraill yr oedd Dr Gwynfor Evans mor frwd a chyson ei gefnogaeth iddyn nhw."
Dywedodd fod "toreth o dystiolaeth am hynt a helynt Sir Gaerfyrddin yn yr ugeinfed ganrif" gan i Gwynfor Evans wasanaethu fel henadur ar y cyngor sir am chwarter canrif gyfan o 1949 tan 1974.
"Mae'r casgliad yn ddrych diddorol ar fywyd Cymro hollol unigryw a bywyd Cymru."