Gwynfor Evans, Dafydd Elis-Thomas a Dafydd Wigley
|
Mae'n cael ei ddisgrifio fel "Meseia," dyn a ymrodd yn llwyr i'r mudiad cenedlaethol.
Ond dywed eraill na chreodd blaid wleidyddol "effeithiol oedd yn apelio at genedl gyfan".
Gwynfor Evans, Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru yn is-etholiad Caerfyrddin yn 1966, yw testun cyfres ddogfen newydd.
Yn rhaglen gyntaf "Gwynfor: Yr Aelod dros Gymru?" nos Fawrth mae ei fab Dafydd Evans yn dweud mai nod Gwynfor oedd bod y cyntaf i arwain Cymru.
"Fe ddechreuodd gredu mai fe oedd i fod i achub Cymru.
"Dywedodd wrtha i unwaith ei fod yn sydyn wedi teimlo ofn yn y cyfnod yma - ynghanol y 1930au. Beth os byddai rhywun arall, meddai, yn achub Cymru o'i flaen e ... beth os oedd yn rhy hwyr?
"Roedd wedi rhoi ei fywyd yn llwyr i'r gwaith hynny."
Yn y rhaglen mae'r teulu, ffrindiau, gwleidyddion a gelynion yn mesur a phwyso cyfraniad Dr Evans ddaeth yn llywydd Plaid Cymru ym 1945 a'i harwain am 36 o flynyddoedd.
Roedd gan aelodau'r blaid obeithion mawr am y llywydd newydd, medd Glyn James o Ferndale, Rhondda Fach, ar y rhaglen.
"Ac roedd pawb wrth eu boddau fod dyn mor olygus yn arwain plaid mor werthfawr. Y teimlad ymysg y bobl oedd bod y 'Meseia' wedi dod.
Roedd Emrys Roberts yn aelod o garfan radicalaidd y New Nation
|
Ond wedi siom etholiad 1959 pan fu llai o bleidleisiau roedd cenhedlaeth newydd o genedlaetholwyr yn barod i herio.
Hwn oedd y cyfnod pan gafodd pentref Capel Celyn ei foddi a galwodd Saunders Lewis am ymgyrchu anghyfreithlon yn ei ddarllediad Tynged yr Iaith.
Roedd Emrys Roberts wedi bod yn gweithio yn swyddfa'r blaid yng Nghaerdydd ac yn aelod amlwg o garfan radicalaidd y New Nation.
Mr Roberts fu'n is-ysgrifennydd cyffredinol y blaid rhwng 1956 a 1960 ac yn un o brif feirniaid y llywydd.
"Roedd pobl yn edrych ar Gwynfor fel rhyw fath o Feseia yn disgwyl iddo fe achub Cymru," medd Mr Roberts ar y rhaglen.
"A'r cyfan oedd rhaid iddyn nhw ei wneud oedd mynd i gyfarfodydd nawr ac yn y man fel mae Cristnogion yn mynd i eglwys.
"Ond roedden nhw ddim yn rhy barod i wneud rhyw lawer eu hunain."
Nid oedd Mr Roberts yn credu fod Dr Evans yn creu plaid wleidyddol effeithiol oedd yn apelio at genedl gyfan.
"Doedd neges y blaid fel yr oedd yn cael ei chyfleu ar y pryd ddim yn apelio at bobl y de-ddwyrain.
Ac roedd angen "ailwampio'r neges" ond "heb ar yr un pryd anghofio gwerthoedd cymdeithasau'r gorllewin a'r gogledd."
Bu'n rhaid i Emrys Roberts (ch) ymddiswyddo fel is-ysgrifennydd y blaid ym 1964
|
Roedd priodas Mr Roberts yn chwalu am ei fod yn caru â gwraig arall a bu rhaid iddo ymddiswyddo fel is-ysgrifennydd y blaid ym 1964.
Ysgrifennodd Mr Roberts lythyr yn beiriniadu Dr Evans.
Ond dywed Mr Roberts ar y rhaglen mai oherywdd ei fod yn fygythiad iddo y collodd ei swydd.
"Roedd yn cymryd popeth yn bersonol. Dyna oedd yn bwysig i Gwynfor - bod yn ddyn amlwg ym mywyd Cymru."
Ond mae mab Dr Evans, Dafydd Evans, yn dweud ei fod yn poeni am fygythiad i'w awdurdod.
"Roedd fy nhad yn ofni y byddai llwyddiant y syniadau newydd yn cael gwared arno fel arweinydd.
"Ac roedd hynny'n mynd yn rhy bell er ei fod yn gweld bod rhai pethau yr o'n nhw'n ei ddweud yn swynhwyrol.
"Yn cyfaddef hyn yn breifat roedd yn ofni colli'r grym yn ei blaid ei hunan. Achos fe oedd i fod i achub Cymru."
Gwynfor: Yr Aelod Dros Gymru?, BBC Cymru ar S4C nos Fawrth, Rhagfyr 6 a 13 am 2100.