Mae'r ffilm yn dangos Gwynfor Evans gyda'i deulu
|
Bydd ffilm archif nad yw wedi ei darlledu o'r blaen o wleidydd yn rhaglen gynta cyfres ddogfen am ei fywyd.
Mae'r ffilm yn dangos Gwynfor Evans gyda'i deulu ar yr aelwyd yn Llangadog a Phencarreg, Sir Gaerfyrddin.
Yn y ddwy raglen Gwynfor: Yr Aelod dros Gymru? mae darlun o fywyd y dyn fu'n Llywydd Plaid Cymru am 36 o flynyddoedd rhwng 1945 a 1981.
Mae'r rhaglen gynta, y mae Adran Materion Cyfoes BBC Cymru yn ei chynhyrchu, fisoedd wedi marwolaeth y gwleidydd yn 92 oed ac wythnosau ar ôl cyhoeddi cofiant o'i fywyd.
Awdur y cofiant Gwynfor Evans - Rhag Bob Brad yw Rhys Evans, gohebydd gwleidyddol BBC Cymru sy wedi ymchwilio i'r gyfres deledu.
Gwynfor oedd AS cyntaf Plaid Cymru a hynny yn is-etholiad enwog Caerfyrddin yn 1966.
Yn ogystal â bod yn llywydd am gyfnod hir, bu'n ffigwr allweddol yn ymgyrch datganoli y pumdegau ac ymgyrch sefydlu sianel deledu Gymraeg ddechrau'r 1980au.
'Cymysgedd o ddyn'
Dywedodd Rhys Evans fod Gwynfor yn "gymysgedd o ddyn a gysegrodd ei fywyd i achos Cymru ond a allai fod yn fyfïol yr un pryd".
Roedd yn ddyn delfrydgar, meddai, a allai fod yn ddi-droi'n-ôl ei benderfyniad ond yn naïf yn wleidyddol.
Bu farw Dr Gwynfor Evans yn 92 oed mis Ebrill
|
"Mae yna ddau Gwynfor i'w cael, dwi'n meddwl.
"Ar y naill law, mae gennym ni Gwynfor y person boneddigaidd, diwyro ac unplyg ond, ar y llaw arall, mae gennym ni Gwynfor y person myfïol, Meseianaidd ...
"Mewn gair, y dyn o gig a gwaed ac felly y dylen ni feddwl am Gwynfor."
Dewi Llwyd sy'n cyflwyno'r rhaglen a fydd yn olrhain bywyd y dyn a fagwyd yn y Barri yn negawdau cynnar y ganrif ddiwethaf.
Bydd y rhaglen gyntaf yn dangos sut yr arweiniodd ei ymgyrchu fel cenedlaetholwr a heddychwr at ei ethol yn llywydd yn 1945.
A bydd y ddwy raglen yn ystyried ei record fel arweinydd Plaid Cymru drwy lygaid cyfeillion, gelynion gwleidyddol, ffrindiau, teulu a sylwebwyr gwleidyddol.
Gwynfor: Yr Aelod Dros Gymru?, BBC Cymru ar S4C, nos Fawrth, Rhagfyr 6 a 13 am 2100.