BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 29 Ebrill, 2005, 17:16 GMT 18:16 UK
Cyhoeddi geiriadur termau newydd
Llinos Spencer, Delyth Prys, Mair Edwards ac Enlli Thomas
Golygyddion y geiriadur ar ol y lansiad

Cafodd Geiriadur Termau Seicoleg ei lansio ddydd Gwener.

Dyma'r geiriadur cyntaf sy'n cynnwys diffiniadau Cymraeg llawn yn ogystal 'r termau Cymraeg a Saesneg.

Cafodd y geiriadur ei ysgrifennu yn wreiddiol yn Gymraeg yn yr 1980au.

Roedd y lansiad yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Cymru Bangor sydd wedi bod yn gweithio ar y geiriadur newydd ers peth amser.

Gobaith y brifysgol ydi bod y geiriadur yn fwy na dim ond cymorth i'r rhai sy'n gweithio ym maes seicoleg ond ei fod hefyd yn ymdrin thermau bob dydd.

"Mae cynnwys diffiniadau Cymraeg llawn mewn geiriadur termau Cymraeg a Saesneg yn gam mawr ymlaen, a hwn yw'r geiriadur cyntaf a ysgrifennwyd yn wreiddiol yn Gymraeg lle mae hyn wedi digwydd," meddai Delyth Prys o Ganolfan e-Gymraeg, Prifysgol Cymru Bangor.

Defnyddiol

Dywedodd Richard Ellis Owen, Prif Seicolegydd Addysgol Siartredig Sir Conwy: "Rwy'n sicr y bydd y geiriadur yn ddefnyddiol ar gyfer ystod eang o bobl gan gynnwys y rhai sy'n gweithredu fel seicolegwyr addysgol, myfyrwyr a rhai sy'n ymgymryd gwaith ymchwil.

Geiriadur Termau Seicoleg Prifysgol Cymru Bangor
Fe fydd y geiriadur yn ddefnyddiol yn y maes
"Llongyfarchiadau ar ei gwblhau a sicrhau bod diwyg proffesiynol iddo".

Mae'r geiriadur yn ffrwyth cydweithio rhwng Ysgol Seicoleg Prifysgol Cymru Bangor a'r Uned e-Gymraeg yng Nghanolfan Bedwyr.

Cafodd ei ariannu gan Bwyllgor Addysg Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Cymru Bangor a Changen Cymru Cymdeithas Seicolegol Prydain.

Mae termau ynddo o wahanol feysydd Seicoleg ac mae'r golygyddion yn arbenigo mewn gwahanol feysydd o'r maes.

Y golygyddion ydi: Dr Llinos Spencer; Dr Mair Edwards; Delyth Prys a Dr Enlli Thomas.

Mae modd prynu copi o'r geiriadur drwy gysylltu gydag Ysgol Seicoleg, Prifysgol Cymru Bangor.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^