Wrth ffilmio fe wisgodd y disgyblion ddillad o'r cyfnod
|
Mae teithwyr ifanc wedi bod yn helpu gwneud ffilm am sipsiwn Cymreig.
Teulu Abram Wood, oedd yn enwog am eu sgiliau cerddorol, oedd un o'r rhai enwocaf yng Nghymru.
Mae plant Ysgol Gynradd Bynea yn Llanelli wedi sgriptio, ail-greu ac animeiddio stori'r teulu ac ar ddiwrnod cynta'r prosiect daeth disgynnydd Abram Wood i'r ysgol.
Nod cwmni Cinetig o Gaerdydd yw dangos y ffilm yn yr ysgol yn Ionawr.
Roedd y teulu'n canu eu halawon eu hunain mewn ffeiriau yng Nghymru a pherfformiodd gerbron y Frenhines Fictoria.
Honnir mai Abram Wood a gyflwynodd y ffidil yng Nghymru a bu nifer o'i ddisgynyddion yn delynwyr a ffidlwyr crwydrol.
Llunio stori
Pan gyrhaeddodd y teulu Gymru roedden nhw'n byw bywydau crwydrol ac yn cadw ar wahân i'r gymuned Gymreig am genedlaethau.
Ar ddiwrnod cyntaf y prosiect daeth Teleri Jarman, un o ddisgynyddion y teulu, i'r ysgol lle mae plant o wersyll teithwyr.
Fe fu'r disgyblion yn helpu gyda'r animeiddio
|
Nod y ffilm, y mae Cyngor y Celfyddydau a Chyngor Sir Gaerfyrddin yn ei hariannu, yw gwella dealltwriaeth pawb o hanes y teulu.
"Treulion ni bythefnos yn yr ysgol ac yn ystod y cyfnod llunion ni stori â'r plant wedi ei seilio ar hanesion y teulu," meddai Gerald Conn o Cinetig.
"Fe wnaethon nhw waith celf ar gyfer y ffilm ac aethon ni â chamera i'r ysgol.
"Maen nhw wedi gweithio'n galed ac, yn wir, wedi mynd i ysbryd y prosiect."
'Cyfle gwych'
Wrth ffilmio, gwisgodd y plant ddillad y cyfnod a chodi pebyll ar dir yr ysgol.
Bydd y trac sain yn cynnwys aelodau o deulu'r Wood yn chwarae'r delyn, deunydd o archif Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Caerdydd.
Ar ôl cael ei dangos yn yr ysgol bydd y ffilm yn cael ei gwylio yn nhre Llanelli ac yng Ngŵyl Ffilm Caerdydd.
"Mae pawb yn yr ysgol yn edrych ymlaen at weld y ffilm," meddai prifathrawes dros dro yr ysgol, Lynette Dunleavy.
"Roedd yn gyfle gwych i'r holl blant weld sut mae creu ffilmiau animeiddio."