Gwynfor Evans oedd Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru
|
Daeth dros 2,000 o bobl i angladd cyn-lywydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans, yn Aberystwyth ddydd Mercher.
Bu farw Dr Evans, Aelod Seneddol cyntaf y blaid, ar Ebrill 21 yn 92-oed ac mae nifer gan gynnwys gwleidyddion o bob plaid wedi bod yn talu teyrnged iddo.
Cynhaliwyd gwasanaeth preifat yng nghartre'r teulu yn Nhalar Wen, Pencarreg, am 1100 fore Mercher.
Yna dechreuodd y gwasanaeth angladdol cyhoeddus yng Nghapel Seion yn Aberystwyth am 1330.
Arweiniodd pibydd yr orymdaith angladdol i'r capel. Roedd baner y ddraig goch yn gorchuddio'r arch ac yn dilyn roedd tua 40 o aelodau'r teulu.
Roedd tua 500 o bobl y tu allan i'r capel yn gwrando ar y gwasanaeth oedd yn cael ei ddarlledu drwy system sain.
Hefyd roedd Capel Bethel gyferbyn ar agor i'r cyhoedd gyda darpariaeth sain yno.
 |
Mae colsyn bach o'r tân yng nghalon anferth Gwynfor wedi cyffwrdd â phob un ohonom
|
Cafodd yr arch ei chludo o'r hers i'r capel gan bedwar gwleidydd amlwg o Blaid Cymru, Elfyn Llwyd, Simon Thomas, Hywel Williams ac Adam Price, yn ogystal â Rhodri Glyn Thomas AC a Peter Hughes Griffiths.
Doedd gwraig Dr Evans, Rhiannon, ddim yn bresennol yn y capel oherwydd ei gwaeledd.
Roedd aelodau o'r prif bleidiau eraill yng Nghymru hefyd yn bresennol yn y gwasanaeth gan gynnwys Carwyn Jones, AC Llafur a Gweinidog Materion Gwledig y Cynulliad, Glyn Davies AC Ceidwadol a'r Arglwydd Richard Livsey o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol.
Gweinidog Dr Evans, Y Parchedig Huw Roberts, oedd yn arwain y gwasanaeth, gyda'r Parchedigion Andrew Lenny, Vivian Jones, Ron Williams a Casi Jones hefyd yn cymryd rhan.
'Edmygedd'
Fe fu dau gyn-lywydd y Blaid, Dafydd Wigley a Dafydd Elis-Thomas a llywydd presennol y blaid, Dafydd Iwan, yn talu teyrnged i Dr Evans yn ystod y gwasanaeth.
Dywedodd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, fod Dr Evans wedi ei eni yn y ganrif fwyaf treisgar yn hanes y byd.
Roedd aelodau o deulu Gwynfor Evans a chyn gydweithwyr yn y gwasanaeth
|
"Pa ryfedd felly mai heddwch rhyngwladol oedd pwnc cyhoeddiad cyntaf Gwynfor Evans," meddai.
"Y cyplysiad hwn o ddyfodol y Cymry fel cenedl a heddwch byd eang oedd canolbwynt ei yrfa."
Fe ddarllenodd Ieuan Wyn Jones ddarn o waith gan Emrys ap Iwan, Y Cymry yn Genedl.
Dywedodd mai Dr Evans oedd ei arwr gwleidyddol a bod neges Emrys ap Iwan yn berthnasol "o gofio Gwynfor fel Cymro ac fel Cristion".
Darllenodd Dafydd Iwan eiriau ei gerdd 'Daw, fe ddaw yr awr' sy'n cyfeirio at sgwâr Caerfyrddin lle y cyhoeddwyd canlyniad is-etholiad 1966 pan etholwyd Dr Evans yn aelod seneddol.
Dywedodd fod Dr Evans wedi bod yn ysbrydoliaeth iddo fel Cristion, heddychwr a chenedlaetholwr.
"Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i genedlaethau, i filoedd ohonon ni ac mae'r edmygedd yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau pleidiol," meddai.
'Cynhaliaeth'
Darllenodd Cynog Dafis, cyn AS ac AC, gerdd Gerald Manley Hopkins, God's Grandeur.
Dywedodd Dafydd Wigley fod rhaid diolch "am y gefnogaeth a'r gynhaliaeth a gafodd Gwynfor gan ei deulu.
Roedd tua 500 o bobol y tu allan i'r capel yn gwylio'r gwasanaeth
|
"Er y tristwch yma mae diolchgarwch am ei fywyd, edmygedd am ei bersonoliaeth a'i werthoedd a gorfoledd ei fod wedi byw i weld rhai o'i ddyheadau yn dod yn ffaith," meddai.
"Mae colsyn bach o'r tân yng nghalon anferth Gwynfor wedi cyffwrdd â phob un ohonom a llawer iawn oddi allan.
"Pan weles i o rai wythnosau yn ôl er bod y llais yn wan roedd y meddwl yn finiog ac o'r bedd bellach fe fydd yn parhau i'n hysbrydoli fel cenedl."
Roedd Winnie Ewing, AS cyntaf Plaid Genedlaethol Yr Alban (yr SNP), a fu yn San Steffan yr un pryd â Gwynfor Evans, hefyd yn bresennol yn y gwasanaeth.
Cafodd gwasanaeth teuluol preifat ei gynnal yn Amlosgfa Aberystwyth wedi'r gwasanaeth cyhoeddus.
Mae'r teulu am i bobl anfon cyfraniadau at Gymorth Cristnogol yn hytrach nac anfon blodau atynt.