Mae gwahoddiad i bobl Cymru ymuno â'r teulu i ddiolch am fywyd Gwynfor Evans mewn gwasanaeth angladd yr wythnos nesaf.
Bu farw'r dyn ddaeth yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru yn ei gartref yn 92 oed ddydd Iau.
Daeth i amlygrwydd fel llywydd Plaid Cymru yn y 1940au, swydd a ddaliodd tan 1981.
Bydd gwasanaeth preifat yng nghartre'r teulu yn Nhalar Wen, Pencarreg, ddydd Mercher, Ebrill 27.
Wedyn bydd arweinwyr y genedl yn annerch mewn gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth, am 1330 BST.
System sain
Dywedodd y teulu: "Yr ydym yn awyddus fod y gwasanaeth yn Aberystwyth yn gyfle i bobl Cymru ddiolch am
fywyd Gwynfor."
Bydd trefniadau i ddarlledu'r gwasanaeth drwy system sain tu allan i'r capel ar gyfer y rhai nad ydynt yn cael mynediad.
Gweinidog Gwynfor, Y Parch Huw Roberts, fydd yn llywyddu, gyda'r Parchedigion Andrew Lenny a Vivian Jones hefyd yn cymryd rhan.
Y Tri Dafydd fydd yn talu teyrnged i Gwynfor, sef Dafydd Wigley, Dafydd Elis Thomas, a Dafydd Iwan.
Bydd nifer o arweinwyr Cristnogol a gwleidyddol Cymru yn cymryd rhan.
Mae'r teulu am i bobl anfon cyfraniadau at Gymorth Cristnogol fel cyfraniad pobl Cymru at deulu cenhedloedd y byd.
Bydd gwasanaeth teuluol preifat yn Amlosgfa Aberystwyth.
Cariad at cyd-ddyn
Mae Cymry o bedwar ban byd wedi talu teyrnged i un o arweinwyr amlycaf Cymru.
Roedd y fuddugoliaeth yn 1966 ymhlith y rhai mwyaf syfrdanol erioed yn hanes gwleidyddiaeth Prydain a chafodd sylw gwasg y byd.
Bu'n amlwg iawn yn yr ymgyrch am sianel deledu Gymraeg a bygythiodd newynu hyd at farwolaeth os nad oedd Llywodraeth Margaret Thatcher yn sefydlu sianel.
Roedd yn awdur ac ysgrifennodd yn helaeth ar Hanes Cymru.
Cafodd ei eni yn Y Barri ar Fedi 1 1912 ond bu'n byw am ran fwya ei fywyd yn Llangadog, Sir Gaerfyrddin, cyn symud i Bencarreg.
Yn ddyn priod,roedd ganddo saith o blant ac wyrion, wyresau a gor-wyrion.
Bu farw yn ei gartref yn Nhalar Wen yng nghwmni ei deulu ar ôl gwaeledd hir.
"Roedd yn dal i'n caru ni drwy'r cyfan, yn ein cynnal ac yn gefn i ni," meddai un o'i feibion, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor.
"Roedd â chariad at ei genedl, y diwylliant a'r iaith, wrth gwrs.
"Ac roedd ganddo gariad at gyd-ddyn. Roedd pobl yn dod o bedwar ban i Dalar Wen ac yn cael croeso bob amser ac roedd yn dwlu arnyn nhw.
"Ond, yn bennaf, yr oedd ei gariad at ei Arglwydd."
Newid map Cymru
Dywedodd Rhys Evans, newyddiadurwr a chofiannydd Gwynfor Evans, fod ei gyfraniad yn "gyfangwbwl ryfeddol a'r cyfraniad yn rhychwantu saith degawd o weithgarwch ym mywyd cyhoeddus Cymru a Phrydain.
"Roedd ac mae'n ffigwr sy'n haeddu cael ei gyfri fel rhywun wnaeth drawsnewid map gwleidyddol Cymru a Phrydain.
"Fe wnaeth drawsnewid Plaid Cymru o fod yn sect fechan iawn o bobol i fod yr hyn yw hi heddiw, plaid sy'n cael ei chyfri fel plaid yn gyfansoddiadol a phlaid sy'n cael ei pharchu.
"Yn ail, roedd yn hollbwysig o safbwynt y mudiad cenedlaethol. Fe oedd wrth wraidd nifer o'r ymdrechion dros gynifer o flynyddoedd.
"Os edrychwch ar agweddau fel darlledu cyhoeddus, y brifysgol, Cymreigio'r cynghorau, fe welwch ôl gwaith a dylanwad Gwynfor Evans."
Dywedodd ei gyn-asiant Peter Hughes Griffiths iddo newid gwleidyddiaeth yng Nghymru.
Gweithiodd gyda Mr Evans yn y saithdegau a thrwy gipio sedd Caerfyrddin, meddai, roedd wedi paratoi'r ffordd ar gyfer datganoli.
"Sicrhaodd ei safiad personol dewr sianel Gymraeg."
Dywedodd iddo hyd y diwedd gynnal diddordeb mawr ym mhob agwedd ar wleidyddiaeth Cymru.