BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 28 Tachwedd 2005, 09:37 GMT
Lansio gwyl delynau yn Eryri
Catrin Finch
Bydd Catrin Finch yn perfformio yn yr ŵyl yng Nghaernarfon

Mae Gŵyl Delynau Ryngwladol yn cael ei lansio ddydd Llun a bydd yn ymweld Chymru am y tro cyntaf yn 2006.

Bydd cyfle i delynorion ifanc i dderbyn hyfforddiant a chymryd rhan mewn gweithdai, dosbarthiadau meistr a chyngherddau sy'n cael eu cynnal yng Ngwynedd.

Cynhelir yr ŵyl yn Galeri o Ebrill 16 -23 2006 a bydd rhai o delynorion enwocaf y byd yn cynnwys Isabelle Moretti, athrawes y delyn yn y Conservatoire Nationale ym Mharis, Catrin Finch a Deborah Henson-Conant, y delynores jazz o America yn cymryd rhan.

Cynigir gwobrau sy'n werth dros 25,000 gan gynnwys dwy delyn newydd i enillwyr y cystadlaethau.

Wrth lansio'r fenter dywedodd cyfarwyddwraig yr ŵyl Elinor Bennett: "'Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu denu cymaint o enwau mawr byd y delyn i lannau'r Fenai.

"Rydyn ni'n awyddus iawn i weld cymaint o bobl ifanc ag sy'n bosibl yn cofrestru ar gyfer yr ŵyl.

"Mae'n gyfle ffantastig i delynorion o bob oed allu dod at ei gilydd mewn man mor brydferth i ganu'r delyn a chreu cerddoriaeth. "

Ychwanegoddd Ms Bennett bod yr ŵyl wedi denu diddordeb teynorion yn Singapore, Israel, Rwsia, Serbia, a Thwrci.

Canolfan Gerdd William Mathias sy'n gyfrifol am drefnu'r ŵyl a'r llywydd anrhydeddus yw Osian Ellis un o delynorion amlycaf Cymru.

Estynnwyd y dyddiad ar gyfer derbyn ceisiadau hyd at Ionawr 30, 2006.


HEFYD
Cwmni'n agor ffatri delynau
05 Hyd 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^