BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 22 Ebrill, 2005, 16:22 GMT 17:22 UK
O Vaughan i Fynwy
Vaughan Roderick
Vaughan Roderick
BBC Cymru

Mae Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru yn bwrw golwg ar faterion y dydd yn ei golofn. Wedi marwolaeth Gwynfor Evans ddydd Iau mae'n cofio clywed Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru yn areithio am y tro cyntaf.

Dydd Gwener, Ebrill 22

Yn ystod bwrlwm gwleidyddol y chwedegau doedd hi ddim yn anarferol i blant ymddiddori mewn gwleidyddiaeth. Efallai y byddai plant heddiw yn rhyfeddu fod rhai ohonon ni'n mwynhau mynd i gyfarfodydd gwleidyddol pan oeddem ni'n ddisgyblion cynradd!

Cyn i mi gyrraedd 10 oed roeddwn i wedi clywed Harold Wilson yn annerch y dorf ym Mharc Ninian, Ted Heath yn ceisio tanio ei gefnogwyr ym Mhafiliwn Gerddi Soffia a Jo Grimmond yn disgrifio ei "ryddfrydiaeth newydd" i`r selogion yn Neuadd Cory.

Mae Pafiliwn Gerddi Soffia a Neuadd Cory wedi hen ddiflannu a chyn bo hir mae'n bosib y bydd Parc Ninian yn perthyn i'r llyfrau hanes.

Hanesyddol

Gwŷr y Rhondda sy'n cymryd gwell gofal o'u hadeiladau hanesyddol - yn Nhreorci mae neuadd ysblennydd y Parc a'r DÔr yn dal i wasanaethu fel theatr a sinema.

Yn y Parc a'r DÔr y clywais Gwynfor Evans yn areithio am y tro cyntaf. Roeddwn i'n naw mlwydd oed ac roedd y cyfarfod ar drothwy is-etholiad Gorllewin y Rhondda ym Mawrth 1967.

Rhai i mi gyfaddef mai nid Gwynfor oedd seren y noson i ni'r plant. Araith yr actor Meredydd Edwards sy'n aros yn y cof - araith yn llawn hiwmor a gwatwar.

Er na chofiaf araith Gwynfor ar yr achlysur hwnnw, mae'n ddigon hawdd i mi drafod y cynnwys oherwydd, mewn gwirionedd, roedd cynnwys a neges areithiau Gwynfor yn ddigyfnewid.

Gwers hanes

Yn ddieithriad, byddai'r araith yn cynnwys gwers hanes. Byddai'r union gyfnod yn amrywio - Macsen Wledig mewn un araith, Hywel Dda yn y nesa - ond yr un oedd y bwriad bob tro sef pwysleisio cenedligrwydd Cymru a'i hanes hir fel gwlad.

I ni heddiw, mae'r pwyslais ar hanes yn ymddangos yn rhyfedd neu hyd yn oed yn ecsentrig. Ond pan fagwyd Gwynfor Evans roedd hen ddigon o bobol, mwyafrif o bosib, nad oedden nhw'n ystyried Cymru yn wlad na'r Cymry'n genedl.

Ymladd brwydrau gwleidyddol y mae Plaid Cymru heddiw...ymladd brwydr seicolegol oedd tasg Gwynfor Evans. Yn y dasg honno roedd yn mynnu bod Plaid Cymru yn rhan o "fudiad cenedlaethol" llawer mwy eang oedd yn cynnwys mudiadau a chyrff anwleidyddol fel yr Urdd a'r ysgolion Cymraeg a hyd yn oed, ar adegau, wleidyddion o bleidiau eraill.

Ysgubol

Yn y frwydr honno enillodd Gwynfor fuddugoliaeth ysgubol. A fyddai plaid o'r enw "Llafur Cymru" oni bai am Gwynfor Evans? Go brin. A fyddai cynulliad yng Nghaerdydd, S4C, Radio Cymru? Annhebyg iawn.

Ni chafodd ei freuddwyd fawr, hunanlywodraeth, ei gwireddu. Ond nid ennill hunanlywodraeth er mwyn ennill hunanlywodraeth oedd cymhelliad Gwynfor.

Diogelu cenedligrwydd a diwylliant Cymru oedd yn ei sbarduno a thra bod dyfodol y Gymru Gymraeg o hyd yn ansicr ym meddyliau ei phobol, does dim amheuaeth bod Cymru'n genedl. I Gwynfor y mae'r diolch.




O Vaughan i Fynwy


DIWEDDARA

O'R ARCHIF
SYLWADAU 2006
 
WEDI ETHOLIAD 2005
 
HYNT A HELYNT YR YMGYRCH
 
SYLWADAU CYN YR ETHOLIAD
 
SYLWADAU 2004
 



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^