Bu farw Gwynfor Evans yn 92 oed ddydd Iau
|
Yn dilyn marwolaeth Dr Gwynfor Evans yn 92 oed dydd Iau mae 'na lu o deyrngedau wedi cael eu talu iddo.
Isod dyma rhai o'r ymateb ganddoch chi.
Rydym wedi cau Dweud eich Dweud rwan. Isod mae'r sylwadau a'r teyrngedau a ddaeth i law.
Eich ymateb:
Cofio clywed y newyddion fore wedi'r etholiad, a mynd i fyny i Lundain yn ferch ysgol i'w weld yn cyrraedd y Senedd yn 1966.Teimlo rwan fod fy nghalon yn torri, ond wrth gofio amdano, ei addfwynder a'i ddycnwch
Meg Elis, Waunfawr, Gwynedd
Mi fydd hi'n chwith iawn hebddo. Gwleidydd bonheddig a Chymro triw. Esiampl i ni gyd.
Sioned Lewis, Caerdydd
Trist iawn clywed y newyddion. Cofion at y teulu.
Lefi a Gwen Gruffudd, Sorrento, yr Eidal
Mi wnes gyfarfod a'r Bonwr Dr. Gwynfor Evans ym Mhencader Sir Gaerfyrddin, nôl yn y flwyddyn 1952. Roedd yn aros hefo ni fel teulu noson cyn rali'r Blaid 23ain o Fedi, a finne yn 16eg oed. Wedyn, ar ôl blynyddoedd, daeth i ddarlithio i Gymdeithas Emrys ap Iwan, yma yn Abergele. Ar ôl y ddarlith, daeth atom am swper a gwely. Buom yn siarad a siarad tan tua hanner awr wedi dau y bore tranoeth. Wel, dyna be oedd noson ddifyr. Anghofia i byth. Ar ôl iddo fynd am adre sylweddolais fy mod wedi cael cwmni cawr o ddyn, a'i bod yn anrhydedd ei gyfarfod.
Siôn Jones, Abergele, Conwy.
Roedd Gwynfor Evans yn arwr ifi drwy gydol fy mhlentyndod yng Ngharfyrddin. 'Rwy'n cofio fel ddoe pan gafodd ei ethol dros Gaerfyrddin. Cofiaf hefyd yr etholidau pan oedd yn frwydr mor danllyd rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur. Hebddo fe a fydde s4C gyda ni heddiw? Diolch Gwynfor am bopeth a gyflawnaist dros Gymru a'r Gymraeg.
Sian Rowlands, Brest, Llydaw
Cymro mwyaf ein hoes. Diolch am ddangos inni'r hyn a allwn fod.
Jason Morgan, Rachub a Chaerdydd
Clywed y newyddion yn y Sbaen. Trist iawn iawn. Cwrddais Gwynfor yn 1999, a rhoddodd i mi gyfweliad arbennig iawn. Ar ôl hynny, rhoddodd i mi lawer o gefnogaeth bersonol ynglŷn â fy ymchwil ar y pwnc o George M Ll Davies, sy ac oedd yn ffrind clos personol, a sy wedi cymryd rhan ym mhriodas Gwynfor a Rhiannon. ´Gentleman´ go iawn oedd Gwynfor, ond gwleidyddwr go iawn hefyd - oedd e´n anodd iawn, yn y cyfweliad, i ffeindio cwestiwn i ofyn sy ddim wedi cael ei ateb gan Gwynfor, rhywle arall, o´r blaen!! Oedd e´n fraint ´ch nabod chi, Gwynfor, a diolch o galon am ´ch help i mi. Trist iawn i mi fod allan o Gymru heddi´.
Jen Llywelyn, Ystumtuen, Ceredigion
I ni, ieuenctid y 60au a'r 70au, bu Gwynfor yn eicon o Gymreictod rhyngwladol, goleuedig.
Cyfunai argyhoeddiad personol anferth ag amynedd a phwyll tuag at wrthwynebwyr. Bu'n angerddol dros godi Cymru a'r Gymraeg ond hefyd yn ffyddlon i'w egwyddorion yn rhyngwladol. Cofiaf y sioc - y wefr - o'i glywed yn traethu ar Fietnam a'r rhyfel yn Biafra gan ymfalchïo bod barn wleidyddol annibynnol Gymreig yn cael ei mynegi mor hyderus â chroyw gerbron byd. Cafodd Blair a'i antur yn Irac ddihangfa cymharol rhagddo oherwydd ei lesgedd olaf. Ni fu Wilson mor ffodus! Rhoddodd inni fodel hyderus a phwrpasol o sut i fod yn Gymry ymroddgar gan aros yn agored i'r byd a'i bethau. Roedd yn ffenomenon: yn ddyn rhinweddol, llwyddiannus (ar y cyfan) ym mhydew gwleidyddiaeth. Mae colled ar ei ôl - ac enghraifft euraid.
D. L. Davies, Cwmaman, Aberdâr
Diolch o galon i Gymro i'r Carn!
Dylan, Llanrwst
Diolch Gwynfor
Rhiannon, Cymru
"Mae Gwynfor yn y senedd medde ni" - cof plentyn o floeddio canu yng nghanol y dorf y tu allan i San Steffan yn 66 a chael fy mhasio o un pen-ysgwydd i'r llall er mwyn cael cip ar yr arwr. Diolch am brofiad bythgofiadwy. Yn anad neb, ef yw'n 'gwrol ryfelwr, gwladgarwr tra mad'
Gareth Wood, Trelewis, Merthyr Tudful
Colled mawr iawn, ond atgoffiad da o arweinyddiaeth cryf ym Mhlaid Cymru pan mae ei angen fwyaf.
Mathew Hywel, Llandysul, Ceredigion
Newyddion trist ond eto yn gyfle i ni fel Cymry i dalu teyrnged i un a fu mor dryw a gweithgar dros ein Cenedl. Rhaid diolch am gael y cyfle i adnabod gwleidydd o statws, urddas a pharch - yn esiampl i'r gwleidyddion ffug sydd yn y byd ohoni. Diolch Gwynfor, am roi i ni cyfle yn Sir Gaerfyrddin, a mawr gydymdeimliad i'r teulu.
Llinos Jones, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Ysbrydoliaeth imi fel cymaint o bobl eraill. Yn fyfyriwr ym Manceinion yn 1966, ysgrifennais ato yn betrusgar yn Saesneg yn dilyn ei fuddugoliaeth yng Nghaerfyrddin gan ofyn sut i ymaelodi a'r Blaid. Roedd ei gefnogaeth yn amlwg pryd hynny a phob amser oddi ar hynny.
Diolch am y fraint o gael ei adnabod.
Carl Iwan Clowes, Ynys Môn
Colled fawr i Gymru; ond yn ei fyw fe sicrhaodd nad â fyth yn angof.
Meinir Eluned Jones, Caernarfon, Gwynedd
'Roedd Gwynfor Evans fel tad i bob un ohonom sy'n credu yn nyfodol ein gwlad a'i chenedl. Tangnefedd tragwyddol i ddyn o heddwch.
Timothy Huw Davies, Llundain
Hoffwn ddiolch i Gwynfor Evans am ei waith amhrisiadwy dros yr iaith a'r Cymru 'da ni'n byw ynddi heddiw. Y bydd ei golled yn enfawr. Dw i'n siwr ei fod o yn edrych i lawr arnom ni i gyd wrth ochr ei feistr. Diolch Mr Evans. Boed i fendith Duw fod gyda thi nawr a wastad.
Huw Brynmor Edwards, Talybont, Ceredigion
Prif ddylanwad cenedlaetholdeb heddychlon ein gwlad. Gandhi Cymru, rhaid parhau gyda'r gwaith i wireddu ei freuddwyd - Cymru Rydd.
Llew Rhys
Dyn sydd wedi crynhoi ystyr gwir Gymro. Collwyd cawr, ond bydd ei etifeddiaeth yn parhau.
Esyllt Dafydd, Chiswick, Llundain
Y Saesneg yw cerbyd angau Cymru. Gwybu Gwynfor hynny. Diolch iddo am ein S4C annwyl ni. Arwr, cawr, bonheddwr. Sut siap yn wir (!) fuasai arni hebddo?
William Knox, Toronto, Canada
Cofio gweld Gwynfor Evans yn cael ei yrru mewn 'sports car' bach coch drwy ein pentref yn Sir Gaerfyrddin ym 1966 ar ôl ennill y sedd. Rhyw wefr a gobaith yn cael ei hennyn. Pob cydymdeimlad i'r teulu yn eu colled, sy'n llawer mwy nag i ni sy'n gwylio o'r ymylon. Diolch.
Rhys Morgan, Penarlag, Sir y Fflint
Dyn mawr 'dy ni wedi colli - dyn y ganrif i Gymru. Byth anghofio pawb.
Gareth Jones, Llundain, Lloegr
Dyn cryf, urddasol ond eto dyn annwyl 'da theimlad. Cofiaf bob amser 'da balchder.
Jaci Owen Evans, Llangrannog
Gallai'r teyrngedau hyn a'r newyddion am ei farw fod wedi eu rhoi ym 1980, a byddai Cymru ddi-sianel yn eithriadol o chwerw am ei golli. Ond enillodd, a chawsom chwarter canrif arall o arweiniad ganddo.
Angharad Tomos, Penygroes, Gwynedd
Fe luniodd fy nhad-cu englyn i'w arwr yntau ddeugain mlynedd yn ôl:
Gwynfor
Weledydd y dydd wyt ar dân - naws iâ'r
Nos hir a aeth weithian;
Cei Gymru'n rhydd yn fuan,
Mawr a glew wyt, Gymro glân.
(Jac Evans, Caerfyrddin)
Hywel Jones, Caerdydd
Cofiaf yn dda y cyffro yn ein pentref oherwydd bod Gwynfor wedi ennill! Parhaodd yn ŷr i haeddu ein parch.
Olive Frost, Treffynnon yn awr ond yn wreiddiol o Sir Gâr
Mae aelodau Cymdeithas y Cymod yng Nghymru yn diolch i Gwynfor am ei gyfraniad enfawr i heddychiaeth Gristnogol yng Nghymru. I Gwynfor yn bennaf mae'r diolch fod y mudiad cenedlaethol yng Nghymru wedi dilyn y ffordd ddi drais tuag at ryddid i'n gwlad. Cydymdeimlwn a'i deulu heddiw, a gwelwn ei golli yn fawr.
Arfon Rhys, Ysgrifennydd Cymdeithas y Cymod yng Nghymru, Caernarfon, Gwynedd
Yn y chwedegau a minnau yn fachgen ifanc, cofiaf glywed Gwynfor Evans yn llefaru o lwyfan cynhadledd Plaid Cymru ym Mhwllheli. Yno yn y fan a¿r lle fe¿m ysbrydolwyd ganddo ac amlygodd i mi mai cyfiawnder a heddwch oedd yr unig sylfaen y gellid gosod barn gwleidyddol gadarn arni, ac yno ymunais a Phlaid Cymru am y tro cyntaf. Roedd goslef dawel benderfynol ei lais yn hudolus a dangosodd fod rhaid bod yn benderfynol i hawlio cyfiawnder i Cymru. Ei benderfyniad tawel enillodd i ni sianel deledu Gymraeg y gallwn ei barnu neu ei chlodfori, ond hebddi mae anodd dirnad ym mha gyflwr fyddai'r iaith yn nechrau yr unfed ganrif ar ugain.
Heddiw gyda ei ymadawiad erys gwaddod ei waith. Ym Mae Caerdydd mae senedd yn ei babandod yn datblygu. Yng nghalon genedlaetholwyr erys yr un ysbryd oedd ac sydd yn deheu am ryddid cenedlaethol. Wrth dalu ein teyrngedau iddo cofiwn mai¿r deyrnged orau yw ymroi i gadw¿r breuddwyd yn fyw, a gweithio yn y ¿winllan wen, tros Gymru ein gwlad¿.
Cynghorydd Richard Parry Hughes (arweinydd Cyngor Gwynedd), Llwyndyrys, Pwllheli, Gwynedd.
Rhoddodd ysbrydoliaeth i mi yn bersonol, ac i Gymry yn gyffredinol, yn ystod ein hangen mwyaf - rwy'n teimlo'r golled o ddifri. Fe wnaeth e lwyddo i newid sefyllfa ein gwlad, ac agweddau eraill tuag at ein gwlad, yn gyfan-gwbl, a mae e wedi sicrhau ei sefyllfa fel un o arwyr y genedl fel canlyniad.
Geraint Waters, Dulyn, Iwerddon
Nid oes yr un gwleidydd wedi torri cwys unig Cymreictod gyhyd, na cyn ddewred â Gwynfor Evans. Mae atgof rhyfedd o farw D.J. Williams yn ei farw yn ystod ymgyrch etholiadol.
Huw Chambers, Aberystwyth
Diolch yn fawr am bob dim wnaist i Gymru ai phobol a'r iaith. Diolch Gwynfor
Dylan Roberts, Penygroes , Gwynedd
Gŵr Bonheddig, a diddordeb mewn pobl, aelod ffyddlon o Gapel Bethel Parc y Rhos.
Dylan Lewis, Cwmann, Sir Gaerfyrddin
Un gair,ARWR!!!!
Osian Llywelyn, Aberystwyth, Cymru
Dyma, yn ddi-os,Gymro mwyaf y ganrif ddiwethaf. Ond fe saif hefyd yn rheng flaenaf un Cymry mawr yr oesoedd.
Gruffydd Aled Williams, Aberystwyth, Ceredigion
Un a gafodd ddylanwad enfawr ar Gymru a Chymry o bob plaid. Dyn bonheddig ac annwyl iawn, yn arwr i lawer un.
Lis Jones,
Diolch yn fawr Gwynfor
Stephen Owen, Llundain
Un o ffigyrau mwyaf hanes Cymru. Y mae dyletswydd ar bob gwir Cymro i sicrhau bod breuddwyd Gwynfor o Senedd go iawn i Gymru yn cael ei gwireiddu
Jonathan Edwards, Caerfyrddin
Trist oedd darllen am farwolaeth Gwynfor Evans,ond boed i ni fod yn ddiolchgar hefyd am ei fywyd a'i lafur dros Gymru.
Linda Hughes, British Columbia , Canada.
Gwinllan a roddwyd - diolch am ein harwain, Gwynfor.
Anwen, Bryngwran, Ynys Môn
Pan oeddwn yn ifanc, roedd Gwynfor yn arwr mawr imi, felly ymunais â'r Blaid, ymhell yn ôl ym 1971, ac rwy'n aelod byth oddi ar hynny.
Roedd bob amser yn ysbrydoliaeth i'r hen a'r ifanc fel ei gilydd, yn barod i sgwrsio ar lefel unigol, a hefyd i annerch llond ystafell o blant ysgol - yn fyr, yn arweinydd heb ei ail, a osododd seiliau'r Blaid yn gadarn i'w olynwyr.
Mawr fydd y golled ar ei ôl.
Helen Smith, Pen-y-groes, Caernarfon, Gwynedd
Diolch am bobeth Gwynfor!
Stephen, Rhydaman, Cymru
Cymro i'r Carn, Dioch Gwynfor
Dylan , Penygroes , Gwynedd
Diolch am y Flynyddodd Gwynfor. Ein teimladau i'r teulu.
Douglas Jones, Llydaw
Bu farw Cawr. Hir oes i'w enw a'i ddylanwad!
Eluned Haf,
Bonheddwr mwyaf ein canrif. Sut siap fyddai ar Gymru pe bai Gwynfor ddim wedi ymladd dros ein rhan ni i gyd fel cenedl?? Mae ein gwerthfawrogiad yn enfawr iddo ef a¿i deulu. Bu yn weithgar trosom i ddechrau fel cynghorydd Sir Gaerfyrddin. Bu¿n aelod seneddol mwyaf gweithgar mae Sir Gâr wedi ei gael erioed. Mae gwleidyddiaeth Cymru wedi ei newid am byth trwy aberth a dyfal barhad Gwynfor Evans.
Diolch am bopeth Gwynfor. Diolch am fod yn Gymro
Alun ac Ann Thomas, Bassaleg Casnewydd
Arwr i'r Cymry does dim amheuaeth. Dyn a pharch enfawr oddi fewn a tu allan i Blaid Cymru. Bydd colled mawr ar ei ôl.
Siôn, Dinbych
Ces fy hysbrydoli i ddysgu'r Gymraeg gan bobl fel Gwynfor Evans. Mae'r hyn y mae wedi'i adael yn enfawr.
John, Hilversum, yr Iseldiroedd
Newyddion trist iawn.Cofio fod yn un o'r dyrfa tu allan i'r senedd pan aeth yno am y tro cyntaf yn '66. Diolch am ei gyfraniad i Gymru, colled ar ei ôl.
Menna Evans , Yr Wyddgrug. Sir y Fflint
Yr oedd Gwynfor Evans yn un o Gymry mawr yr oesoedd, yn arweinydd-weledydd di-ildio ac yn ymladdwr ffyrnig o fonheddig a oedd yn ysbrydoliaeth i bawb a ddaeth i gysylltiad ag ef.
Gyda'i farw yr ydym megis yn colli Tad yn Israel.
Derec Llwyd Morgan, Ynys Môn
Wn i ddim sut lun fyddai ar Gymru heddiw hebddo.Fo a'n lluniodd ni,fo liwiodd ein hanes,fo ddysgodd i ni fod posib troi breuddwydion yn realiti.Roedd o'n broffwyd, yn wleidydd,athro, arlywydd ac arweinydd. Welodd Cymru rioed neb tebyg iddo."Y mwyaf mawr" welsom ni ac a welwn ni.Ein braint ni oedd ei gyfarfod a'r peth lleia fedrwn ni ei wneud fydd cadw'r freuddwyd yn fyw."Oni wyddoch i broffwyd ac i wr mawr farw heddiw yn yr Israel"
Jane Edwards, Llangefni Ynys Môn
Bydd Gwynfor yn parhau i fod yn ysbrydoliaeth i bobl Cymru ac eraill led led y byd sy'n ymgyrchu dros gyfiawnder a rhyddid.
Owen John Thomas, Caerdydd. AC Plaid Cymru Canol De Cymru
Gwleidydd di-ildio a phenderfynol ond yn anad dim, dyn bonheddig. Mae'n arwyddocaol fod ei ddylanwad yn ymestyn ymhell tu hwnt i Blaid Cymru. Er bod llawer o broblemau difrifol gennym o hyd yng Nghymru - sefyllfa ein hiaith yn un peth - gallasai fod yn waeth o lawer oni bai am lwyddiannau Plaid Cymru o dan arweinyddiaeth Gwynfor. Ac rwy'n sicr fod y ffaith iddo gael ei eni yn Y Barri wedi helpu hefyd i lawer o bobl y de-ddwyrain ddod i weld Cymru fel un genedl, ac yn fodd i Blaid Cymru gael troedle cadarn yno! Heddwch i'w lwch.
Ianto, Abertawe gynt
Cawr ymhlith cewri na welir ei debyg eto.
Pedr ap Llwyd, Ceredigion
Colled fawr i Gymru, Ewrop a'r byd. Ei aberth nid â heibio. Ei wyneb annwyl nid â'n ango (Hedd Wyn).
Lieven Dehandschutter, Sint-Niklaas (Fflandrys / Gwlad Belg)
Stafell Gynddylan ys tywyll heno,
Heb dân, heb wely;
Wylaf wers, tawaf wedy.
John Good, Arizona
Byddwn yn fawr ein colled fel cenedl wedi marwolaeth un o gewri'n gwlad, Dr Gwynfor Evans. Brwydodd yntau ar hyd ei oes yn achos cenedlaetholrwydd cymedrol. Roedd ei ddewrder wrth wynebu sialensau'r ganrif ddiwethaf yn haeddu'r parch mwyaf.
Unwaith yn unig wnes i gwrdd â Gwynfor, ac yntau'n brwydro am y tro diwethaf i fynd nôl i San Steffan yn hen etholaeth Caerfyrddin, ond rwy'n medru cydnabod - er i mi ddod at faterion gwleidyddol o gyfeiriad dra gwahanol - i'w esiampl wneud dylanwad arnaf innau. Mi ddylanwadodd ar filoedd lawer o'n cyd-Gymry.
Unwn yn ein gweddi y bydd Duw yn rhoi nerth i'w deulu yn eu colled.
Parch Aled Jones, Prifysgol Stellenbosch, De Affrica
Mae hyn yn siom fawr i wleidyddiaeth Cymru. Yr unig opsiwn yn awr yw i ddiolch i Dr Evans am bopeth mae wedi ei gwneud i ni fel cenedl. Diolch.
Nia-Meleri Ifan, Aberystwyth, Ceredigion
Cofio sefyll trwy'r nos yng Nghaerfyrddin ym 1973 i weld Gwynfor yn colli ei sedd ac yna ym 1974 yn ei had-ennill. Cofio hefyd ei ympryd ym 1980 arweiniodd i'r llywodraeth wneud tro pedol a chaniatáu sianel deledu Cymraeg. Cymro i'r carn, gŵrol ryfelwr, gŵr bonheddig. Colled mawr i Gymru.
Aled Pari, Bangor, Gwynedd
Mae'n newyddion trist iawn i glywed bod Gwynfor wedi marw. Mae gen i gymaint o barch ato am weithio mor ddiwyd dros Blaid Cymru, yn bennaf o ran ei ymroddiad i ymgyrch yr ymprydwyr yng Ngogledd Iwerddon, a'r ffordd a wnaeth dynnu sylw at yr anghyfiawnderau hawliau dynol yn y dalaith ar y pryd. Rwyf yn dod o deulu Gwyddelig ac mi roedd gweld Cymro yn helpu yn yr ymgyrch yn ysbrydoledig. Cofion at y teulu.
Bethan Jenkins, Aberystwyth, Ceredigion
Colled fawr i Gymru.
Geraint Roberts a'r Teulu, Caernarfon
Cawr - pa air arall sydd i'w ddisgrifio? Wrth edrych ar bolisïau ac ASau Plaid Cymru heddiw gellir gweld yn glir mae ef fu'r prif ddylanwad ac nid Saunders Lewis.
Rhys Llwyd, Aberystwyth