BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 21 Ebrill, 2005, 16:26 GMT 17:26 UK
Cofio'r 'cawr gwleidyddol'
Gwynfor Evans
Gwynfor Evans oedd Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru

Mae ffigyrau amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru wedi talu teyrngedau i Gwynfor Evans a fu farw ddydd Iau yn 92 oed.

Dr Evans oedd Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru pan enillodd is-etholiad Caerfyrddin yn 1966.

Dyma grynodeb o'r teyrngedau i un o ffigyrau amlycaf gwleidyddiaeth Cymru.

Dafydd Iwan, Llywydd Plaid Cymru:

"Mae Plaid Cymru wedi tristu heddiw o glywed y newyddion am farwolaeth Gwynfor Evans. Mae'r newydd wedi ei dderbyn thristwch mawr gan bawb ym Mhlaid Cymru sydd wedi ei ysbrydoli gan Gwynfor dros y blynyddoedd i weithio dros Gymru ac i greu cenedl y gallwn fod yn falch ohoni.

"I aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru yn hen ac ifanc, roedd yn arweinydd ysbrydol a bydd yn parhau i fod. Mae'n amhosibl gor-bwysleisio cyfraniad unigryw Gwynfor i adeiladu Plaid Cymru i'r blaid y mae hi heddiw.

"Ef oedd pensaer y Blaid Cymru fodern ac fe drodd hi'n rym etholiadol credadwy pan gafodd ei ethol yn Aelod Seneddol yn 1966.

"Gwynfor oedd cynhaliaeth y Blaid yn ystod blynyddoedd llwm y 50au a'r 60au. Mae'n wir i ddweud heb Gwynfor wrth y llyw na fyddai Plaid Cymru wedi llwyddo mewn etholiadau ac ymgyrchoedd yn y blynyddoedd diweddar.

"Mae ei ddylanwad ymhell y tu hwnt i ffiniau gwleidyddiaeth bleidiol. Ni fyddai Cymru y wlad yw hi heddiw - yn wir mae'n bosib na fyddai yn wlad o gwbwl - heb waith a dyfalbarhad Gwynfor.

"Roedd yn ddylanwad enfawr ar fy naliadau gwleidyddol ac yn arweinydd cenedlaethol ymhob ystyr y gair. Bydd colled fawr ar l ei ddoethineb a'i arweiniad ond bydd ei ysbrydoliaeth yn aros gyda ni am byth. Mae'n cydymdeimlad ni oll gyda'i wraig Rhiannon a'i deulu."

Dafydd Wigley, cyn-lywydd Plaid Cymru:

"Does gen i ddim gronyn o amheuaeth mai fo ydi'r cenedlaetholwr gwleidyddol mwya' erioed yng Nghymru a Chymro mwya'r ugeinfed ganrif.

Dafydd Wigley
Dafydd Wigley: "Cenedlaetholwr gwleidyddol mwya' erioed"
"Dwi'n meddwl fod pobl mewn pleidiau gwleidyddol eraill oedd wedi brwydro efallai yn ei erbyn wedi dod i'w barchu oherwydd y modd yr oedd yn sefyll yn gadarn dros y blynyddoedd. Faint bynnag o erlid oedd arno fo, roedd yn sefyll dros ei egwyddorion a doedd o byth yn chwerwi.

"Mi ddaru fyw i weld y gweddnewidiad yn rhagolygon y genedl ac, yn sicr, mae yna ddiolch aruthrol ganddon ni oll o'r genhedlaeth sydd wedi byw trwy hyn iddo fo am ei arweiniad.

"Roedd yn un rhyfeddol i gydweithio ag o yn y Senedd - yn weithgar tu hwnt ... yn ysgrifennu llythyrau di-ri yn ei lawysgrif ei hun tan oriau hwyr y nos a'r ffordd roedd yn dehongli beth oedd yn digwydd yn wleidyddol.

"Ac roedd bob amser yn mynnu fod rhaid edrych ar bethau o berspectif cenedlaethol Cymreig.

"Dwi'n credu ei bod yn deg dweud fod ei ymrwymiad i heddwch o leiaf cyn gryfed os nad yn gryfach na'i genedlaetholdeb. Roedd hynny'n egwyddor sylfaenol iddo ac roedd yn gwbwl ddiwyro ar hynny. "

Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan (datganiad ar ei ran):

"O glywed y newyddion mae'r Prif Weinidog wedi mynegi ei dristwch ac wedi disgrifio Mr Evans fel ffigwr da a bonheddig.

"Nododd ei fod wedi mynd i'r un coleg yn Rhydychen a gall gofio trafodaeth ddiddorol yn ymwneud 'i gysylltiadau teuluol theulu Dan Evans yn y Barri.

"Aeth ymlaen drwy nodi er nad oedd ei berthynas ag ASau Llafur bob amser yn gadarnhaol, does dim modd gwadu ei gyfraniad anferth i fywyd cyhoeddus yng Nghymru, yn arbennig wrth godi proffil Cymru a materion Cymreig a thrwy ei yrfa hir yng ngwleidyddiaeth Cymru a Phrydain."

Yr Arglwydd Roberts o Gonwy (cyn-AS Ceidwadol):

Wrth sn am ei fygythiad i newynu i farwolaeth dywedodd: "Roedden ni (y Blaid Geidwadol) wedi gwneud addewid yn 1979 y byddai sianel ar wahn ac, yn anffodus, doedd gwireddu'r addewid ddim yn dibynnu arnon ni yn y Swyddfa Gymreig ond ar y Swyddfa Gartref ac mi ddaru nhw fradychu'r addewid.

Yr Arglwydd Roberts o Gonwy
Yr Arglwydd Roberts o Gonwy: 'Cyfraniad sylweddol dros ben'

"Fe ddaeth Gwynfor, drwy ei fygythiad i newynu, ni yn l at yr addewid gwreiddiol hwnnw.

"Dwi'n credu fod yr hyn wnaeth o yn sicr wedi dylanwadu ar y llywodraeth yn y pen draw ac wedi eu hargyhoeddi nad oedd yn ddoeth iddyn nhw beidio chyflawni eu haddewid.

"Felly mae'r cyfraniad wedi bod yn un sylweddol dros ben."

Yr Arglwydd Roberts o Landudno:

"Dwi'n cofio Gwynfor gydag anwyldeb mawr. Roedd o'n un o'n harwyr ni ac ymhlith cewri'r ganrif yma yng Nghymru.

"Dwi'n ei gofio fel bonheddwr, bob amser yn bwyllog a chadarn, ac roedd gen i edmygedd mawr ohono, nid yn unig fel Llywydd Plaid Cymru ond Llywydd Undeb yr Annibynwyr yng Nghymru...roedd yn ddyn arbennig iawn."

"Mi fuaswn i'n meddwl ei fod wedi cadw Plaid Cymru yng nghanol y frwydr. Os oes ganddoch chi arweinydd cadarn, mae'n gwneud cymaint o wahaniaeth ac roedd yn gawr o ddyn yn wleidyddol."

Yr Arglwydd Elystan Morgan o'r Blaid Lafur ond a fu hefyd yn aelod o Blaid Cymru:

Mae pennod fawr yn hanes Cymru wedi dod i ben gyda'i farwolaeth. Mae ei gyfraniad dwi'n credu wedi bod yn aruthrol o fawr.

"Does na ddim pobl fel Gwynfor Evans ar l yng ngwleidyddiaeth heddiw."

Prif Weithredwr S4C, Huw Jones:

"Dwi'n meddwl y byddwn i'n cytuno na fyddai yna S4C heb gyfraniad Gwynfor. Rhoddodd ffocws cwbl unigryw drwy ei safbwynt ddramatig, ffocws oedd yn denu sylw'r byd i gyd a gorfodi pawb arall i ystyried dilysrwydd y penderfyniad yr oedden nhw wedi ei wneud. Roedd ei gyfraniad yn gwbl allweddol.

"Mae Gwynfor Evans yn mynd i gael ei ystyried yn un o ffigyrau mawr yr 20fed ganrif yng Nghymru.

"O ran ei safiad yng nghyd-destun S4C, roedd yr hyn yr oedd yn bygwth ei wneud yn cael ei gymryd o ddifri oherwydd ei onestrwydd a'i ddidwylledd oedd wedi cael ei fynegi yn ystod ei yrfa fel gwleidydd. Roedd pawb yn ei adnabod a'i barchu.

"Dwi'n meddwl y bydd pawb yn S4C a'r diwydiant yn teimlo yn wylaidd oherwydd y cyfle i ddarparu gwasanaeth sydd wedi deillio o'r hyn a wnaeth Gwynfor.

"Ond mae ei ddylanwad yn mynd ymhellach gyda'r sianel ac yn enghraifft y mae gwledydd eraill wedi ei mabwysiadu yn eu tro. Mae Cymru wedi arwain yn hyn o beth."

Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg:

"Yn sicr roedd ei gyfraniad o ran ymgyrch i sefydlu'r sianel yn aruthrol o bwysig, ymgyrch ochr yn ochr ag un Cymdeithas yr Iaith.

"Mae cael sianel deledu yn rhoi cyfrwng modern i iaith ac wedi creu nifer o siaradwyr ac yn dal i gynnal y siaradwyr hynny boed yn bobl ifanc, yn rhiant neu yn henoed erbyn heddiw."

Dr Richard Wyn Jones, Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Cymru Aberystwyth:

"Mae o wedi bod yn gyfangwbl ganolog i hanes cenedlaetholdeb yr 20fed ganrif. Roedd o'n flaenllaw yng nghynadleddau'r blaid rhwng 1937 a 1997. Does 'na ddim llawer o ffigyrau gwleidyddol wedi cael effaith dros gymaint o amser.

Richard Wyn Jones
Richard Wyn Jones: Bu Gwynfor Evans yn weithgar am 60 mlynedd
"Fe wnaeth o ddominyddu ei blaid bron iawn yn gyfangwbl am gyfnod pur faith. Roedd o'n ysgwyddo'r baich bron iawn yn gyfangwbl ei hun. Fo oedd yr wyneb cyhoeddus a fo oedd y blaid i raddau helaeth iawn. Rhoddodd hygrededd i'r blaid ac roedd ei ymroddiad i'w ryfeddu.

"Dyma hanesyn byr sy'n dweud llawer am faint y dyn. Fe es i'w holi ryw dair blynedd yn l ac roedd ei iechyd wedi torri. Wrth i mi gael y sgwrs fe ddaru'r ffn ganu ac wedyn mi wnes i fusnesu ac roedd o'n sn am docynnau raffl. Fe ges i wybod mai fo oedd ysgrifennydd cangen y pentre lleol o Blaid Cymru.

"Mae hyn yn dweud llawer - yn arwr i filoedd yng Nghymru, yn uchel ei barch, llywydd y blaid, ffigwr amlwg iawn, ac ar ddiwedd ei oes yn gwneud y gwaith mwya di-ddiolch, ysgrifennydd cangen leol.

"Faint o wleidyddion amlwg eraill a fyddai'n fodlon gwneud hyn? Roedd ei ymroddiad i'w gredoau yn gyfangwbl anhygoel ac yn beth prin iawn."

Emyr Price, hanesydd:

"Yr hyn oedd yn ei yrru oedd dau beth, ei heddychiaeth a'i gariad. Dywedodd o wrtha i ei fod o wedi syrthio mewn cariad efo Cymru yn y 1930au.

"Roedd elfennau yn ei gymeriad oedd yn amlwg iawn - y dycnwch, dyfalbarhad a'r ystyfnigrwydd weithiau.

"Ac roedd ganddo stamina gwleidyddol anhygoel. Cafodd nifer fawr iawn o broblemau yn ystod ei arweinyddiaeth, siomedigaethau lu ond daliodd ati.

"Efallai bod ei gasineb at y Blaid Lafur wedi ei atal ar rai adegau rhag estyn allan at y bobl oedd yn pleidleisio at Lafur.

Emyr Price
Emyr Price "Llwyddodd Gwynfor i newid meddwl Margaret Thatcher"
"Roedd ei gyfraniad i sip Plaid Cymru yn ddi-os. Yn y 1920au a 1930au doedd y blaid yn ddim byd o dan Saunders Lewis ac roedd yn blaid adain-dde Gatholig.

"Gwynfor arweiniodd ei blaid i gyfeiriad democrataidd modern a'i gwneud hi'n gredadwy fel mudiad gwthio.

"I Gwynfor, roedd 1979 yn un o siomedigaethau mwya ei fywyd ac roedd yn teimlo i'r byw nad oedd rhan o'r Blaid Lafur wedi cadw addewid i Gymru dros ddatganoli.

"Roedd yn ddyn o syniadau heddychol, ar y chwith, efallai hyd yn oed yn fwy o heddychwr nac yn genedlaetholwr.

"Fe wnaeth waith hynod iawn yn y 1930au, 1940au a'r 1950au dros heddychiaeth, rhywbeth amhoblogaidd iawn yn ystod y rhyfel.

"Roedd pobl yn ei gysylltu Phlaid Cymru ond daliodd i gredu yn ei heddychiaeth. Bu yn Fietnam yn y 1960au ac yn flaenllaw iawn efo CND yn y 1970au a'r 1980au. Roedd ei heddychiaeth yn ei nodweddu ac yn un o'r elfennau oedd yn ei wneud y dyn yr oedd o.

"Roedd Gwynfor yn allweddol i sefydlu S4C. Pleidiau gwleidyddol eraill oedd yn gefnogol i'r sianel ac fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gyfraniad cwbl amhrisiadwy.

"Fe ddywedodd Mrs Thatcher: "The lady is not for turning" ond fe lwyddodd Gwynfor Evans i sicrhau fod Mrs Thatcher a'i llywodraeth hyd yn oed yn newid eu barn.

"Roedd y penderfyniad i lwgu yn eithriadol o anodd i Gristion fel Gwynfor. Does dim dwywaith - yn y diwedd fyddai S4C ddim wedi cael ei sefydlu oni bai am safbwynt di-ildio Gwynfor Evans.

"Roedd ganddo olwg arbennig ar hanes Cymru a chyhoeddodd nifer fawr o lyfrau ar hanes Cymru a rhoi gerbron y cyhoedd lyfrau cofiadwy, yn arbennig Aros Mae."

Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae Cymdeithas yr Iaith yn diolch am fywyd Gwynfor Evans - am ei arweiniad a'i gefnogaeth bob amser i Gymdeithas yr Iaith a'r frwydr dros y Gymraeg. Rhoi diolch yw'r unig air a gweithred sy'n gweddu ar hyn o bryd."

Archesgob Cymru y Gwir Barchedig Barry Morgan

"Cyfrannodd Gwynfor Evans yn sylweddol iawn at lunio bywyd gwleidyddol, crefyddol a sifil Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif.

"Y sylfaen i'w fywyd cyfan oedd ei ymrwymiad, nid yn unig i heddychiaeth ond hefyd, yn anad dim arall, i Efengyl Crist.

"Bu'n byw yr egwyddorion hynny yn ei fywyd bob dydd ac yn arbennig felly yn ei ymwneud 'i gyd ddynion.

"Bu ei gyfraniad i fywyd sifil Cymru yn aruthrol. Bu'n allweddol yn sefydlu S4C a brwydrodd yn hir am Senedd i Gymru nid dim ond Cynulliad.

"Fel yr awgryma teitl un o'i lyfrau, ni roddodd Gwynfor y gorau erioed i "Frwydro dros Gymru", ond roedd wastad yn ŵr bonheddig wrth frwydro ac yn gyson gwrtais, yn ogystal bod yn benderfynol - nodweddion sydd weithiau'n llai nag amlwg yn nhirwedd gwleidyddol y presennol."

Hefin Jones, Llywydd Undeb Annibynwyr Cymru:

"Fe wnaeth o'n harwain ni fel Annibynwyr i sylweddoli fod Cristnogaeth a chenedlaetholdeb yn cerdded gyda'i gilydd.

"Dywedodd dro ar l tro bod yr iaith Gymraeg a'r genedl Gymreig wedi datblygu ar yr un pryd ag yr oedd Cristnogaeth yn ennill tir yng ngwledydd Prydain.

"Braint o law Duw yw caru cenedl."





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^