Mae'r pleidiau sy'n ymgyrchu yng Nghymru yn rheolaidd yn cyfeirio at 'deuluoedd sy'n gweithio'n galed' mewn maniffestos ac areithiau ac maen nhw i gyd yn addo eu helpu.
Ond beth yw barn teulu o'r fath am y cyfnod o dan Lafur ac am addewidion y pleidiau ynglŷn â threthi, tai a chyllid teuluoedd yn y dyfodol?
Mae Ryan Bamsey, 29 oed, yn ennill cyflog sydd tua'r un fath â'r cyfartaledd cyflog yng Nghymru, £22,000 y flwyddyn.
Swyddog technegol yw ei waith ac mae'n gweithio i gwmni cynnyrch cemegol yn Ystalyfera ac yn byw yng Nghastell-nedd gyda'i ddyweddi, Leanne Evans, a'u mab dwyflwydd oed, Daniel.
Fe roddodd Ms Evans, sy'n 28 oed, y gorau i'w gwaith mewn ffatri i edrych ar ôl Daniel yn eu tŷ sengl maestrefol.
Maen nhw'n disgrifio'u hunain fel pobl anwleidyddol. Ond dywed y ddau eu bod fel arfer yn dewis Llafur, sydd yn hanesyddol â mwyafrif mawr yn etholaeth Castell-nedd.
Ond a yw Mr Bamsey yn credu ei fod mewn gwell sefyllfa wedi wyth mlynedd o lywodraeth Lafur?
"Dwi'n credu fy mod i ond mae hynny i wneud â'r ffaith fy mod wedi symud ymlaen gyda fy nghyrfa," meddai.
"Dwi yn teimlo mod i'n talu gormod o dreth. Dwi'n gwybod fod rhaid i ni roi rywbeth am well gwasanaethau cyhoeddus, ond mae'r holl drethi gwahanol yn fy nharo i."
Treth y cyngor
Mae'r ddau yn feirniadol o'r cynnydd yn eu treth cyngor lleol, sydd nawr yn £105 y mis.
"Fe ddylen ni un ai gael gwell gwasanaethau am hynny neu dylai gael ei ostwng," meddai Ms Evans.
Mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud y byddan nhw'n diddymu treth y cyngor ac yn gosod treth incwm yn ei le a ddylai, medden nhw, ostwng biliau, yn arbennig i'r rhai sy'n derbyn y cyflogau isaf.
Mae'r Ceidwadwyr yn cynnig £4bn o doriadau mewn trethi tra bod Llafur yn addo peidio â chodi cyfraddau sylfaenol ac uwch o'r dreth incwm ond dydyn nhw ddim wedi diystyru cynnydd mewn trethi eraill.
Mae Ryan, Leanne and Daniel yn byw yng Nghastell-nedd
|
Fe roddodd Ms Evans y gorau i'w gwaith i edrych ar ôl ei mab a dywed fod edrych ar ei ôl yn waith llawn amser iddi erbyn hyn.
Ond dywedodd y dylai rhieni gael mwy o gymorth i gael cydbwysedd rhwng gwaith a gofal plant.
"Dwi eisiau aros adref i fagu fy mhlant, ond yn y dyfodol mae'n bosib y bydda i hefyd eisiau gweithio rhan amser," meddai.
"Dyw meithrinfeydd ddim yn cynnig gofal hyblyg, ac felly fe fyddai'n gymhleth i mi. Fe fyddwn i'n hoffi mwy o opsiynau.
"Hefyd dwi'n credu y dylai'r llywodraeth roi mwy o anogaeth i famau i fynd yn ôl i weithio.
"Os ydw i'n mynd yn ôl fe fydda i'n colli'r credyd treth o £139 dwi'n ei gael bob mis, felly fyddwn i ddim yn ennill cymaint â hynny."
'Gweithio'n galed'
Mae'r ddau yn credu hefyd fod gormod o bobl yn cael gormod mewn budd-daliadau gan wneud pobl yn ddibynnol ar y wladwriaeth les.
"Mewn rhai ffyrdd fe fydden ni'n cael mwy pe na baen ni'n priodi a phe bai Leanne yn aros fel mam sengl," meddai Mr Bamsey.
Dywed yr holl bleidiau y bydden nhw'n helpu prynwyr tai
|
"Byddai'n cael digon o fudd-daliadau, tŷ cyngor ac yn y blaen.
"Ond rydyn ni'n credu ei bod yn iawn i briodi, bod yn onest a gweithio'n galed, er ei fod yn ein gwylltio i weld eraill nad ydyn nhw'n gweithio ac yn hawlio (arian) gan y wladwriaeth."
Mae Llafur yn addo y bydd yn sicrhau y bydd pobl ar eu hennill o fod yn gweithio drwy sicrhau incwm fyddai o leiaf £258 yr wythnos i'r rhai gyda phlant ac mewn gwaith llawn amser.
Dywed y Democratiaid Rhyddfrydol eu bod eisiau helpu rhieni drwy hybu tâl mamolaeth ac arian ar gyfer darpariaeth yn y blynyddoedd cynnar.
Mae Plaid Cymru yn dweud ei bod eisiau ehangu addysg feithrin yn sylweddol, gan sicrhau ei fod ar gael i bob plentyn tair a phedair oed.
A dywed y Ceidwadwyr y bydd yn cyflwyno rhaglenni effeithiol i annog pobl yn ôl i fyd gwaith a rhoi mwy o gymorth gyda gofal plant.
Mae Mr Bamsey yn talu morgais o tua £400 y mis ar gartref y teulu yng Nghastell-nedd.
Tai fforddiadwy
Mae'n gwerthfawrogi'r ffaith fod cyfraddau llog wedi bod yn eithaf isel yn ystod y blynyddoedd diweddar ond mae'n pryderu fod prisiau tai wedi cynyddu yn ystod cyfnod Llafur mewn grym.
Dywedodd y ddau eu bod wedi eu syfrdanu â phrisiau'r tai yn eu stryd lle mae'r tai nawr yn gwerthu am tua £120,000.
Maen nhw'n poeni y bydd prynwyr am y tro cyntaf yn cael trafferth i gael troed ar yr ysgol eiddo.
"Pe bawn i'n ceisio prynu'r tŷ yma nawr yn hytrach nac ychydig flynyddoedd yn ôl, fydden i ddim yn gallu ei fforddio," meddai Ryan.
Mae'r pleidiau i gyd wedi bod yn trafod y mater ac yn pwysleisio fod economi sefydlog yn bwysig er mwyn cadw cyfraddau llog yn isel.
Mae Llafur yn addo y bydd miliwn yn fwy o berchnogion tai a dywedodd y byddai'n cynyddu ei raglen grant tai cymdeithasol yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf.
Dywed y Democratiaid Rhyddfrydol y byddan nhw'n sicrhau fod mwy o dir ar gael ar gyfer tai fforddiadwy.
A dywed Plaid Cymru y bydd yn sicrhau fod tai fforddiadwy i'w prynu a'u rhentu drwy ddefnyddio grymoedd cynllunio cynghorau lleol.
Mae'r Ceidwadwyr yn dweud y byddan nhw yn annog mwy o bobl i brynu gyda'i gilydd.