BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 25 Tachwedd 2005, 09:38 GMT
Prifwyl 2007: Cychwyn ar godi arian
Pafiliwn yr Eisteddfod
Mae gobaith mai yn Sir y Fflint y bydd Prifwyl 2007

Nid oes cartref swyddogol eto ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2007 ond mi gafodd y digwyddiad cyntaf ei gynnal nos Iau i godi arian at y gost o'i chynnal.

Bydd elw cyngerdd blynyddol Capel Bethesda Yr Wyddgrug yn mynd at gostau'r Brifwyl ble bynnag ei lleoliad.

Yn ôl cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, yn Sir Y Fflint y bydd gŵyl 2007 yn ddelfrydol.

Ond mae'n rhaid aros i gael gwybod faint o arian y bydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn rhai ar gyfer y flwyddyn nesa cyn y bydd yn bosib penderfynu'n derfynol.

Os bydd yr Eisteddfod yn derbyn mwy na'r llynedd - £400,000 - mae cynghorau sir Cymru wedi cytuno mewn egwyddor i gyfrannu £320,000 yn flynyddol i'r ŵyl.

Cefnogaeth

Y perfformwyr yng Nghapel Bethesda Yr Wyddgrug nos Iau oedd Côr Meibion Caernarfon, y soprano Nia Tudur a'r delynores Meinir Llwyd Jones.

Dywedodd un o'r trefnwyr, Aled Lloyd Davies, bod y cyngerdd yn gyfle i bobl ddangos eu cefnogaeth i'r Eisteddfod Genedlaethol.

"Hyd yma nid ydym yn gwybod eto lle y bydd Eisteddfod 2007 yn cael ei chynnal ond ein cyngerdd ni fydd y digwyddiad cynta' i godi arian tuag ati," meddai.

Mae ansicrwydd wedi bod ynghylch lleoliad Prifwyl 2007 wedi i Gyngor Sir Y Fflint fynegi pryderon na fyddai'n gallu cyfrannu at y gost o'i chynnal yn y sir.

Am gyfnod roedd yna bosibilrwydd mai yn Lerpwl y byddai'n cynnal yr ſyl gan fod cyngor y ddinas wedi estyn gwahoddiad swyddogol.

Amodau

Pan gytunodd cynghorau sir Cymru mewn egwyddor ym mis Medi i roi £320,000 bob blwyddyn at ariannu'r Eisteddfod dywedodd swyddogion bod ei dyfodol yn fwy cadarn ac mai ar dir Cymru y byddai gŵyl 2007.

Ond mae amodau i'r cytundeb hwnnw, a ddilynodd trafodaethau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gan gynnwys sicrhau mwy o nawdd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

£400,000 o grant gafodd yr Eisteddfod y llynedd a deellir fod y bwrdd wedi cwrdd yr wythnos hon i drafod grantiau'r flwyddyn nesaf.

Mae angen sêl bendith gweinidog diwylliant y cynulliad Alun Pugh i grantiau dros swm arbennig.

Dau safle posib

Yn ôl cyfarwyddwr yr Eisteddfod Elfed Roberts mae dau safle dan ystyriaeth yn Sir y Fflint ac mae trafodaethau'n parhau gyda'r perchnogion a'r cyngor sir.

"Mae'r cyfan yn argoeli'n dda, a phopeth yn mynd i'r cyfeiriad cywir," meddai.

"Ond er mwyn ein galluogi ni i gynnal Eisteddfod 2007 yn unrhyw le mae'n rhaid i ni gael grant ac mae'n rhaid i'r grant hwnnw ddangos cynnydd ar lefel grant eleni. Be ydan ni eisiau rwan yw cadarnhad o'r naill gyfeiriad neu'r llall."

Bydd cyfarfod yn Aberystwyth ddydd Sadwrn fydd yn rhoi cyfle ola i hen gyngor yr Eisteddfod gwrdd cyn y bydd cyngor newydd yn cymryd drosodd.

Cyhoeddwyd newid yn y ffordd y mae'r brifwyl yn cael ei rheoli ym mis Hydref fydd yn gweld yr Eisteddfod yn troi'n gwmni elusennol.




HEFYD:
Prifwyl: Cytundeb mewn egwyddor
27 Medi 05 |  Newyddion
Llwyddiant ariannol i Steddfod Eryri
07 Awst 05 |  Newyddion
Prifwyl: 'Angen arian canolog'
04 Awst 05 |  Newyddion
Prifwyl: Ystyried mynd yn fethdalwr
30 Gorff 05 |  Newyddion
Prifwyl: Trafod dyfodol
29 Gorff 05 |  Newyddion
Eisteddfod: 'Dim siec wag'
26 Meh 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^