BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 23 Tachwedd 2005, 16:27 GMT
Carchar: Smyglo 4m o sigaréts
Sigarets
Cafodd y sigaréts eu cuddio tu ôl llwyth o letys
Mae gyrrwr lori a smyglodd fwy na 4m o sigaréts i mewn i Brydain wedi ei garcharu am ddwy flynedd.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon y daethpwyd o hyd i'r sigaréts tu ôl llwyth o letys mewn lori yr oedd Donal McCormack, 35 oed, yn ei gyrru.

Ychydig o wythnosau wedyn daeth swyddogion tollau Caergybi o hyd i gês oedd yn cynnwys 200,000 ewro a £33,000 yn ei gab.

Plediodd McCormack, o Killyclogher, Gogledd Iwerddon, yn euog i gynllwynio i osgoi talu toll dybaco fyddai wedi costio £735,000.

Clywodd y llys iddo gael ei arestio yn Portsmouth ym Mai pan daethpwyd o hyd i 4,062,500 o sigaréts mewn lori yr oedd yn ei gyrru o Sbaen i Ddulyn.

Bu hwn yn dwyll proffesiynol a llawer o bobl eraill yn rhan ohono
Y Barnwr Merfyn Hughes QC

Ar y pryd gwadodd y gyrrwr, tad i dri o blant, ei fod yn gwybod am y drosedd a dweud nad oedd neb yn cadw golwg ar y lori pan oedd ar un adeg wedi mynd i ymolch a siafio.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.

Ond ar Orffennaf 13 stopiodd swyddogion tollau ei lori yng Nghaergybi a dod o hyd i'r cês oedd yn llawn arian.

Roedd wedi honni ei fod yn credu fod y cês yn cynnwys offer argyfwng.

Clywodd y llys fod McCormack, oedd wedi bod yn y ddalfa ers iddo gael ei arestio'r ail dro, wedi colli ei gartre am na allai dalu'r morgais.

£7,000

Honnwyd y byddai wedi derbyn £7,000 am yr hyn wnaeth adeg y drosedd gynta sef smyglo'r sigarets.

Dywedodd y Barnwr Merfyn Hughes QC ei fod yn derbyn mai McCormack fu'n gyrru ac yn smyglo ac nad oedd wedi'r trefnu'r cyfan.

"Eto," meddai "bu hwn yn dwyll proffesiynol a llawer o bobl eraill yn rhan ohono.

"Roedd yn golygu cuddio swm enfawr o dybaco a chysylltiadau dirgel â mudiad dramor."





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^