BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 19 Ebrill, 2005, 16:14 GMT 17:14 UK
Protest: Rhyddhad amodol
Pencadlys Radio Sir Gâr
Roedd y rheolwr-gyfarwyddwr wedi dweud fod y protestwyr yn 'derfysgwyr'

Cafwyd pum aelod o Gymdeithas yr Iaith yn euog o achosi difrod troseddol wedi protest yng ngorsaf Radio Sir Gaerfyrddin.

Cafodd y pump ddedfryd o ryddhad amodol am 12 mis a bu rhaid iddyn nhw dalu £50 o gostau a £150 o iawndal yr un.

Y pump oedd cadeirydd y mudiad, Steffan Cravos o Gaerdydd, Gwenno Teifi o Lanfihangel-ar-Arth, Angharad Blythe o Gaerdydd, Llinos Dafydd o Sir Gaerfyrddin a Heledd Gwyndaf, is-gadeirydd y mudiad.

Clywodd Llys Ynadon Hwlffordd dystiolaeth ysgrifenedig rheolwr-gyfarwyddwr yr orsaf Keri Jones, gan gynnwys sylw fod y protestwyr yn "derfysgwyr".

Ond dywedodd y pum diffynnydd mai protest ddi-drais oedd hon am fod yr orsaf "yn gwadu bodolaeth y Gymraeg fel iaith fyw".

Clywodd y llys i 15 o brotestwyr fynd i mewn i'r orsaf yn Arberth naw mis yn ôl a thorri ar draws y darlledu.

'Sarhau'

Cafodd nifer fawr o bosteri "Lle mae'r Gymraeg?" eu gludo ar waliau, drysau, ffenestri a chyfrifiaduron wrth i'r protestwyr weiddi sloganau.

Honnodd un o gyflwynwyr yr orsaf oedd yn darlledu ar y pryd iddo gael ei sarhau gan nad oedd yn medru siarad Cymraeg.

Dywedodd Mr Cravos, cadeirydd y mudiad, wrth y llys iddyn nhw weithredu am mai "dim ond 3% o ddarlledu'r orsaf oedd drwy gyfrwng y Gymraeg".

Clywodd y llys fod difrod o £1,700 wedi ei wneud i offer a charpedi yn y stiwdio.




HEFYD:
Protest arall yn erbyn gorsaf radio
23 Hyd 04 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^