BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 22 Tachwedd 2005, 07:44 GMT
115 o swyddi dan fygythiad
Caws
Ffatri bacio caws yw ffatri Dairygold yn Felinfach

Mae ffatri bacio caws a agorodd bum mlynedd yn l mewn perygl o gau.

Yn ffatri Dairygold yn Felinfach, Ceredigion, mae 115 o swyddi dan fygythiad a chafodd y gweithwyr wybod ddydd Llun fod diffyg cwsmeriaid.

Dywedodd gweithwyr, ffermwyr, cynghorwyr a gwleidyddion fod y newyddion wedi eu syfrdanu.

Mae'r cwmni o Iwerddon Dairygold Consumer Foods sy'n berchen ar y safle wedi dweud fod cyfnod statudol o 90 diwrnod o ymgynghori wedi cychwyn.

Nid yw'r cyhoeddiad yn effeithio ar waith prosesu caws y cwmni yn Felinfach.

Rydyn ni'n gwybod am yr all-lifiad o bobl ifanc o gefn gwlad ac mae hon yn ergyd arall i ardal sy'n gwegian yn barod
Owen Llywelyn, cynghorydd sir lleol

Dywedodd rheolwyr Dairygold wrth y gweithwyr ddydd Llun na allen nhw ddilyn y drefn bresennol.

"Os na allwn ni ddod o hyd i ateb i atal y gostyngiad a chynnal y gwaith yn ymarferol, bydd rhaid i'r rheolwyr ystyried dod 'r gwaith i ben yn Felinfach," meddai'r rheolwr John Thomas.

"Mae gorgynhyrchu sylweddol ar draws Prydain yn y sector pecynnu caws a gostyngiad yn y mwyafrif o safleoedd."

Awdurdod Datblygu Cymru gododd y ffatri 3m ar gyfer Cwmni Caws Dyffryn Aeron a hynny gyda mwy na 1m o arian cyhoeddus.

Roedd y ffatri yn defnyddio technegau cynhyrchu soffistigedig a denu archebion gan archfarchnadoedd.

'Adolygiad'

"Fe lwyddon ni i atal y gostyngiad yn y gwaith y llynedd gyda gwaith pecynnau preifat a threfniadau gyda'n label ein hunain," meddai Mr Thomas.

"Er gwaetha'r ymdrechion parhaus i ddatblygu'r busnes, mae'r safle yn dal i weithredu islaw'r hyn sy'n dderbyniol.

"All Dairygold ddim parhau i ddilyn y drefn presennol ac felly rydyn ni'n rhan o adolygiad strategol i benderfynu dyfodol y ffatri."

Dywedodd Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, fod "hyn yn newyddion drwg i Geredigion."

"Mae traddodiad hir o gynhyrchu caws yn Nyffryn Aeron a bydd hyn yn taro'r ardal yn galed iawn."

Cyfarfod brys

Galwodd ar weinidog materion gwledig Llywodraeth y Cynulliad Carwyn Jones i gynnal cyfarfod brys pherchnogion y ffatri er mwyn ceisio achub y swyddi.

Dywedodd Mr Jones fod y newyddion "yn sioc".

Er gwaetha'r ymdrechion parhaus i ddatblygu'r busnes mae'r safle yn parhau i weithredu islaw'r hyn sy'n dderbyniol
John Thomas, rheolwr y safle

"Y tro cyntaf y clywon ni am hyn oedd neithiwr (nos Lun). Felly bydd gwaith yn cael ei wneud nawr i gysylltu 'r cwmni a defnyddio'r tri mis sydd gennym ni i sicrhau dyfodol i'r gweithwyr yn Felinfach," meddai.

" ... bydd rhaid i ni ddefnyddio'r cyfnod i weld beth yn union yw'r broblem yn y ffatri a gweld a oes unrhyw fath o gymorth y gallwn ni fel llywodraeth ei roi."

Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Owen Llywelyn, y byddai colli'r swydd "yn ergyd enfawr i'r ardal".

"Doeddwn i ddim wedi clywed sibrydion fod Dairygold dan fygythiad ac rydyn ni'n sn yma am 115 o swyddi ac o bosib 20 swydd weinyddol yn gysylltiedig 'r swyddi hyn."

Roedd rhai yn eu dagrau, meddai, yn mynd adre o'r gwaith ddydd Llun.

"Rydyn ni'n sn yma am bobl ifanc gyda theuluoedd ifanc a phobl ifanc sengl.

"Ac rydyn ni'n gwybod am yr all-lifiad o bobl ifanc o gefn gwlad ac mae hon yn ergyd arall i ardal sy'n gwegian yn barod."

'Ergyd i'r iaith'

Dywedodd y byddai cau'r ffatri yn ergyd arall i ddiwylliant yr ardal.

"Iaith gynta'r rhan fwyaf o'r gweithlu yw'r Gymraeg. Felly rydych chi'n sn yma am ergyd i'r Gymraeg yn ogystal ag ergyd economaidd i'r ardal.

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Dai Lloyd Evans, y gallai cau'r ffatri bacio effeithio'n fawr ar y ffatri gynhyrchu.

"Allwn ni ond gobeithio na fydd yr hyn sy'n digwydd i'r cwmni effeithio ar gwmni arall sydd wedi bod yn cynhyrchu'r caws a'r menyn i'r cwmni yma ei bacio.

"Dwi'n credu ei fod efallai yn adlewyrchu beth sydd wedi bod yn digwydd yn y diwydiant amaeth yng ngorllewin Cymru.

"Mae nifer fawr yn gadael y diwydiant llaeth ac, wrth gwrs, mai llai o gynnyrch wedyn i'r bobl brosesu llaeth a'r cwmni yma i bacio."

Gallai hon fod yn ergyd fawr i gefn gwlad. Beth ydych chi'n credu y gellir ei wneud i atal pobl ifanc rhag gadael yr ardaloedd gwledig? Cysylltwch ni drwy lenwi'r ffurflen.

Enw
Eich cyfeiriad e bost
Tref a Sir
Eich sylwadau

Ymwadiad: Gall y BBC olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi.
Efallai y bydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi gan y BBC drwy'r byd.





CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^