Roedd addysg yn faes brwydr ymhell cyn i'r Blaid Lafur ddod i rym yn 1997.
Mae'r pwnc wedi bod yn flaenoriaeth i bob plaid yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf ac yng Nghymru mae llawer wedi newid, yn bennaf pwy sy'n gyfrifol am ysgolion Cymru.
Ers datganoli Llywodraeth y Cynulliad sy'n gyfrifol am addysg a dysgu gydol oes gan benderfynu ar ffurf addysg yng Nghymru a sut mae'r arian yn cael ei wario.
Mae hyn yn golygu fod y prif bleidiau gwleidyddol yn ymgyrchu ar bolisïau addysgol sy'n benodol ar gyfer Cymru yn yr etholiad cyffredinol.
Mae dyfodol ysgolion bach, er enghraifft, yn debyg o fod yn uchel ar yr agenda mewn etholaethau gwledig.
 |
ABSENOLDEB MEWN YSGOLION UWCHRADD YNG NGHYMRU
Yn 2003/04 fe gollwyd 9.4% o'r sesiynau (hanner diwrnod) drwy absenoldeb oedd wedi a heb ei awdurdodi (9.5% yn 2002/03)
Yn 2003/04 fe gollwyd 1.7% o sesiynau (hanner diwrnod) drwy absenoldeb nad oedd wedi ei awdurdodi, cynnydd bychan ers 2002.03
Collwyd 29.9 o sesiynau hanner diwrnod i bob disgybl drwy absenoldeb wedi a heb ei awdurdodi - bron i 15 diwrnod i bob plentyn
Roedd gan ferched gyfradd uwch o absenoldeb ar y cyfan, ond roedd gan fechgyn gyfradd uwch o absenoldeb heb ei awdurdodi
Ffynhonnell: Y Cynulliad Cenedlaethol
|
Dangosodd ymchwil ar ran BBC Cymru fod dros 400 o ysgolion cynradd yn gweithredu gyda lleoedd gwag sylweddol, fel sy'n cael ei ddiffinio gan ganllawiau Llywodraeth y Cynulliad.
Yn ddiweddar mae nifer o awdurdodau lleol wedi datgelu cynlluniau i gau ysgolion gan ddatgan mai lleoedd gwag yw'r prif reswm y tu ôl i hynny.
Tra bod gwleidyddion o bleidiau gwahanol wedi lleisio pryder am y newid fe fydd polisïau pleidiau yn awr yn dod o dan oruchwyliaeth mwy manwl.
Mae rhieni sydd wedi bod yn protestio yn erbyn cau ysgolion yn debygol o ddangos eu teimladau wrth bleidleisio.
Prydau bwyd
Hefyd, o ganlyniad i ymgyrch y cogydd Jamie Oliver, mae prydau ysgol yn debyg o fod yn bwnc llosg ymhlith rhieni.
Yng Nghymru mae 48c ar gyfartaledd yn cael ei wario ar gynhwysion ar gyfer pryd bwyd mewn ysgol gynradd.
Mae prydau ysgol yn debyg o fod yn bwnc llosg
|
Does dim cynlluniau ar hyn o bryd i osod targed lle mai 50c fyddai'r lleiafswm, fel y mae'r Blaid Lafur yn ei addo yn Lloegr.
Mae'n debyg ei bod yn rhy gynnar i farnu a yw etholwyr yn croesawu'r cynllun i gyflwyno brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yng Nghymru.
Mae rhai beirniaid yn honni mai gimig drud yw hwn, mae eraill yn credu ei fod yn gymorth i rieni prysur.
Un o'r dadleuon sy'n cael ei gyflwyno dros wella bwyd ysgol yw ei fod yn arwain at wella ymddygiad plant a'u gallu i ganolbwyntio.
Pwnc arall sy'n bwysig i rieni ac athrawon yw disgyblaeth.
Mae nifer o brifathrawon yng Nghymru wedi gwahardd y defnydd o ffonau symudol yn eu hysgolion gan ei fod yn amharu ar ddosbarthiadau ac mae ymddygiad ar fysiau ysgol hefyd yn destun pryder i rieni.
 |
GWAHARDD DISGYBLION MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU
Yn 2003/04 cafodd 420 eu gwahardd yn barhaol (439 y 2002/03)
Bechgyn oedd wyth o bob 10 a gafodd eu gwahardd yn barhaol yn 2003/04)
Ffynhonnell: Y Cynulliad Cenedlaethol
|
Mae Arwel George, pennaeth Ysgol Penweddig yn Aberystwyth, yn credu fod disgyblaeth yn fater pwysig - er ei fod yn amheus o unrhyw addewidion gwleidyddol.
"Mae'n fater sy'n bwysig i ni fel ysgolion ac i'r gymuned yn gyffredinol," meddai Mr George.
"Ond yn y cyfnod arbennig yma, mae dyn yn cymryd popeth sy'n cael i ddweud gyda pinshed bach o halen."
"Mae rhaid pwysleisio bod y mwyafrif llethol o bobl ifanc yn bobl call, aeddfed, ac rydyn ni'n gallu rhesymu â nhw. Ond ymhob ysgol mae 'na leiafrif sy'n creu trafferthion - nid yn unig i ni fel athrawon, ond i'r disgyblion eraill."
Yn ôl prifathrawon mae'r cyfanswm o arian mae ysgolion yn ei dderbyn wrth wraidd nifer o'r materion hyn.
Cyllid
Mae Cymdeithas y Prifathrawon (SHA) yn honni fod ysgolion yng Nghymru yn colli tua £200 ar gyfartaledd i bob disgybl o'i gymharu ag ysgolion uwchradd yn Lloegr.
Mae cyllid yn debygol o fod yn bwnc llosg mewn etholaethau sy'n agos i'r ffin gyda'r etholwyr mewn sefyllfa dda i gymharu ysgolion yng Nghymru a Lloegr.
 |
SUT MAE DISGYBLION YN TEITHIO I YSGOLION YNG NGHYMRU
Yn 1998/2000 (y ffigyrau mwya diweddar) roedd 39% o blaid 5-16 oed yn cerdded i'r ysgol (48% yn 1989/91)
29% o blant yn teithio mewn car yn 1998/2000 (22% yn 1989/91)
Hyd y daith i'r ysgol ar gyfartaledd yn 1998/2000 oedd 2.3 milltir
Ffynhonnell: Adran Drafnidiaeth San Steffan
|
Yn olaf mae arian wastad wedi bod yn bwnc pwysig i fyfyrwyr ac eleni mae cyllid prifysgolion yn ganolog i'r ymgyrch etholiadol yng Nghymru.
Roedd disgwyl i'r Comisiwn Rees, a sefydlwyd i benderfynu a ddylai Cymru gyflwyno ffioedd dysgu uwch wedi 2007, gyflwyno ei adroddiad terfynol wythnos cyn yr etholiad.
Ond nawr does dim disgwyl iddo wneud hynny hyd ddechrau Mehefin, gyda Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud ei benderfyniad ar ffioedd yn ddiweddarach y mis hwnnw.
Fe allai myfyrwyr presennol, os allan nhw gael amser rhydd wrth adolygu tuag at eu harholiadau, wneud gwahaniaeth mewn seddi ymylol fel Canol Caerdydd lle mae nifer uchel o etholwyr sydd ar hyn o bryd yn derbyn addysg uwch.
Er na fyddan nhw eu hunain yn cael eu heffeithio gan unrhyw newid o ran ffioedd mae nifer wedi dweud y byddan nhw'n ystyried eu brodyr a'u chwiorydd wrth bleidleisio.