BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 25 Tachwedd 2005, 22:36 GMT
Ympryd yn codi £630 i Affrica
Siriol Teifi
Dim ond dŵr yr oedd Siriol Teifi yn ei gael am wythnos

Roedd cwrdd gweddi brynhawn Gwener ar ddiwedd ympryd 5-diwrnod Cymraes 16-oed sy wedi tynnu sylw at ddioddefaint pobl ifanc yn Affrica.

Hyd yma mae Siriol Teifi, disgybl yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi, Llandysul, wedi codi £630 ar gyfer Apêl Cymorth Cristnogol wrth dynnu sylw at newyn pobl ifanc Niger.

Ers bore Llun dim ond dŵr y mae Siriol wedi ei gymryd ac mae'n bwyta ei phryd cynta yr wythnos hon yn ei chartre yn Llanfihangel-ar-Arth.

"Dw i'n teimlo bach yn wan ar y funud a jyst yn edrych ymlaen at gael bwyd," meddai Siriol wrth BBC Cymru cyn y cyfarfod brynhawn Gwener.

"Ro'n i'n disgwyl y byddai'r holl beth wedi bod yn waeth ac y byddwn i'n ffaelu symud a gwneud fawr ddim byd ond ro'n i'n gallu gwneud mwy nag o'n i'n disgwyl.

"Dw i wedi cael cefnogaeth pawb - athrawon, ffrindiau ysgol a'r teulu ac mae'r gefnogaeth wedi bod yn help mawr."

Dywedodd y byddai'n bwyta pryd ysgafn fel cawl tomato ar ddiwedd yr ympryd a'i bod yn ystyried ymprydio eto yn y dyfodol "ond nid am sbel fach".

'Uniaethu'

Roedd hi wedi dweud mai'r lluniau ar y newyddion a'i hysgogodd i ymprydio, "edrych i lygaid y plant bach ac roeddwn i'n teimlo fod angen i mi wneud rhywbeth drostyn nhw a chodi arian i geisio eu helpu."

Roedd angen gwneud rhywbeth ar gyfer y miliynau oedd yn newynu yn Niger, meddai.

"Dwi'n edrych ar eu llygaid ac eisie llefen ond mae'n anodd gan fy mod yn gwybod fy mod i'n lwcus yn cael dŵr glân i yfed a'r wythnos nesaf yn cael bwyd, dim fel plant Niger," meddai ar y pryd.

Plentyn newynog yn Niger
Mae miloedd yn wynebu newyn yn ddyddiol yn Niger

"Mae'r ympryd yn ffordd fach o uniaethu â phobl ifanc yr un oed â mi sy'n dioddef yn Niger."

Bu'n paratoi drwy fwyta llai o fwyd a siarad â phobl oedd wedi ymprydio yn y gorffennol.

Mae 2.4m o bobl yn Niger yn diodde o newyn.

Bu ei thad, yr ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis, yn ymprydio sawl tro yn y gorffennol.

'Eironig'

Roedd gwraig o Niger wedi ymweld â'r teulu dair blynedd yn ôl ac mae Mr Ffransis wedi bod i'r wlad yn helpu pobl yno i ddarparu crefftau.

Ac roedd yn eironig, meddai Mr Ffransis, fod eira'n newid cynlluniau cwrdd gweddi ddydd Gwener - "yn wahanol iawn i'r gwres sych gormesol yn Niger".

Roedd ffrindiau ysgol i fod mewn cwrdd gweddi yn festri Capel Seion Llandysul i ddiolch fod Siriol yn iach ar ddiwedd yr ympryd ac i weddïo dros bobl Niger.

Ond gan nad oedd yr ysgol ar agor ddydd Gwener cafodd y cwrdd ei symud i gartre Siriol yn Llanfihangel-ar-Arth.

Roedd pentrefwyr a'r teulu yn y cwrdd ynghŷd â Tom Defis, trefnydd Cymorth Cristnogol yn Sir Gaerfyrddin.

Ac mae modd cyfrannu at apêl Cymorth Cristnogol ar gyfer Niger drwy gysylltu â gwefan Ympryd Siriol.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^