BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 26 Tachwedd 2005, 14:06 GMT
Gwersyll yr Urdd yn flwydd oed
Canolfan y Mileniwm
Mae gwersyll yr Urdd yn rhan o Ganolfan Mileniwm Cymru

Mae 'na flwyddyn union wedi mynd ers i wersyll newydd Urdd Gobaith Cymru agor ym Mae Caerdydd.

Cafodd y gwersyll ei agor yn ystod penwythnos o ddigwyddiadau i nodi agoriad Canolfan Mileniwm Cymru ym mis Tachwedd 2004.

Mae'r gwersyll, agorwyd ar Dachwedd 26 2004, yn rhan o'r ganolfan.

Yn ystod y flwyddyn mae dros 6,000 o blant a phobl ifanc Cymru wedi cael cyfle i aros yn y gwersyll.

Mae 'na filoedd yn rhagor wedi bod i'r ganolfan ar ymweliadau diwrnod.

Wrth fynd i aros i Fae Caerdydd mae aelodau'r Urdd yn cael cyfle i weld Canolfan y Mileniwm a chael blas ar atyniadau eraill prifddinas Cymru fel Stadiwm y Mileniwm, y Cynulliad Cenedlaethol ac Amgueddfa Werin Cymru.

Pwrpas y gwersyll yn l yr Urdd ydi cynnig cyfleoedd celfyddydol newydd i ieuenctid Cymru a chyfleoedd iddynt ymweld phrifddinas Cymru.

Lolfa Gwersyll yr Urdd ym Mae Caerdydd
Lolfa Gwersyll yr Urdd ym Mae Caerdydd

Fel rhan o ddatblygiad y gwersyll, mae grŵp perfformio wedi ei sefydlu sef Ffwrnais Awen gyda dros 100 o aelodau cynradd ac uwchradd.

Mae'r grŵp yn cyfarfod yn y gwersyll bob nos Fawrth neu fore dydd Sadwrn, maen nhw'n derbyn hyfforddiant mewn drama, dawns a cherddoriaeth.

Yn rhan o'r gwersyll mae 'na 150 o welyau, neuadd, theatr lolfa ac ystafelloedd dosbarth.

"Wedi blwyddyn gyffrous rydyn ni'n ymfalcho bod y gwersyll yn mynd o nerth i nerth gyda nifer cynyddol o blant a phobl ifanc yn mwynhau cyfnodau preswyl, profiadau celfyddydol a'r cyfle i berfformio yn y ganolfan unigryw hon," meddai Alun Owens, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Caerdydd.




HEFYD:
Carreg filltir i'r Urdd
11 Hyd 04 |  Newyddion
Pennaeth i wersyll newydd yr Urdd
27 Ion 04 |  Newyddion
Gwedd newydd i'r Urdd yn y bae
30 Mai 05 |  Newyddion
1,000 yn aros yng ngwersyll Caerdydd
05 Chwef 05 |  Newyddion
Goriad Canolfan yn nwylo'r Urdd
04 Meh 04 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^