Ar drothwy'r etholiad mae troseddu a thor-cyfraith yn uchel ar agenda pleidleiswyr a phleidiau gwleidyddol.
Yn wahanol i iechyd ac addysg, sydd yng ngofal Llywodraeth y Cynulliad, mae polisïau'n ymwneud â throseddu a heddlu yn cael eu rheoli gan Lywodraeth San Steffan.
Ond mae'r pedair prif blaid yng Nghymru wedi cyhoeddi eu polisïau ar gyfraith a threfn.
Felly mae'r dadleuon am droseddu yn fater o bwys yng Nghymru cyn yr etholiad ar Fai 5.
Yn ôl yr ystadegau diweddara' mae tor-cyfraith yng Nghymru yn is nac yn Lloegr, ond mae troseddau'n ymwneud â chyffuriau yn uwch yng Nghymru.
 |
TROSEDDAU YNG NGHYMRU
Holl droseddau - 71,699
Troseddau fesul 1,000 o'r boblogaeth - 24.5
Troseddau fesul 1,000 o boblogaeth Cymru/Lloegr - 27.8
Ffynhonnell: Y Swyddfa Gartref, Ionawr - Mawrth 2004
|
Mae ystadegau diweddara' y Swyddfa Gartref, a gafodd eu cyhoeddi yng Ngorffennaf 2004 a sy'n cyfuno troseddau wedi eu cofnodi gan yr heddlu a phrofiadau o dor-cyfraith wedi eu casglu gan Arolwg Trosedd Prydain, yn honni eu bod yn adlewyrchu lefelau cywir tor- cyfraith.
Tra bod lladrata a dwyn ceir yn llai o broblem yng Nghymru, mae nifer yn credu, fel yng ngweddill Prydain, bod ymddygiad gwrth gymdeithasol ar gynnydd.
Cyflwynodd Llywodraeth San Steffan gynllun i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrth gymdeithasol, sef y gorchmynion gwrth gymdeithasol (Asbos), yn 1999 gan droi'r cynllun yn ddeddf gwlad yn 2003.
Er nad oedd y cynlluniau Asbos yn cael eu defnyddio'n gyson ar y dechrau, maen nhw'n cael eu defnyddio fwyfwy i daclo problemau fel meddwdod, fandaliaeth, graffiti a chymdogion trafferthus.
 |
NIFER YR HEDDLU YNG NGHYMRU
Heddlu De Cymru - 3,316 ym Mawrth 2005 (3,108 ym Mawrth 2001)
Heddlu'r Gogledd - 1,695 yn Ebrill 2005 (1,444 yn Ebrill 2001)
Heddlu Gwent - 1,423 ym Medi 2004 (1,334 ym Medi 2001)
Heddlu Dyfed-Powys - 1,178 ym Mawrth 2005 (1,059 ym Mawrth 2001)
Cyfanswm: 7,612 (6,945 yn 2001)
Ffynhonnell: Heddluoedd Cymru
|
Ond mae'r heddlu yng Nghymru wedi gweithredu llai ar y cynlluniau gwrth gymdeithasol na heddluoedd yn Lloegr.
Yng Nghymru fe gafodd 67 o'r gorchmynion eu cyflwyno yn ystod naw mis cyntaf 2004 o'i gymharu â 279 yn ardal Manceinion yn unig.
Mewn achosion lle mae'r Asbos wedi eu cyflwyno mae'r rhai sydd wedi dioddef ymddygiad gwrth gymdeithasol yn dweud bod y gorchmynion wedi llwyddo.
Ymddygiad 'gwyllt'
Yn 2004, rhoddwyd gorchymyn i griwiau o bobl ifanc yn stâd Bayside yng Nghaerdydd oedd wedi bod yn peri problemau i bobl yr ardal.
Dywedodd June Johnson, sy'n byw ar y stad: "Am 16 mis roedd criwiau o bobl ifanc yn ymddwyn yn wyllt, yn poeni unigolion ac yn ymddwyn yn wrth gymdeithasol.
Mae troseddu ar frig polisïau y pleidiau gwleidyddol
|
"Cafodd goleuadau'r strydoedd eu torri, llosgwyd ceir, cafodd man chwarae'r plant ei fandaleiddio a doedd neb yn gallu mynd allan o'u tai ar ôl wyth y nos.
"Fe ymladdon ni'n erbyn yr ymddygiad gwrth gymdeithasol.
"Mae Asbos wedi bod o fudd i ni - hebddo byddai llawer mwy o ddifrod ar y stad."
Ond nid yw pob asiantaeth sy'n ymwneud â thor-cyfraith yng Nghymru yn credu y dylid targedu tor-cyfraith drwy gyflwyno Asbo.
Yn Abertawe mae'r tîm sy'n delio â throseddwyr ifanc yn ffafrio ymyrraeth yn hytrach na chyflwyno gorchmynion i'r ifanc.
Dywedodd yr Arolygydd Bryan Heard, o adran ddiogelwch cymunedol Heddlu De Cymru: "Yn Abertawe rydyn ni'n edrych ar y problemau sy'n creu ymddygiad gwrth gymdeithasol ac yn ceisio cael gwared ohonyn nhw.
 |
TRAIS YN ERBYN UNIGOLION YNG NGHYMRU
Holl droseddau - 13,028
Troseddau fesul poblogaeth o 1,000 - 4.5
Troseddau fesul 1,000 o boblogaeth Cymru/Lloegr - 4.5
Ffynhonnell: Y Swyddfa Gartref, Ionawr-Mawrth 2004
|
"Efallai mai trais yn y cartref yw'r broblem neu gyffuriau neu efallai triwantiaeth."
Dywedodd Eddie Isles, rheolwr tîm troseddwyr ifanc: "Rydyn ni wedi bod yn ofalus iawn o'r defnydd o Asbos yng Nghymru.
"Er enghraifft yn Leeds gallai 50 o Asbos gael eu cyflwyno mewn un diwrnod yn y llys ieuenctid.
"Fe allai hyn fod yn rhywbeth mae pobl ifanc yn falch ohono."
Yng Nghymru, mae'r Blaid Lafur, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud eu bod am barhau gyda'r defnydd o Asbos, tra bod Plaid Cymru yn dweud eu bod am edrych ar y problemau sy'n achosi ymddygiad gwrth gymdeithasol.