Mae O P Huws yn gobeithio y bydd modd cyrraedd y ffynnon drwy'r fynwent
|
Mae un o ffynhonnau hyna Cymru, sy'n un o safleoedd pagan a gafodd ei gysegru gan Gristnogion cynnar, yn mynd i gael ei hadfer.
Credir bod Ffynnon Rhedyw yn Llanllyfni ger Penygroes yn hynach na eglwys gyfagos Sant Rhedyw sy'n dyddio nôl i 600AD.
Mae Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd yn gobeithio y bydd y prosiect yn gosod y sail i brosiectau tebyg o amgylch Cymru.
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Neuadd Goffa Llanllyfni ar Dachwedd 17 am 1830, er mwyn arddangos y cynlluniau adfer.
"Mae'r safle yn enghraifft ddiddorol o'r math yma o henebion sy'n niferus ar hyd a lled y wlad ond sy'n cael eu hanwybyddu," meddai David Thompson o'r ymddiriedolaeth.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd yn gosod sail ar gyfer y dyfodol - i nodi a gwarchod diwylliant lleol."
Mae grŵp cymunedol Menter Llyfni yn gobeithio creu rhwydwaith o lwybrau yn yr ardal i gofnodi cymeriadau neu ddigwyddiadau o bwys.
Safle paganaidd
Bydd y llwybr sy'n arwain at Ffynnon Rhedyw yn rhedeg o'r eglwys, trwy'r fynwent i safle'r ffynnon.
Bydd gwybodaeth a hanes y ffynnon ar hysbysfwrdd gerllaw.
Mae Eglwys Llanllyfni wedi ei chysegru i Sant Rhedyw, nid oes gwybodaeth ysgrifenedig gynnar yn bodoli am ei hanes.
Ond credir ei fod wedi ei eni yn Arfon a'i fod wedi sefydlu eglwys Gristnogol gynnar yno.
Darlun cyfrifiadurol o'r ffynnon
|
Mae gwŷl Sant Rhedyw yn cael ei dathlu ar Orffennaf 6 - ar y diwrnod mae ffair Llanllyfni yn cael ei chynnal yn flynyddol.
"Roedd Llanllyfni yn safle paganaidd o bwys, ac roedd pererinion yn arfer aros yma ar y ffordd i Ynys Enlli," meddai cadeirydd Menter Llyfni, O P Huws.
"Fe ddarganfuais safle'r ffynnon ddwy flynedd yn ôl - roedd yn beth mawr i weld y dŵr yn dod i fyny o'r ddaear."
Crêd Mr Huws y bydd y ffynnon yn atyniad i bobl lleol a thwristiaid sy'n ymweld â'r ardal.
"Mae'n gyffrous ein bod wedi sicrhau yr arian i ddechrau ar y gwaith o adfer y ffynnon."