BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 14 Ebrill, 2005, 06:24 GMT 07:24 UK
Golwg newydd ar hen straeon
Llun animeiddiedig o gyhyraeth  (diolch i S4C)
Straeon arswydus: Llygad y Bwystfil

Mae dreigiau, seirff, gwrachod a thylwyth teg y traddodiad Celtaidd wedi ysbrydoli cyfres deledu sy'n dathlu crefft y stor´wr.

Y gyfres Llygad y Bwystfil sy'n adrodd hanesion arswydus y Celtiaid mewn tair iaith - Cymraeg, Gwyddeleg a Saesneg.

Drwy ail-greu hen straeon y nod yw ennyn diddordeb yn y grefft o ddweud stori, meddai Neville Hughes, cyfarwyddwr Cwmni Da yng Nghaernarfon.

"Mae'r grefft o ddweud stori yn bwysig iawn a dan ni'n ailgreu'r hen hanes drwy ddelweddau dramatig.

Animeiddio

"Ac mae rhai (straeon) yn eitha erchyll...y wraig gyhyraeth o Iwerddon, er enghraifft, sy'n sgrechian tu allan i'r tŷ cyn i rywun farw," meddai.

"Mae lot o'r straeon yma yn hen iawn a thrwy'r dweud dan ni'n dod Ô nhw'n fyw."

Mewn chwe rhaglen bydd straeon am ddreigiau, seirff, cewri a gwrachod yn cael eu hanimeiddio ac actorion a stor´wyr o Gymru ac Iwerddon yn perffrormio.

Draig
Bydd cyfres arbennig i blant yn cael ei chynhyrchu hefyd

Dywedodd fod hanes o ardal Aberystwyth lle mae gwraig yn adrodd stori am weld cannwyll y corff y noson cyn i ddyn farw.

Oherwydd elfennau brawychus rhai o'r straeon, bydd fersiwn arbennig ar gael i blant, meddai.

Y bardd Twm Morys sy'n cyflwyno'r gyfres Gymraeg fydd ar S4C yn yr hydref.

Cydgynhyrchiad yw hwn Ô chwmni Midas o Ddulyn yn Iwerddon.




HEFYD:
Gwyl Geltaidd yng Nghaerdydd
04 Ebr 05 |  Newyddion
Holi actor mewn gwyl Geltaidd
06 Ebr 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^