Y gyfrol: Yn cael ei lansio nos Fercher
|
Mae canwr ac actor fu'n aelod o rai o fandiau roc enwocaf y sîn roc Cymraeg yn lansio cofiant nos Fercher.
Yn y 1970au bu Geraint Griffiths yn perfformio'n achlysurol gydag Edward H Dafis a Hergest cyn ymuno â grwpiau Injaroc ac Eliffant.
Mae hanes ei brofiadau yn y gyfrol Hewl gan Geraint Davies a John Davies.
"Roedd popeth mor newydd ac roedd yn wefr ac yn fraint i fod yn rhan ohono," meddai am y cyfnod sy'n cael ei ystyried gan lawer yn oes aur y sîn roc Cymraeg.
"Dw i'n hoffi darllen am y cyfnod hwnnw a dw i'n siwr fod galw am fwy o ddeunydd amdano."
Breuddwyd
Roedd yn arfer gweithio fel nyrs a threuliodd 20 mlynedd yn Llundain lle roedd yn perfformio gyda grŵwp lleol.
Arferai ymuno ag Edward H Dafis bob tro yr oedd yn dychwelyd i Gymru a daeth yn ôl i fyw yma a gwireddu breuddwyd o fod yn gerddor llawn-amser.
"Rwy'n teimlo'n ffodus mod i yn y fan iawn ar yr adeg iawn ac mewn cyswllt â phobl oedd â ffydd ynddo i," meddai'r cerddor o Bontrhydyfen, Dyffryn Afan, sy'n byw yng Nghaerfyrddin.
Oes aur: Bu Geraint yn perfformio gydag Edward H Dafis, Hergest, Injaroc ac Eliffant
|
"Doedd hi ddim yn hawdd ac mae'n mynd yn anoddach. Mae lot mwy o gystadleuaeth achos mae cymaint o bobl ifanc â breuddwydion a phob un yn dalentog a llawn egni.
"Daeth S4C i fodolaeth dros 20 mlynedd yn ôl ac roedd lot mwy o waith a lot mwy o gigs. Roedd mwy o gefnogaeth bryd hynny ond gall pethau newid."
Dal i berfformio
Bu'n actio yn y rhaglenni plant Ffalabalam a Tŷ Chwith yn ogystal â Pobol y Cwm a Pris Y Farchnad.
Mae wedi bod yn y gyfres Darn o Dir ac yn chwarae rhan yr adeiladwr Pete Pritchard yn y gyfres Rhydeglwys ar Radio Cymru.
Ac mae'n dal i berfformio gyda'i fand Y Gwehyddwyr ac yn recordio cerddoriaeth perfformwyr eraill ar ei label Diwedd y Gwt yn ei stiwidio yng Nghaerfyrddin.
Cyhoeddodd ei gryno-ddisg diweddara Miya-Jima yn gynharach eleni.
John Davies o Bort Talbot ysgrifennodd y gyfrol Hewl yn Saesneg yn wreiddiol. Aeth John a Geraint i Ysgol Ramadeg Glanafan ac roedd y ddau'n aelodau o'r band The Undecided.
Pan ymddeolodd John o'r gwaith dur dilynodd gwrs ysgrifennu creadigol a rhan o'r cwrs oedd paratoi cyfrol neu gofiant am rywun amlwg.
Mae awdur y cofiant Cymraeg, Geraint Davies, wedi perfformio gyda Hergest a Mynediad am Ddim ac yn aelod o'r Gwehyddwyr.
Gwasg Gomer sy'n lansio'r gyfrol yng Ngwesty'r Drovers yn Nghaerfyrddin nos Fercher.