Mae dau argymhelliad yn canolbwyntio ar ddatblygu'r campws presennol
|
Mae Prifysgol Cymru Abertawe yn ystyried gadael ei safle yn y ddinas fel rhan o'i chynllun i ehangu.
Byddai symud i Felindre neu ddatblygiad Llynnoedd Delta yn Llanelli yn un o'r tri opsiwn sydd wedi ei gyflwyno gan arbenigwyr a gomisiynwyd gan y brifysgol.
Mae'r ddau gynnig arall yn canolbwyntio ar ddatblygu'r campws yn Singleton, opsiynau sy'n cael eu ffafrio gan y brifysgol yn ôl yr arbenigwyr.
Roedd yr adroddiad hefyd yn dweud y byddai angen mwy o le ar y brifysgol yn y dyfodol.
Mae'r adroddiad gafodd ei gomisiynu gan dîm ymgynhori Actium yn archwilio "datblygiad strategol y dyfodol" - wedi cyhoeddi tri argymhelliad:
- Ailddatblygu Tŷ Fulton a Tŷ'r Undeb
- Ailddatblygu'r safle rhwng y neuaddau preswyl ac Ysbyty Singleton ac ailddatbylgu Tŷ Fulton
- Lleoliad arall yn lle campws Singleton
Mewn datganiad ddydd Llun dywedodd y brifysgol bod angen campws fyddai'n cyfateb â'i anghenion yn y dyfodol.
"Mae datblygiad y brifysgol a'r cynnydd yn y nifer o fyfyrwyr sydd am ddod i'r coleg wedi rhoi pwysau ar ein adnoddau a mae angen mwy o le arnom," meddai'r datganiad.
Ond dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol ei fod yn "rhy gynnar i drafod pethau'n bendodol".