Ers sefydlu'r cynulliad yn 1999, Llywodraeth y Cynulliad sy'n gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Dim ond meysydd fel geneteg a ffrwythloni sydd heb gael eu datganoli.
Maniffestos Prydeinig yw sail yr ymgyrchu gyda'r polisïau i raddau helaeth yn amherthnasol i Gymru.
Ond mae'r pwnc trafod yn debyg o fod yn bwysig i etholwyr Cymru, a phwy bynnag fydd yn ennill y mwyafrif yn San Steffan, bydd yn rhaid iddynt weithio law yn llaw gyda'r cynulliad.
 |
RHESTRAU AROS CYMRU
Poblogaeth (2002) - 2,918,700
Y rhai ar restrau aros cleifion allanol - 219,600
Y rhai ar restrau aros cleifion mewnol ac achosion dyddiol - 74,700
Cleifion mewnol yn aros yn dros flwyddyn - 8,500
Ffynhonnell: Ystadegau iechyd 2004 y cynulliad
|
Mae llawer o etholwyr yn poeni am bynciau trafod sy'n effeithio arnyn nhw ac mae'n bosib nad ydyn nhw'n sylweddoli beth yw'r gwahaniaeth rhwng pynciau trafod sydd wedi eu datganoli a'r rhai y mae San Steffan yn gyfrifol amdanyn nhw.
Eto mae ethol Llywodraeth Prydain yn bwysig i Gymru - San Steffan sy'n penderfynu ar gyllideb Llywodraeth y Cynulliad - sef tua £12bn y flwyddyn.
O'r cyfanswm mae £4.9bn yn cael ei wario ar iechyd yng Nghymru.
Polisi iechyd
Mae strategaeth Llywodraeth y Cynulliad yn gyson wedi bod yn wahanol i strategaeth Ysgrifenyddion Cymru.
Cafodd elfennau o ddiwygio gan yr Adran Iechyd - targedau, ysbytai craidd - eu gwrthod gan y cyn Weinidog Iechyd, Jane Hutt.
Roedd Ms Hutt am weld polisïau traddodiadol yn cael eu rheoli'n ganolog gan y 22 bwrdd iechyd lleol.
Penderfynodd y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, i wahaniaethu rhwng polisi iechyd Llywodraeth y Cynulliad a pholisi Llafur Newydd yn San Steffan.
 |
SALWCH DIFRIFOL YNG NGHYMRU
Mae tua miliwn o bobl yng Nghymru'n dioddef o salwch difrifol hir-dymor
Y mwya' cyffredin yw cefn gwael (30%), gwynegon (25%), problemau anadlu (23%) ac afiechyd y galon (21%)
Salwch difrifol yw'r rheswm am 25% o ymgynghoriadau gyda meddygon teulu yng Nghymru
Yn flynyddol amcangyfrifir bod 80% o bresgripsiynau yn cael eu rhoi i drin salwch difrifol
Ffynhonnell: Y cynulliad
|
Gweledigaeth Mr Morgan yw cael gwasanaeth "iechyd" yn hytrach na gwasanaeth "afiechyd" ac mae hyrwyddo byw'n iach wrth wraidd polisïau Llywodraeth y Cynulliad.
Rhestrau aros
Mae'r Blaid Lafur wedi cyhoeddi y bydd dros £70m yn cael ei fuddsoddi wrth hybu iechyd yn ystod 2007-08.
Mae 62 o brosiectau yng Nghymru, gan gynnwys un yn Nhrelai, Caerdydd, lle mae staff Ymddiriedolaeth Caerdydd a'r Fro yn rhedeg cynllun sy'n cynorthwyo cleifion gydag afiechyd y galon.
Mae gweithwyr arbenigol yn cynnig cyngor ar smygu, bwyd, ymarfer corff ac yn cynnal gweithdai amrywiol.
Dywedodd Cath Washbrook, cydlynydd y prosiect: "Mae afiechyd y galon yn un o broblemau mwya'r gymuned ac mae gordewdra ar gynnydd.
"Mae angen sicrhau bod hybu iechyd ar frig yr agenda i atal problemau hir dymor."
Ond mae arsyllwyr yn dweud bod newid wedi bod ym mlaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad dros y 12 mis diwethaf a bod mwy o bwyslais ar leihau rhestrau aros.
Dywedodd Marcus Longley o'r Sefydliad Cymreig Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrth BBC Cymru: "Pan ddaeth i rym ...prif fwriad Llywodraeth y Cynulliad oedd gwella iechyd pobl ac roedd lleihau rhestrau aros yn beth eilradd.
Cafodd Brian Gibbons ei benodi'n weinidog iechyd yn lle Jane Hutt
|
"Cafwyd nifer o adroddiadau beirniadol gan y Comisiwn Archwilio ac eraill a thua 9-12 mis yn ôl roedd newid wrth i Jane Hutt gydnabod bod angen mynd i'r afael â rhestrau aros."
Cyflwynwyd cynllun ail-gynnig gan y cynulliad yn Ebrill 2004, sy'n galluogi cleifion i gael triniaeth mewn ysbytai y tu hwnt i Gymru os ydyn nhw'n gorfod aros yn rhy hir.
Hyd yma mae'r gwasanaeth wedi darparu dros 8,700 o lawdriniaethau ac mae'r cynulliad wedi dweud bod hyn wedi "effeithio'n fawr" ar y rhestrau aros yng Nghymru.
Targedau newydd
Yn ôl ystadegau mis Chwefror, roedd rhestrau aros ysbytai yng Nghymru wedi gostwng ac roedd nifer y bobl yn aros dros flwyddyn a hanner am driniaeth mewn ysbyty wedi gostwng o 5,186 i 3,555.
Hefyd, dangosodd yr ystadegau bod nifer y rhai oedd yn aros dros 18 mis ar gyfer apwyntiad cyntaf wedi gostwng o 5,485 i 3,381.
Mae'r Gweinidog Iechyd, Brian Gibbons, wedi cyhoeddi targedau newydd ar gyfer cael triniaeth yn y Gwasanaeth Iechyd.
Dywedodd Dr Gibbons na fyddai'n rhaid i gleifion Cymru o 2009 ymlaen aros yn fwy na 26 wythnos am driniaeth ar ôl i feddyg teulu eu gweld.
Mae hyn yn dal i fod yn hirach na'r targedau 18-wythnos yn Lloegr erbyn 2008.
Yn Chwefror, cyhoeddodd y cynulliad gyllid o £32m er mwyn mynd i'r afael â rhestrau aros.
Mae tua 80% o bresgripsiynau yn cael eu rhoi i drin salwch difrifol
|
Gwelyau ychwanegol
Ond mae beirniaid Llafur wedi nodi'r gwahaniaethau rhwng rhestrau aros yng Nghymru a Lloegr a bod gofalaeth yng Nghymru'n waeth.
Felly sut fydden nhw'n delio â'r broblem?
Cyhoeddodd Plaid Cymru gynllun 12-pwynt fis Mawrth i wella rhestrau aros.
Fe fyddai'n cynnwys darparu 500 o welyau ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd a darparu 50 gwely ychwanegol ar gyfer unedau gofal dwys.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi dweud bod lleihau rhestrau aros yn flaenoriaeth iddynt.
Mae eu cynllun iechyd yn cynnwys sefydlu canolfannau iechyd mae modd ymweld â nhw'n gyflym fel y rhai sy'n bodoli yn Lloegr ac ymestyn y cynllun ail gynnig i gleifion sy'n gorfod aros yn hirach na naw mis.
Mae'r Ceidwadwyr wedi addo defnyddio'r "sector preifat a chyfleusterau sy'n rhydd mewn ysbytai yn Lloegr i ymdrin â'r cleifion sy'n aros".
Fe fyddai'r blaid hefyd yn cyflwyno canolfannau iechyd dinesig y byddai modd ymweld â nhw'n gyflym i dynnu'r pwysau oddi ar unedau brys.