BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 10 Ebrill, 2005, 15:29 GMT 16:29 UK
Ysgolion 'dan fygythiad'
Disgyblion ar risiau ysgol
Dywedodd Mr Davies y gall dyfodol ysgolion uwchradd fod yn y fantol
Mae gostyngiad yn nifer y disgyblion yn golygu bod dyfodol rhai ysgolion uwchradd yn ansicr, medd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Rhybuddiodd y Cynghorydd John Davies, arweinydd annibynnol Cyngor Sir Penfro, fod llai o blant ysgolion cynradd yn golygu llai o ysgolion uwchradd yn ddiweddarach.

Yr wythnos ddiwetha dywedodd y gymdeithas eu bod yn cynnal arolwg o ysgolion bychain Cymru a'r polisi llefydd gwag.

Os oes llai o blant yn mynd drwy'r sector cynradd heddi, fe fydd llai o blant yn mynd drwy'r sector uwchradd yfory
Cynghorydd John Davies

Mae dyfodol ysgolion bach cynradd Cymru yn fater i'r awdurdodau lleol, medd Llywodraeth y Cynulliad.

Ar raglen Llinyn Mesur ar BBC Radio Cymru ddydd Sul dywedodd Mr Davies mai cysoni'r polisi oedd y bwriad.

"Yn sicr, mae eisiau cyfeiriad clir ac mae'n aneglur ar hyn o bryd. Wrth deithio o amgylch Cymru fe welwch chi wahaniaethau.

"Mae rhai cwestiynau digon dilys yn cael eu gofyn pam bod hyn yn digwydd gan ein bod o dan law'r cynulliad ar ddiwedd y dydd."

Problem

"Beth fydd yn y tymor hir (yn y sector uwchradd) ydi'r hyn sy'n digwydd yn y sector cynradd ...

Eu cyfrifoldebau ydi sicrhau y gwasanaeth addysg mwya effeithiol i bob disgybl yn yr ardal
Llefarydd ar ran y cynulliad

"Os oes llai o blant yn mynd drwy'r sector cynradd heddi, fe fydd llai o blant yn mynd drwy'r sector uwchradd yfory."

Yr wythnos ddiwetha honnodd yr Athro David Reynolds, ymgynghorydd addysg Llywodraeth San Steffan, ar raglen BBC Cymru Taro Naw y gallai hyd at 200 o ysgolion cynradd Cymru gau o fewn y pum mlynedd nesaf.

Dangosodd ymchwil ar gyfer y rhaglen bod 403 o ysgolion cynradd Cymru â 25% neu fwy o lefydd gwag.

Gwasanaeth addysg effeithiol

"Oherwydd y bydd yna rhwng 40,000 a 60,000 yn llai o blant yn mynd drwy'r system addysg yng Nghymru yn ystod y 10 mlynedd nesaf fe fydd yn rhaid i awdurdodau lleol fod yn wyliadwrus am yr hyn mae'n ei olygu ar gyfer eu system addysg lleol," meddai llefarydd ar ran y llywodraeth y cynulliad.

Dosbarth o blant
Mae 'na bryder y gall hyd at 200 o ysgolion cynradd gau o fewn pum mlynedd
"Eu cyfrifoldebau ydi i sicrhau y gwasanaeth addysg mwya effeithiol i bob disgybl yn yr ardal.

"Mae hyn yn golygu gallu dysgu'r cwricwlwm yn llawn a chynnig amrywiaeth llawn o wasanaethau yn yr ysgolion.

"Fe all hyn olygu ad-drefnu'r ddarpariaeth i gynnig y gwasanaeth addysg gorau posib.

"Serch hynny, does 'na ddim cynlluniau wedi eu cyflwyno i'r llywodraeth ar hyn o bryd ac ar gyfartaledd tair ysgol sydd wedi cau dros y 10 mlynedd diwethaf."




HEFYD:
'Hyd at 200 o ysgolion i gau'
05 Ebr 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^