Chwilio am oroeswyr yn nhrychineb Aberfan yn 1966
|
Bydd lluniau gafodd eu tynnu o Aberfan yn dilyn y drychineb yno gan ffotograffydd o America yn rhan o arddangosfa arbennig sydd wedi agor ddydd Sadwrn.
Fe gofnododd I C Rapoport (Chuck Rapoport) fywyd yn y pentref glofaol ar ôl y drychineb yn 1966 i'r cylchgrawn Life, ond mae modd gweld ei waith bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Mae ei atgofion o'r drychineb laddodd 144 o bobl, 116 ohonyn nhw yn blant, ym mis Hydref 1966, yn dal yn fyw.
Fe gafodd y bobl eu lladd wrth i wastraff glo o'r tipiau uwchben y pentref lithro i lawr a chladdu'r ysgol.
Dywedodd y llyfrgell bod y lluniau trawiadol i'w gweld yno tan Fehefin 18 ac yna fe fyddan nhw'n cael eu cyflwyno fel rhodd i'r llyfrgell.
'Meddwl fel tad'
Yn ystod ei yrfa o bron i 50 mlynedd mae Mr Rapoport wedi tynnu lluniau rhai o enwogion yr 20fed ganrif gan gynnwys cyn arlywydd America, John F Kennedy, seren y sgrîn Marilyn Monroe ac arweinydd Cuba, Fidel Castro.
Ond ei atgofion o Aberfan sy'n aros yng nghof y ffotograffydd 68 oed.
 |
Roedd ganddyn nhw ofn mynd adra am nad oedden nhw'n gallu bod yn gefn i'w gwragedd
|
"Fy atgof cyntaf o Aberfan oedd lle budur, du, oer a thrasig," meddai wrth gael ei holi cyn i'r arddangosfa agor.
"Ond bu bron i mi beidio â chyrraedd yno. Fe es i'r swyddfa yn Efrog Newydd a phledio gyda nhw i'm hanfon i Gymru.
"Roeddwn i'n meddwl fel tad ac yn gwybod y byddai'r lluniau yn cael effaith weledol ar ddarllenwyr Life. Roeddwn i'n frwdfrydig ac yn ysbrydoledig."
Cyrhaeddodd Mr Rapoport gyda gohebydd yn Aberfan wyth neu naw niwrnod ar ôl y drychineb a bu'n aros yng Ngwesty'r Mackintosh, sydd erbyn hyn wedi cau.
"Dyna'r peth gorau allwn ni fod wedi ei wneud gan bod y gwesty yn llawn bob nos ac roeddem yn gallu siarad gyda'r rhai gafodd eu heffeithio," ychwanegodd.
Colled unigolion
"Dywedodd y tafarnwr nad oedd y bar fyth yn llawn ond ar ôl y drasiedi doedd y dynion ddim yn gallu mynd adre, doedden nhw ddim yn gallu wynebu'r hyn oedd wedi digwydd.
"Roedd gan bawb stori i'w dweud, yn gwylltio gyda ni ond yn ymddiheuro am fod yn flin gyda ni.
"Roedden nhw'n crio ar ôl cael diod ac yn sôn am eu colled.
"Roedd ganddyn nhw ofn mynd adre am nad oedden nhw'n gallu bod yn gefn i'w gwragedd."
Mae Mr Rapoport yn cyflwyno'r lluniau i'r llyfrgell genedlaethol
|
Cafodd Mr Rapoport ei eni yn Efrog Newydd ond mae bellach yn byw yn California.
Ychwanegodd bod y cyfryngau wedi bod yn ansensitif i'r trigolion lleol yn Aberfan ar y pryd.
"Erbyn i mi gyrraedd roedd y bobl lleol wedi cael digon ar y wasg ond fe lwyddais i ennill eu parch," meddai.
Dywedodd Sheila Lewis, un o drigolion Aberfan, bod y bobl yn cofio "Chuck".
"Mae rhai ohonon ni yn cofio Chuck yma yn 1966 ychydig ar ôl y drychineb," meddai.
"Mae'r hyn a welodd, a glywodd ac a gofnododd wedi gadael argraff ddofn iawn arno. Mae ei waith yn dangos dewrder a gwroldeb y trigolion lleol."
Fe fydd y ffotograffydd yn adolygu ei gyfrol Aberfan: The Days After yng ngŵyl lenyddol Y Gelli dros yr haf a bydd cyfle i weld rhai o'r lluniau yno hefyd.