Yn ôl AC mae Ysbyty Tregaron o dan fygythiad
|
Roedd mwy na 100 o bobl yn protestio ym mynedfa ysbyty fore Iau oherwydd cynllun posib i'w gau.
Ymgasglodd y protestwyr yn Ysbyty Cymunedol Tregaron wrth i aelodau Ymddiriedolaeth Iechyd Ceredigion gynnal cyfarfod yno.
Mae'r ymddiriedolaeth yn wynebu diffyg ariannol o £1.1m.
Dywed y bydd cyfnod ymgynghori llawn cyn y bydd unrhyw benderfyniad am ddyfodol yr ysbyty.
Roedd disgyblion chweched dosbarth a phensiynwyr ymhlith y protestwyr a alwodd ar yr ymddiriedolaeth i ddiogelu dyfodol yr ysbyty.
Cafodd dirprwyaeth fynediad i'r cyfarfod a siarad ag aelodau'r ymddiriedolaeth.
Deiseb
Bu 200 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Uwchradd Tregaron nos Fercher i ddangos eu gwrthwynebiad i unrhyw gynllun i gau'r ysbyty.
Ar ddiwedd y cyfarfod cytunwyd yn unfrydol i ffurfio pwyllgor ymgyrchu a sefydlu deiseb i wrthwynebu unrhyw gynlluniau i gau'r ysbyty.
Mae 'na 25 gwely yn Ysbyty Ceredigion
|
Yn ystod y cyfarfod cafodd llythyr yr ymddiriedolaeth iechyd ei ddarllen, llythyr oedd yn dweud y byddai ymgynghori llawn cyn unrhyw benderfyniad.
Ddechrau'r wythnos datgelwyd mai hoff ddewis yr ymddiriedolaeth er mwyn arbed arian oedd cau Ysbyty Tregaron a gostwng y gwasanaethau yn Ysbyty Cymunedol Aberteifi.
Dywedodd un o'r trigolion yn y cyfarfod nos Fercher y byddai'n "golled i'r dref a'i heconomi gyda 50 o swyddi yn diflannu" pe bai'r ysbyty yn Nhregaron yn cau.
"Yr ysbyty agosaf yw Bronglais 20 milltir i ffwrdd ... rydych chi'n sôn am 200 milltir yr wythnos. Ydi'r staff yn mynd i deithio mor bell â hynny?" gofynnodd.
'Ffafrio'
A dywedodd un arall: "Dwi'n fenyw mewn oedran a dwi ddim yn gwybod pryd y bydd rhaid i mi fynd i'r ysbyty fy hunan.
"Mae llawer o hen bobl yn byw yn Nhregaron ac mae'n gyfleus iddyn nhw gael mynd â'u perthnasau ddod i'w gweld nhw."
"Mae'n opsiwn sy'n cael ei ffafrio gan yr ymddiriedolaeth," meddai Elin Jones, AC Ceredigion, ddechrau'r wythnos.
"Yr hyn dwi'n ei ddweud yw ei bod yn bwysig iawn fod pobl Ceredigion yn ymwybodol bod y trafodaethau yma yn cael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeëdig a bod yna opsiwn ar y bwrdd sy'n golygu diwedd i Ysbyty Tregaron ac Ysbyty Aberteifi fel yr ydyn ni'n eu nabod nhw.
"Mae'n rhaid i'r ymddiriedolaeth ddeall bod hynny yn opsiwn na fydd pobl Ceredigion a finne yn ei ffafrio."
Ond mae cynlluniau i godi ysbytai neu ganolfannau iechyd yn y ddwy ardal.
Arian
Yn gynharach yn y flwyddyn cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai £7m yn dod i ardal Tregaron a £9m i ardal Aberteifi.
"Yr hyn sy'n gwbl ryfeddol yn hyn i gyd bod yr arian ar gyfer dau ysbyty newydd wedi cael ei gyhoeddi ddechrau'r flwyddyn ond does dim arian na brwdfrydedd gan yr ymddiriedolaeth i gadw'r ddau ysbyty i fynd tan fod yr adeiladau newydd yn cael eu cynnig," meddai Ms Jones.
"Dwi'n meddwl ei fod yn gwbl annerbyniol fod y math yma o drafodaethau yn digwydd pan fo pobl yn ardal Tregaron, Aberteifi a thrwy Geredigion i gyd yn bron yn cymryd yn ganiataol, fel yr oeddwn i, bod 'na ddyfodol saff hirdymor i wasanaeth iechyd ac ysbytai'r ddwy gymuned yma."
Dywedodd yr ymddiriedolaeth a'r bwrdd ddechrau'r wythnos eu bod yn edrych ar opsiynau ar sut i allu arbed arian a bod disgwyl i'r mater gael ei drafod eto mewn ychydig o wythnosau.
Bydd cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol Ysbyty Coffa Aberteifi yn cael ei gynnal ddydd Llun nesaf am 19.30 yn Ysgol Uwchradd Aberteifi.