Mae'r mwyafrif am weld cyfleoedd i blant ddysgu chwarae offerynnau
|
Mae pedwar allan o bob pum person yng Nghymru yn mynychu digwyddiadau celfyddydol ac mae mwy na thri chwarter yn credu bod diwylliant yn gwneud y wlad yn lle gwell i fyw.
Dyna rai o ganfyddiadau'r arolwg mwyaf i gael ei gomisiynu erioed gan Gyngor Celfyddydau Cymru i agweddau'r cyhoedd at y celfyddydau.
Holwyd bron i 7,000 o bobol ar gyfer yr arolwg a bydd y cyngor yn cydweithio â Llywodraeth y Cynulliad i lunio polisïau ar sail y canlyniadau.
Un o'r blaenoriaethau fydd ehangu'r cyfleoedd i bobl llai cyfoethog i fwynhau digwyddiadau celfyddydol.
Mae'r llyfryn Craffu ar y Celfyddydau yn cael ei lansio yng nghanolfan Galeri yng Nghaernarfon ddydd Iau ac mae'n rhestru'r prif ganfyddiadau sy'n cynnwys:
Mae 95% o bobl Cymru yn credu y dylai plant gael cyfle i ddysgu chwarae offeryn cerddorol a chymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol.
Mae 80% o bobl yn gwylio rhaglenni celfyddydol ar y teledu, fideo neu DVD yn gyson.
Mae 80% o'r rhai a holwyd yn credu y dylid defnyddio arian cyhoeddus i ariannu'r celfyddydau
Mae pobl yng ngogledd Cymru yn mynychu ac yn cymryd rhan mewn mwy o ddigwyddiadau celfyddydol na'r bobl mewn rhanbarthau eraill, a siaradwyr Cymraeg sy'n dangos y diddordeb mwyaf yn y celfyddydau.
Mae'r celfyddydau yn bwysig i'r rhan fwyaf o'r bobl a holwyd
|
Mae mwyafrif llethol o'r farn y dylai plant gael cyfle i ddysgu canu offerynnau cerddorol ac mae llawer nad ydyn nhw'n ymhél â'r celfyddydau yn credu y dylai'r maes dderbyn arian cyhoeddus.
Ond mae'n ymddangos mai unigolion cefnog sy'n mynychu digwyddiadau celfyddydol yn bennaf ac mae Cyngor y Celfyddydau a Llywodraeth y Cynulliad yn awyddus i weld mwy o ddramâu a nosweithiau llenyddol mewn ardaloedd difreintiedig.
Dywedodd llawer eu bod wedi meithrin hyder o gymryd rhan yn y celfyddydau a bod hynny'n gallu helpu pobl i gael gwaith.
Mae'r llyfryn 'Craffu ar y Celfyddydau' yn cyfeirio at bobl ifanc sydd wedi elwa o gymryd rhan mewn digwyddiadau celfyddydol.
Cydraddoldeb
"Heb Theatr Ieuenctid Pen y Bont-ar-Ogwr pwy a wyr lle fydden i nawr?" meddai Aneurin Barnard, myfyriwr actio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd.
Cafodd yr arolwg ei groesawu gan Weinidog Diwylliant y Cynulliad Alun Pugh sydd yn dangos gwerth y celfyddydau yn ogystal â'r mannau lle mae angen gweithredu er mwyn "mynd i'r afael ag anfantais".
Mae mwy o bobl y gogledd yn mynychu digwyddiadau fel Gwyl y Faenol
|
"Rydw i wedi ymrwymo i weithio gyda Chyngor y Celfyddydau i ymdrin â materion sy'n gysylltiedig â diffyg cydraddoldeb o ran mynychu a chyfranogiad yn y celfyddydau," meddai.
"Mae cryn dipyn o arfer da ym maes y celfyddydau yng Nghymru - tocynnau Cwmni Opera Cymru am bum punt, theatr symudol Clwyd Theatr Cymru a'r cynllun Noson Allan ond mae angen i ni wneud mwy er mwyn sicrhau fod y celfyddydau o fewn cyrraedd pawb."
"Mae (yr arolwg) yn dangos yn ddigamsyniol fod pobl yn deall fod y celfyddydau yn gwneud gwahaniaeth iddyn nhw fel unigolion ac i'r gymdeithas gyfan," meddai Geraint Talfan Davies, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.
"Dyma ganfyddiadau hynod gadarnhaol. Gall pawb ohonom sy'n defnyddio arian cyhoeddus i gefnogi'r celfyddydau deimlo'n hyderus ein bod yn gwneud hynny gyda chefnogaeth lwyr y cyhoedd."