Mae bywgraffiad un o wleidyddion amlyca Cymru yn yr 20fed ganrif yn cael ei gyhoeddi nos Fercher.
Bydd Rhag Pob Brad am fywyd Gwynfor Evans yn cael ei lansio ym Mae Caerdydd gan awdur y llyfr Rhys Evans.
Bu Mr Evans, newyddiadurwr BBC Cymru, yn ymchwilio i fywyd Gwynfor Evans am dair blynedd cyn iddo farw yn Ebrill eleni.
Dywedodd mai ei nod oedd rhoi portread teg a chytbwys am fywyd y gwleidydd a'r heddychwr.
Mae'r awdur yn datgelu i Gwynfor ystyried lladd ei hun wedi canlyniad refferendwm 1979 a'i nod oedd ceisio adfywio cenedlaetholdeb Cymreig.
Yn y flwyddyn honno gwrthodwyd cynulliad o 956,330 o bleidleisiau i 243,048.
'Anobaith'
"Roedd diflastod ac anobaith llwyr wedi taro Gwynfor Evans fwy na neb o bosib," meddai'r sylwebydd gwleidyddol Dr Richard Wyn Jones o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn Aberystwyth.
"Ac roedd hyn, yn enwedig wedi iddo arwain Plaid Cymru i gefnogi 'r holl fenter er gwaetha amheuon o fewn ei blaid ei hun."
Dywedodd Dr Jones fod y llyfr yn bwrw golwg ar hanes Cymru drwy "berspectif neu drwy lens" Gwynfor.
"Dach chi'n cael golwg ar hanes Cymru mewn cyfnod anhygoel o ddiddorol ... fe gafodd Gwynfor fywyd hir iawn ac amrywiol.
"Wrth drafod hanes ffigwr sydd wedi bod yn amlwg mewn plaid wleidyddol ac mewn enwad crefyddol dach chi'n rhoi darlun o hanes Cymru.
'Llwyddiannus'
"Roedd ei fys mewn sawl brywes yn ogystal â bod yn llywydd Plaid Cymru am gyfnod hir."
Dywedodd i'r awdur gloriannu ei fywyd yn gytbwys am fod y darllenydd yn "gweld y llwyddiannau a'r methiannau yn ei fywyd".
Cafodd Gwynfor ei eni yn Y Barri ar Fedi 1 1912 ond bu'n byw am ran fwya ei fywyd yn Llangadog, Sir Gaerfyrddin, cyn symud i Bencarreg.
Fe oedd Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru a daeth i amlygrwydd fel llywydd Plaid Cymru yn y 1940au, swydd a ddaliodd tan 1981.
Ond ei lwyddiant mwyaf efallai oedd ei fuddugoliaeth yn is-etholiad Caerfyrddin yn 1966, buddugoliaeth oedd yn annisgwyl ac a gafodd sylw gwasg y byd.
Dywedodd Dr Jones fod gwydnwch cymeriad Gwynfor yn amlwg yn y cofiant.
"Roedd yn ddyn rhyfeddol o benderfynol ... tase'r rhan fwya ohonon ni wedi hen roi'r gorau iddi yn wyneb y methiannau a'r cyfnodau caled y cafodd.
"Daliodd ati ond doedd o ddim yn llwyddiannus ymhob dim a ddim wedi ymddwyn yn berffaith ym mhob achlysur o bell ffordd.
"Mae'n stori drawiadol dros ben."
Cyhoeddir Rhag Pob Brad gan Y Lolfa.