BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 9 Tachwedd 2005, 08:36 GMT
Cofeb i arweinydd Siartwyr
Murlun ger Sgwr John Frost yng Nghasnewydd
Gwrthdaro gwaedlyd: Protest Casnewydd

Mae cofeb wedi ei dadorchuddio ddydd Mercher yn y pentref lle ganed arweinydd mudiad y Siartwyr.

Cafodd Zephaniah Williams ei eni yn Argoed ger y Coed Duon yn 1795 ac roedd yn arweinydd y Siartwyr yn y gwrthryfel yn 1839.

Arweiniodd protest yng Nghasnewydd at wrthdaro gwaedlyd rhwng milwyr a phrotestwyr y tu allan i Westy'r Westgate.

Roedd y Siartwyr yn galw am fabwysiadu Siarter y Bobl oedd yn amlinellu newid hawliau pleidleisio a diwygio etholiadol.

Dyma bobl a frwydrodd ac a fu farw fel y gallai pawb dros 21 oed bleidleisio'n breifat
Y Cynghorydd Leon Gardiner

Cafodd y seremoni ddydd Mercher ei chynnal y tu allan i Westy'r Sirhowy Arms yn Argoed lle bu'r Maer, y Cynghorydd John Bevan, plant ysgol lleol a chynrychiolwyr o'r gymuned yn dadorchuddio'r gofeb am 1500.

Y cynghorydd lleol Leon Gardiner a'i wraig oedd wedi trefnu'r dadorchuddio ac ariannu'r gofeb.

"Dwi wedi bod yn gefnogwr o'r Siartwyr ers blynyddoedd," meddai Mr Gardiner, 72 oed, cynghorydd y Coed Duon ar Gyngor Caerffili.

Alltudio

"Dyma bobl a frwydrodd ac a fu farw fel y gallai pawb dros 21 oed bleidleisio'n breifat."

Dywedodd fod cofio gorffennol hanesyddol yr ardal a'r cysylltiad mudiad y Siartwyr yn "bwysig iawn".

Murlun ger Sgwr John Frost yng Nghasnewydd
Roedd y Siartwyr yn galw am newid y drefn etholiadol
"Heddiw mae gennym ni'r hawl i bleidleisio ac fe gollodd rhai o'r dynion hyn eu bywydau, cafodd rhai eu halltudio a chawson nhw ddim byw i weld eu teuluoedd," meddai.

Dadorchuddio'r gofeb oedd y weithred ddiweddaraf i gydnabod cysylltiad hanesyddol yr ardal mudiad y Siartwyr.

Yn ddiweddar, cafodd pont newydd ei henwi yn Bont y Siartwyr gan Gyngor Caerffili i gofio'r ymgyrch i newid y system etholiadol yn y 19fed ganrif.

Protestio

Cafodd y Siartwyr eu henwi ar l dogfen gyhoeddwyd gan Gymdeithas Gweithwyr Llundain ym Mai 1838.

Roedd Siarter y Bobl yn galw am chwe newid:

  • etholiadau cyffredinol bob blwyddyn
  • pleidlais i bob dyn
  • dosbarthiadau etholiadol o'r un maint
  • dileu'r angen i ymgeisydd Seneddol fod yn berchen ar eiddo
  • pleidlais ddirgel
  • cyflogau i Aelodau Seneddol

    Cerddodd 20,000 o brotestwyr i Gasnewydd ar Dachwedd 4 1839 ac ymunodd llawer ohonyn nhw 'r orymdaith yn ardal y Coed Duon.

    Bu ymladd rhwng milwyr a phrotestwyr y tu allan i westy'r Westgate yng Nghasnewydd. Bu farw o leiaf 22 o brotestwyr ac anafwyd tua 50.

    Dedfrydwyd arweinwyr y brotest, John Frost, Zephaniah Williams a William Jones, i farwolaeth ond cafodd y gosb ei newid i alltudiaeth am oes.




  • HEFYD:
    Enwi pont ar l y Siartwyr
    20 Hyd 05 |  Newyddion



    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^