Mae Bryn Terfel wedi perfformio yn Galeri
|
Mae canolfan gelfyddydol wedi agor ei drysau i artistiaid sy'n recordio deunydd yno am y tro cyntaf.
Bydd y ddau ganwr Bryn Terfel o Bant-glas a Rhys Meirion o Ruthun yn recordio albwm gyda'i gilydd yn Galeri yng Nghaernarfon.
Mae'r bariton a'r tenor yn canu ffefrynnau a deuawdau fel Pan Fyddo'r Nos yn Hir gan Ryan Davies, Y Ddau Forwr a'r Ddau Wladgarwr.
A bydd y delynores Catrin Finch yn cyfeilio'r ddau yn ystod y recordio.
"Mae pawb yn fodlon ar acwsteg y theatr ac mae'r piano fawr Steinway ar gael yma yn ffantastig i unrhyw gyfeilydd," meddai Huw Aled, y rheolwr.
Dywedodd ei fod yn gobeithio y daw artistiaid eraill i recordio yn yr haf.
Mae Galeri ar lan Doc Fictoria yng Nghaernarfon
|
Mae'r ganolfan yn cynnwys theatr â lle i 400 o bobol, dwy stiwdio ymarfer, oriel gelf, caffi, gweithdai a swyddfeydd.
Eisoes mae Bryn wedi perfformio yn y ganolfan.
Bydd Rhys yn teithio i Awstralia i berfformio gyda chwmni Opera Awstralia cyn diwedd yr haf.
Sain sy'n rhyddhau'r gryno-ddisg fydd ar gael erbyn yr haf.