Mae 'na fygythid i ysbytai Tregaron ac Aberteifi
|
Mae pryder am ddyfodol dau ysbyty cymunedol oherwydd gorwariant.
Y ddau ysbyty cymunedol o dan ystyriaeth ydi Tregaron ac Aberteifi.
Ymddiriedolaeth Iechyd Ceredigion, sy'n wynebu colled ariannol eleni o ychydig dros £1m, a'r bwrdd iechyd lleol sy'n trafod dyfodol y ddau ysbyty.
Dywedodd llefarydd ar ran yr ymddiriedolaeth a'r bwrdd eu bod yn ystyried sawl opsiwn ar sut i arbed arian.
Mae wedi dod i'r amlwg fod yr opsiwn o gau a chwtogi gwasanaethau yn y ddau ysbyty'n cael ei ystyried ar ôl cyfres o drafodaethau "y tu ôl i ddrysau caeëdig".
'Dim ffafrio'
"Mae'n opsiwn sy'n cael ei ffafrio gan yr ymddiriedolaeth," meddai Elin Jones, AC Ceredigion.
"Yr hyn dwi'n ddweud yw ei bod yn bwysig iawn fod pobl Ceredigion yn ymwybodol bod y trafodaethau yma yn cael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeëdig a bod yna opsiwn ar y bwrdd sy'n golygu diwedd i Ysbyty Tregaron ac Ysbyty Aberteifi fel yr ydyn ni'n eu nabod nhw.
"Mae'n rhaid i'r ymddiriedolaeth ddeall bod hynny yn opsiwn na fydd pobl Ceredigion a finne yn ei ffafrio."
Ond mae cynlluniau i godi ysbytai neu ganolfannau iechyd yn y ddwy ardal.
Yn gynharach yn y flwyddyn cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai £7m yn dod i ardal Tregaron a £9m i ardal Aberteifi.
"Yr hyn sy'n gwbl ryfeddol yn hyn i gyd bod yr arian ar gyfer dau ysbyty newydd wedi cael ei gyhoeddi ddechrau'r flwyddyn ond does dim arian na brwdfrydedd gan yr ymddiriedolaeth i gadw'r ddau ysbyty i fynd tan fod yr adeiladau newydd yn cael eu cynnig," meddai Ms Jones.
"Dwi'n meddwl ei fod yn gwbl gwbl annerbyniol fod y math yma o drafodaethau yn digwydd pan fo pobl yn ardal Tregaron, Aberteifi a thrwy Geredigion i gyd yn bron yn cymryd yn ganiataol, fel yr oeddwn i, bod 'na ddyfodol saff hir-dymor i wasanaeth iechyd ac ysbytai'r ddwy gymuned yma."
Sioc
Dywedodd arweinydd y cyngor sir ei fod wedi ei ddigio.
"Mae'n sioc," meddai'r Cynghorydd Dai Lloyd Evans. "Sibrydion yr ydyn ni wedi eu clywed a does dim wedi cael ei wneud yn gyhoeddus.
"Ac mae'n drueni mawr gan fod sibrydion yn gallu bod yn niweidiol a chodi amheuon.
"Dwi'n tybio y bydd yn rhoi tipyn o sioc i nifer o bobl, y gweithwyr a'r cleifion yn bennaf, a dwi ddim yn meddwl fod neb yn y sir am weld colli'r gwasanaeth hollbwysig yma."
Dywedodd yr ymddiriedolaeth a'r bwrdd eu bod yn edrych ar opsiynau ar sut i allu arbed arian a bod disgwyl i'r mater gael ei drafod eto mewn ychydig o wythnosau.