BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 5 Ebrill, 2005, 11:18 GMT 12:18 UK
Dim dal ar y byd gwleidyddol?

John Stevenson
John Stevenson
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

Margaret Thatcher
Cafodd 14 o ASau Ceidwadol eu hethol yng Nghymru yng nghyfnod Thatcher
Os yw unrhyw wleidydd yn digalonni neu'n rhy hapus ynglŷn 'i ffawd yna does dim ond angen iddyn nhw edrych ar yr hanes o bleidleisio yng Nghymru'n ddiweddar.

Efallai bod Llafur Cymru wedi bod yn dathlu yn ystod yr etholiadau diwethaf a'r Toraid wedi bod yn digalonni, ond dyw safle Llafur Cymru yn San Steffan ddim wedi bod mor bwerus drwy'r amser.

Yn 1983, er enghraifft, Llafur oedd y blaid Gymreig fwyaf o hyd ond llithrodd i ddim ond 37% o'r bleidlais Gymreig ac 20 o'r cyfanswm o 38 o ASau ar y pryd.

Yn yr un etholiad, pan oedd Thatcheriaeth yn ei anterth, fe enillodd y Ceidwadwyr 31% o'r bleidlais Gymreig a 14 o seddi Cymru.

Tom Hooson, Delwyn Williams, Stefan Terlezki, Syr Anthony Meyer - roedd y rhain i gyd yn hoelion wyth plaid Geidwadol yr wythdegau.

O ganlyniad i fuddugoliaeth yn y Falklands, trafferthion Llafur a Mrs Thatcher roedd y rhain yn ddyddiau da i'r Ceidwadwyr Cymreig.

Roedd Llafur ar y llaw arall yn wynebu cyfnod anodd yng Nghymru ac ym Mhrydain gyfan.

Fe ostyngodd cyfanswm pleidlais y blaid yng Nghymru bron i 10% a thros 160,000 o'i gymharu phedair blynedd yng nghynt.

Dim AS Ceidwadol

Dyma wrthgyferbyniad llwyr gyda'r fuddugoliaeth ysgubol a ddaeth Tony Blair i Downing Street yn 1997.

Dyma'r flwyddyn lle na chafodd yr un AS Ceidwadol ei ethol yng Nghymru, tynged y dioddefodd y blaid hefyd yn etholiad 2001.

Fe aeth y Ceidwadwyr ati wedyn i ddod 'u ASau o Loegr i gyrff fel yr Uwch-Bwyllgor Cymreig er mwyn cynnal y niferoedd.

Tony Blair
Enillodd Llafur 54.7% o'r pleidleisiau yng Nghymru pan ddaeth Blair yn Brif Weinidog yn 1997
Yn 1997 fe enillodd Llafur 54.7% o'r pleidleisiau yng Nghymru a 34 o'r 40 o seddi Cymreig yn Nhŷ'r Cyffredin.

Gostyngodd cyfran y Ceidwadwyr o'r bleidlais i 19.6% ac ni lwyddodd i ennill dim.

Ond er hyn mae'n werth nodi fod y blaid yn parhau yn yr ail safle yn nhermau'r pleidleisiau.

Yn 1997 roedd nifer o bleidleiswyr traddodiadol y Blaid Geidwadol wedi newid arferiad oes un ai drwy bleidleisio dros blaid arall neu drwy beidio phleidleisio o gwbwl.

Fe dorrwyd y patrymau pleidleisio unwaith eto yn etholiadau 1999 ar gyfer y cynulliad.

Yn yr etholiad gallai pobol bleidleisio i ddwy blaid wahanol, cam a ddaeth budd sylweddol i'r wrthblaid a difrod yr un fath i Lafur.

O ganlyniad i'r system bleidleisio mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wastad wedi dychwelyd ASau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er iddyn nhw ennill llai o bleidleisiau na'r Ceidwadwyr.

Yn 1983, er enghraifft, fe enillodd y Gynghrair Rhyddfrydol-SDP bryd hynny 23.2% o'r bleidlais yng Nghymru, a dwy sedd.

Yn 2001 fe enillodd olynydd y Gynghrair, y Democratiaid Rhyddfrydol, 13.8% a pharhau i ddal dwy sedd.

Enillodd Plaid Cymru 7.3% o'r bleidlais yn 1987 a dychwelyd tri AS. Fe ddyblodd y gyfran bron yn 2001 i 14.3% a dychwelodd y blaid bedwar AS.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^