BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 5 Ebrill, 2005, 10:55 GMT 11:55 UK
Brwydrau'r etholiad yng Nghymru

John Stevenson
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

Papur pleidleisio
A fydd etholiad 2005 yn newid y tirlun gwleidyddol yng Nghymru?

Mi fydd Cymru'n dyst i sawl brwydr ddiddorol yn yr ail etholiad cyffredinol ers datganoli.

Bydd Llafur yn awyddus i ddal ei gafael ar y 34 sedd o'r 40 yng Nghymru y mae wedi eu hennill yn 1997 ac yn 2001.

Atgyfodi fydd bwriad y Ceidwadwyr gan nad ydyn nhw wedi cael yr un AS yng Nghymru ers wyth mlynedd.

Yn y cyfamser mi fydd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ceisio ennill pleidleisiau a seddi drwy ddadrithiad yr etholwyr 'r prif weinidog, Tony Blair.

Roedd y canlyniadau ar ddiwrnod yr etholiad y tro diwethaf yn dangos fod popeth bron yr un fath.

Dim ond dwy sedd a newidiodd ddwylo - Plaid Cymru'n ennill Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr oddi wrth Lafur a Llafur yn cipio Ynys Mn oddi wrth Blaid Cymru.

Targedu seddi

Y tro hwn mi fydd y Ceidwadwyr yn targedu seddi fel Gogledd Caerdydd, Conwy, Mynwy, Bro Morgannwg a Gorllewin Clwyd, lle roedd ganddyn nhw bresenoldeb cadarn cyn iddyn nhw gael eu sgubo ymaith gan lanw Blair.

Yn eironig, o ystyried eu gwrthwynebiad cychwynnol i ddatganoli, mae'r cynulliad wedi galluogi'r Ceidwadwyr i adennill troedle yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Rwan mae 11 o Aelodau Cynulliad Ceidwadol ac mae nifer ohonyn nhw wedi eu dewis fel darpar ymgeiswyr seneddol.

Bydd Llafur yn awyddus i adennill Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr oddi wrth Blaid Cymru. Enillodd Adam Price y sedd yn 2001 ac mae wedi bod yn llafar yn ei feirniadaeth o Tony Blair dros ryfel Irac.

Un sialens i Blaid Cymru fel plaid genedlaethol yw i leddfu'r syniad ymhlith rhai o gefnogwyr y cadarnleoedd fod gan yr arweinyddiaeth ddigon i'w ddweud ar faterion rhyngwladol a Phrydeinig, ond llai ar faterion sy'n rhai mwy penodol Gymreig.

Hefyd bydd Plaid Cymru yn ceisio lleddfu ffactor Peter Rogers yn Ynys Mn. Mae Mr Rogers, cyn AC Ceidwadol, wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd Annibynnol.

Mae hynny'n gwneud y frwydr am sedd mor anwadal hyd yn oed yn fwy diddorol. Mewn cyfnod o ychydig dros 50 mlynedd mae wedi ei dal gan y pedair prif blaid yng Nghymru.

Mae ffactorau lleol yn gwneud etholaeth Caernarfon gerllaw hefyd yn un i'w gwylio. A fydd y penderfyniad i ohirio datblygiad mawr yn ymwneud chodi marina hyd ar l yr etholiad er enghraifft yn effeithio ar raniadau o fewn Plaid Cymru?

Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio ehangu ar eu llwyddiant yn yr etholiadau'r cynghorau lleol y llynedd. Mae ganddyn nhw rym bellach yng Nghaerdydd, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Wrecsam.

Her arall i'r Democratiaid Rhyddfrydol fydd i ddryllio delwedd rhai ohonyn nhw fel grŵp ymgyrchu a oedd yn gwrthwynebu'r rhyfel yn erbyn Saddam Hussein.

O ran yr ymgyrch yn ehangach mi fydd Llafur yn canolbwyntio ar fater cyflwyno polisau a grwpiau allweddol fel pensiynwyr a theuluoedd ifanc.

Gwariant cyhoeddus

Yn dilyn buddugoliaeth ysgubol Llafur yn 1997, pan gallai Llafur ddadlau fod ganddi'r mandad i wneud unrhyw beth y dymunai bron, mi ddewisodd y Canghellor, Gordon Brown, i lynu'n gaeth at y lefelau gwariant cyhoeddus a gyhoeddwyd cyn hynny gan ei ragflaenydd Ceidwadol yn Y Trysorlys.

Mae nifer o fewn y blaid yn parhau i ddadlau fod y canghellor wedi gwneud camgymeriad.

Mae Mr Brown ar y llaw arall yn mynnu fod y penderfyniad yn galluogi tŵf economaidd a sefydlogrwydd oedd wedyn yn galluogi Llafur i gynyddu gwariant cyhoeddus.

Mi fydd Llafur yn awyddus i bwysleisio'r cynnydd hwnnw.

Bydd y gwrthbleidiau'n dadlau mai nid arllwys arian da ar l y drwg yw'r hyn sy'n cyfri ond yn hytrach sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu rheoli.

A bydd iechyd yn faes allweddol yn frwydr. Mae iechyd yng Nghymru wrth gwrs yn fater sydd wedi ei ddatganoli ond mae ymgeiswyr seneddol Llafur yn ymwybodol o'r peryglon o gael eu cosbi am fethiant y blaid i leihau amseroedd aros yn y tymor hir yng Nghymru.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^