BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 4 Tachwedd 2005, 07:19 GMT
Dim golwg eto o'r Byd
Y Byd
Mae'r Byd yn gobeithio y bydd 7,000 o brynwyr y rhifyn ar gyfer y flwyddyn gyntaf

Mae wedi dod i'r amlwg y bydd yn flwyddyn arall o leiaf cyn y bydd Cymru'n cael papur newydd dyddiol yn y Gymraeg.

Dywed swyddogion papur Y Byd nad ydyn nhw hyd yma wedi codi digon o arian i ddechrau'r fenter.

Roedden nhw wedi disgwyl y byddai'r rhifyn cyntaf wedi ymddangos erbyn hyn ond maen nhw'n ffyddiog y byddan nhw'n cyrraedd y nod o £600,000 ac y daw'r papur yn fuan wedi hynny

Fydda i ddim yn enwi dyddiad achos mae'n ffôl i wneud hynny ond mae i gyd yn dibynnu ar pryd y cawn ni'r arian at ei gilydd
Rebecca Williams, Swyddog Datblygu'r Byd
Mae rhai o'r buddsoddwyr hefyd yn dal i fod yn ffyddiog y bydd y papur yn dod i fodolaeth cyn bo hir.

Mae gan y Byd swyddfa bellach ond dim dwy sy'n gweithio yno ar hyn o bryd.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru dros flwyddyn yn ôl awgrymodd cadeirydd y bwrdd rheoli y byddai'r papur mewn bodolaeth erbyn hyn.

Dywedodd Ned Thomas wrth y newyddiadurwr Gwilym Owen ei fod yn "weddol ffyddiog" y byddai'r Byd mewn bodolaeth erbyn diwedd Medi 2005.

Ond erbyn hyn does dim sôn yn union pryd y bydd y papur yn ymddangos.

Sefydlu swyddfa

"Fydda i ddim yn enwi dyddiad achos mae'n ffôl i wneud hynny ond mae i gyd yn dibynnu ar pryd y cawn ni'r arian at ei gilydd," meddai Rebecca Williams, Swyddog Datblygu'r Byd.

"O'r pwynt hwnnw bydd angen rhwng chwech a naw mis fwy na thebyg i sefydlu swyddfa, cyflogi golygydd a phawb arall sydd ei angen, gosod systemau a dechrau'r papur go iawn."

Dywedodd ei bod yn credu y bydd yn flwyddyn dda eto cyn y bydd y papur yn ymddangos.

Er hynny mae rhai o'r cyfranddalwyr yn parhau'n amyneddgar.

"Mae yna hysbyseb ar y teledu yn dweud fod y pethau gorau'n dod i'r rheiny sy'n aros ac rydyn ni i gyd sydd wedi buddsoddi yn awyddus i weld y Byd cyn gynted â phosib," meddai Morys Gruffydd sydd ymhlith y 300 o gyfranddalwyr sydd wedi cyfrannu o leia £500 i'r fenter.

Y gobaith yw y bydd 7,000 o brynwyr y rhifyn ar gyfer y flwyddyn gyntaf Y Byd a hynny'n codi i rhwng 12,000 a 15,000 ymhen pum mlynedd.

Mae angen codi £300,000 gan fuddsoddwyr ac maen nhw wedi cyflawni 90% o'r nod hwnnw ond bydd angen swm cyfatebol gan y sector masnachol.




HEFYD:
Swydd newydd ar ôl teithio'r byd
18 Maw 05 |  Newyddion
'Amheuon' am bapur newydd Cymraeg
29 Medi 04 |  Newyddion
Papur dyddiol 'mewn blwyddyn'
22 Ion 04 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^